Cyhoeddiad Newydd: Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad

Cyhoeddwyd 12/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae ‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’ (PDF, 13.6MB) yn gyhoeddiad sydd wedi’i baratoi gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'n cynnwys detholiad o faterion sy'n debygol o fod o bwys i Aelodau yn y Pumed Cynulliad: o'r diwydiant dur i ddyfodol deddfu yng Nghymru. Mae'n dangos y math o waith y gallwn ei wneud ar ran Aelodau – dadansoddi arbenigol gan ddefnyddio ystod eang o ffynonellau mewn fformat cryno a darllenadwy. Rydym yn gweithio ar sail yr egwyddor ein bod yn rhoi gwasanaeth diduedd ac annibynnol, ac rydym yn trin ceisiadau gan Aelodau o bob plaid yn wrthrychol ac yn gyfrinachol, gan roi'r un sylw i bob un.

Dyma ddelwedd o glawr y cyhoeddiad: Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad

Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA