Y Polisi Amaethyddol Cyffredin

Cyhoeddwyd 19/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Mai 2016 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Daw’r erthygl hon o ‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae’r cymorth sydd ar gael drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn hanfodol i lawer o ffermydd a busnesau cefn gwlad. Sut mae’r polisi’n gweithio a pha newidiadau a allai fod ar y gorwel?

Polisi cymorth fferm yr UE yw’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC). Bydd ffermwyr Cymru yn cael €322 miliwn y flwyddyn mewn taliadau cymorth uniongyrchol erbyn 2019, tra bydd Llywodraeth Cymru yn cael €355 miliwn i gefnogi ei Rhaglen Datblygu Gwledig rhwng 2014 a 2020. Ym mis Mai 2009, roedd Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif mai’r PAC oedd i gyfrif am y gyfran fwyaf o broffidioldeb y mwyafrif o fusnesau fferm. Felly, mae dyfodol y PAC a sut mae’n cael ei gyflwyno yng Nghymru yn fater o gryn bwys i’r sector amaeth ac i randdeiliaid eraill yng nghefn gwlad. Er y gall dyfodol uniongyrchol y PAC fod yn llai perthnasol os bydd pobl y DU yn pleidleisio i adael yr UE, bydd trafodaethau am y cymorth sydd ar gael i ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru yn parhau’n bwnc pwysig. Sut mae’r PAC yn gweithio? [caption id="attachment_5252" align="alignright" width="300"]Llun o ddefaid mewn cae ar fachlud haul. Llun o Flickr gan Phil Price. Dan drwydded y Creative Commons[/caption] Mae’r PAC yn rhoi cymorth incwm uniongyrchol i ffermwyr, a chyllid datblygu gwledig i gymunedau a busnesau ar draws yr UE. Cafodd y polisi ei sefydlu’n wreiddiol ym 1962 i annog ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, ac mae wedi bod yn destun cyfres o ddiwygiadau sylweddol, gyda’r d diweddaraf yn cael eu cwblhau yn 2014. Er gwaetha’r newidiadau hyn, mae’r polisi yn parhau’n un o ymrwymiadau ariannol mwyaf yr UE, gan ei fod i gyfrif am tua 40% o gyllideb yr UE. Mae’r PAC yn cynnwys dwy elfen wahanol, a chyfeirir ym aml at y rhain fel dwy ‘golofn’ y polisi. Mae’r golofn gyntaf yn rhoi cymorth incwm uniongyrchol i ffermwyr. Gwneir hyn yn bennaf drwy’r Cynllun Taliad Sylfaenol. O dan y cynllun hwn caiff pob ffermwr cymwys daliad blynyddol os bydd yn cydymffurfio â nifer o amodau amaethyddol ac amgylcheddol sylfaenol. Caiff taliadau a wneir o dan golofn 1 eu hariannu’n llawn o gyllideb yr UE; caiff swm blynyddol ei roi i bob aelod-wladwriaeth, a bydd y gwledydd wedyn yn ei ddosbarthu i ffermwyr. Yn y DU, rhennir y swm hwn rhwng pedair gwlad y DU. Y gweinyddiaethau datganoledig sy’n gyfrifol am roi’r polisi ar waith yn eu tiriogaethau eu hunain. Er bod yn rhaid i lywodraethau gydymffurfio â nifer o reolau sy’n gyffredin ledled yr UE ar sut y dylai’r arian gael ei ddosbarthu, maent hefyd yn cael rhywfaint o ryddid i dalu’r arian mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u hanghenion. Mae colofn 2 yn rhoi arian yr UE i lywodraethau ar gyfer rhaglenni datblygu gwledig. Mae’n ofynnol i’r llywodraethau ddarparu arian cyfatebol i gyd-fynd â’r arian hwn. Mae’r rhaglenni hyn yn cwmpasu cyfnod o saith mlynedd ac maent yn cynnwys amrywiaeth o gynlluniau cyllido gwahanol sy’n cefnogi busnesau fferm, gwelliannau amgylcheddol