Pwerau trethu i Gymru

Cyhoeddwyd 16/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mai 2016 Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Daw’r erthygl hon o ‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Yn ystod y Pumed Cynulliad, bydd Cymru’n cael cyfrifoldeb am ei threthi ei hun am y tro cyntaf ers dros 800 mlynedd. Beth mae hyn yn ei olygu i drethdalwyr Cymru?

Yn 2018, bydd y trethi datganoledig cyntaf yn cael eu trosglwyddo i Gymru. At hynny, bydd Llywodraeth Cymru’n cael pwerau benthyca sylweddol yn y cyfnod hanesyddol hwn. Bydd y pwerau hyn yn rhoi mwy o atebolrwydd ariannol i Lywodraeth Cymru, a bydd angen craffu'n agos ar hyn yn y Pumed Cynulliad. Pa drethi a gaiff eu datganoli i Gymru? Mae Deddf Cymru 2014 yn golygu bod amryw o drethi am gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill 2018, bydd Cymru’n cael cyfrifoldeb am y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Tax varying powers-Welsh-01 Beth sy'n cael ei wneud i baratoi ar gyfer trethi datganoledig? Pasiodd y Pedwerydd Cynulliad Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 ym mis Mawrth 2016. Mae'r Ddeddf yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), a’i brif waith fydd casglu a rheoli trethi datganoledig. Disgwylir i Lywodraeth newydd Cymru gyflwyno dau Fil yn ymwneud yn benodol â threthi yn fuan ar ôl etholiad y Cynulliad yn 2016, a’r rheini’n gwneud trefniadau i weinyddu’r ddwy dreth uchod. Sut y bydd trethi Cymru yn gweithio?

1. Treth Trafodiadau Tir

Bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru a bydd yn berthnasol i drafodion eiddo preswyl a dibreswyl. Daw cyfran sylweddol o'r Dreth Trafodiadau Tir o drafodion eiddo preswyl. Tax varying powers-Welsh-02 Ym mis Rhagfyr 2014, newidiodd Llywodraeth y DU ei dull o gyfrifo treth stamp ar drafodion eiddo preswyl drwy symud i system gyfradd ymylol. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar y gyfran o werth yr eiddo sy'n dod o fewn pob band Treth Dir y Dreth Stamp y bydd pob un o gyfraddau newydd y dreth hon yn daladwy. Yn ei dogfen ymgynghori Datganoli Trethi i Gymru – Treth Trafodiadau Tir, barn Llywodraeth Cymru yw bod hon yn system decach ar gyfer prynwyr cartrefi a chynigiodd barhau â system gyfradd ymylol. Fodd bynnag, Llywodraeth newydd Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ac yn sefydlu’r cyfraddau a’r bandiau treth newydd. Newidiodd Llywodraeth y DU Dreth Dir y Dreth Stamp hefyd ar gyfer trafodion eiddo dibreswyl (fel eiddo masnachol, tir amaethyddol a thir datblygu) i system gyfradd ymylol ym mis Mawrth 2016. Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu sut y caiff trafodion dibreswyl eu trethu pan gyflwynir y Bil Treth Trafodiadau Tir yn y Pumed Cynulliad.

2. Treth Gwarediadau Tirlenwi

Bydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn disodli Treth Tirlenwi Llywodraeth y DU, sef treth ar gyfer cael gwared ar wastraff mewn safleoedd tirlenwi. Bwriedir i'r dreth newydd gefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd, gwastraff, yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cyfraddau'r dreth yn nes at gyflwyno'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. A fydd unrhyw beth arall yn digwydd ar ôl i'r trethi gael eu datganoli? Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cael pwerau ychwanegol i reoli ei chyllid drwy gronfa arian wrth gefn a phwerau benthyca helaeth.

3. Cronfa arian wrth gefn

Bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cael gafael ar gronfa newydd o arian wrth gefn i helpu i reoli ansefydlogrwydd mewn refeniw treth neu gefnogi gwariant ychwanegol drwy ddarparu modd o gadw refeniw dros ben.

4. Pwerau benthyca

Mae Deddf Cymru 2014 hefyd yn cynnwys pwerau benthyca newydd i Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol neu fenthyciwr arall. Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn gallu benthyca o fis Ebrill 2018. Tax varying powers-Welsh-03 A gaiff trethi eraill eu datganoli yn y dyfodol? Mae cynlluniau ar gyfer datganoli ffrydiau treth eraill i Gymru yn y dyfodol. Nid oes amserlen glir, ond mae potensial i'r trethi hyn gael eu datganoli'n llawn neu ddechrau cael eu datganoli yn ystod y Pumed Cynulliad.

5. Ardoll Agregau

Treth yw'r ardoll hon ar ymelwa masnachol ar graig, tywod a graean yn y DU. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i ddatganoli'r ardoll yn amodol ar benderfyniad ynghylch heriau cyfreithiol cyfredol. Byddai'r ardoll agregau yn codi £32 miliwn pe caiff ei datganoli yn 2018-19 yn ôl rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

6. Treth Incwm

Yn Adolygiad o Wariant 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gael gwared ar y gofyniad i gynnal refferendwm yng Nghymru cyn datganoli treth incwm yn rhannol. Ar gyfer pob cyfradd treth incwm, disgwylir i Lywodraeth Cymru gasglu 10 ceiniog am bob punt a enillir dros y lwfans personol (hyd at £11,000 ar gyfer 2016-17). Rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yw y byddai Llywodraeth Cymru yn casglu dros £2 biliwn y flwyddyn gan drethdalwyr Cymru i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus unwaith y bydd treth incwm wedi'i datganoli'n rhannol. Ffynonellau allweddol View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg