Dyfodol y diwydiant dur

Cyhoeddwyd 19/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Mai 2016 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Datblygiadau yn y diwydiant dur oedd un o'r materion gwleidyddol amlycaf yn 2016. Beth yw'r prif bwysau sy'n wynebu'r diwydiant a sut all Llywodraeth newydd Cymru helpu i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy iddo?

Penderfyniad Tata Steel ym mis Mawrth 2016 i werthu ei asedau yn y DU oedd y datblygiad diweddaraf mewn 'storm berffaith' o heriau diweddar i’r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU. Yn ogystal â'r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, mae gan Tata nifer o weithfeydd eraill yng Nghymru: Llanwern, yr Orb yng Nghasnewydd, Shotton, a Throstre ger Llanelli. Ymhlith y cynhyrchwyr eraill sydd â gweithfeydd yng Nghymru mae Celsa Steel a Liberty House Steel UK. Ledled Cymru, roedd 6,420 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau haearn a dur yn 2015, ac roedd y diwydiant dur sylfaenol a'r gadwyn gyflenwi yn cyfrif am yn agos at 20,000 o swyddi. Canfu’r Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd mai £3.2 biliwn yw cyfanswm effaith economaidd Tata yng Nghymru bob blwyddyn, a'i fod yn cefnogi Gwerth Ychwanegol Gros o £1.6 biliwn. Mae Tata yn cyfrannu £200 miliwn mewn cyflogau i economi Cymru bob blwyddyn, ac mae pob swydd yn Tata yn cefnogi 1.22 o swyddi eraill yn economi Cymru. steelworks-cy Beth yw'r opsiynau i sicrhau dyfodol gweithfeydd Tata Steel? Cymerodd naw mis i gael y cytundeb gwerthiant amodol ar gyfer gweithfa Tata yn Scunthorpe ym mis Ebrill 2016, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi annog Tata i ganiatáu digon o amser ar gyfer gwerthu. Ym mis Mawrth 2016, prynodd Llywodraeth yr Alban ddau o weithfeydd dur Tata cyn eu gwerthu ymlaen i Liberty Steel ar yr un diwrnod. Mae'r opsiynau posibl ar gyfer safleoedd Tata yn cynnwys: gwerthu'r holl weithfeydd; rheolwyr yn prynu safleoedd penodol; gwladoli; cyd-fuddsoddi rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat; rhewi'r safleoedd dros dro yn eu cyflwr presennol i alluogi eu hailagor yn y dyfodol; neu gau'r cyfan. Cynigiodd Llywodraeth flaenorol Cymru becyn gwerth dros £60 miliwn i Tata, a oedd yn cynnwys cyllid ar gyfer cynnyrch amgylcheddol a sgiliau a hyfforddiant, a benthyciad masnachol i ddatblygu llinell galfaneiddio ar gyfer gorchuddio dur. Trafodwyd hefyd gyd-fuddsoddi mewn gorsaf bŵer ar safle Port Talbot, a fyddai'n arwain at gostau ynni is ac at ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon. O ystyried maint y buddsoddiad sydd ei angen yng ngweithfeydd Tata, byddai hefyd angen cymorth gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y byddai'n ystyried cyd-fuddsoddi â phrynwr ar delerau masnachol, gan gynnwys, o bosibl, derbyn y cyfrifoldeb am rai o'r dyledion sy'n gysylltiedig â'r gweithfeydd. Gallai Llywodraeth y DU hefyd helpu gyda’r cyflenwad pŵer, drwy Gynllun Pensiwn Dur Prydain, ac o ran y seilwaith. Sut mae mynd i'r afael â’r heriau sy'n wynebu'r sector? Ar ddechrau’r argyfwng, roedd y diwydiant o’r farn ei fod yn wynebu pum prif her, ac mae pedwar ohonynt yn bryderon mawr i'r sector o hyd. Mae rhai o'r rhain yn feysydd sydd heb eu datganoli, sy'n golygu y bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Beth yw dympio, a pha fesurau sy'n cael eu defnyddio i'w atal ar hyn o bryd?

Ystyr dympio yw pan fydd pris allforio cynnyrch fel dur yn is na phris y farchnad yng ngwlad yr allforiwr, neu efallai hyd yn oed yn is na'r pris cost. Mae’r UE yn ymchwilio i'r achosion hyn, ac mae'n gallu gosod tariffau ar lefel y dympio, oni bai y byddai tariff is yn gwneud iawn am y golled i gynhyrchwyr yn yr UE. Y rheol 'dyletswydd leiaf' yw’r enw ar hyn.

Mae 'dympio' dur yn cael sylw ar lefel yr UE, ac mae'r pryderon yn ymwneud â gallu dur Ewropeaidd i gystadlu'n fyd-eang ag allforion Tsieina a Rwsia. Lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion i fynd i'r afael â'r heriau hyn ym mis Mawrth 2016, gan gynnwys lleihau faint o amser y mae ymchwiliadau gwrth-ddympio yn ei gymryd a newid y ffordd y mae tariffau gwrth-ddympio yn cael eu cyfrifo mewn rhai amgylchiadau. Pryder arall yw'r effaith y byddai dyfarnu Statws Economi'r Farchnad i Tsieina yn ei chael ar gamau y gellid eu cymryd yn erbyn 'dympio'. Mae prisiau ynni ar gyfer cynhyrchwyr dur yn y DU yn uwch na gwledydd eraill Ewrop, er bod Llywodraeth y DU yn digolledu diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni. Er bod cynhyrchwyr dur wedi croesawu'r pecyn digolledu, maent yn dal i dalu llawer mwy am drydan na’u cystadleuwyr yn Ewrop ac maent am weld rhagor yn cael ei wneud Mae'n debyg bod ardrethi busnes sy'n cael eu talu gan gynhyrchwyr yn y DU rhwng pump a deg gwaith yn uwch na'r rhai mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Yng Nghymru, mae pwerau dros ardrethi busnes wedi'u datganoli'n llwyr i Lywodraeth Cymru. Mae'r sector wedi galw am beidio â chynnwys gwerth peiriannau a pheirianwaith wrth gyfrifo biliau ardrethi busnes, gan fod hynny’n cymell cwmnïau i beidio â buddsoddi. Ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn dal i ystyried sut i fynd i'r afael â'r mater hwn ar gyfer holl ddiwydiant gweithgynhyrchu Cymru. Mae'r diwydiant dur hefyd am i sector cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddefnyddio'r broses gaffael ar gyfer prosiectau seilwaith mawr i roi mwy o gefnogaeth i ddur y DU. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru o'r farn bod ei pholisïau caffael yn cefnogi egwyddorion y Siarter ar gyfer Dur Cynaliadwy Prydeinig, er bod y diwydiant wedi galw am fonitro a gweithredu polisïau caffael yn agosach. Mae Tasglu Tata, a sefydlwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, yn datblygu rhestr o brosiectau seilwaith a allai fod o gymorth i'r diwydiant dur, ac yn edrych ar sut y mae prosiectau cyfalaf mawr yn gosod meini prawf ar gyfer caffael dur. Mae'r diwydiant dur hefyd wedi nodi y byddai cyd-fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn ymchwil a datblygu yn ffordd i ddatblygu'r sector dur. Bydd penderfyniadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn effeithio ar ddyfodol agos a dyfodol hirdymor y diwydiant. Gan fod miloedd o swyddi a dyfodol diwydiant cyfan yn y fantol, un o'r heriau mawr cyntaf i Lywodraeth nesaf Cymru fydd gweithio â phartneriaid i leddfu'r pwysau sy'n wynebu'r sector hwn. Ers i’r erthygl hon gael ei hysgrifennu ar gyfer copi caled y cyhoeddiad Materion o Bwys, bu nifer o ddatblygiadau:
  • Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno manylion pellach am gymorth a allai fod ar gael i’r prynwr llwyddiannus, gan gynnwys y posibilrwydd y bydd yn cymryd cyfran ecwiti o hyd at 25%;
  • Mae Tata wedi cyhoeddi bod saith ymgeisydd wedi cyrraedd cam nesaf y broses ymgeisio. Mae’r rhain yn cynnwys Liberty Steel ac Excalibur Steel UK, a’r sôn yw eu bod hefyd yn cynnwys Greybull Capital, JSW Steel a Nucor; ac
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi cynnig cymorth ariannol i gynnig Excalibur Steel UK, ond nid yw’n hysbys eto beth yw gwerth y cymorth hwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gefnogaeth ffurfiol o gais Excalibur gan fod cymorth ar gael i ymgeiswyr eraill os byddant yn gofyn amdano.
Ffynonellau allweddol Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg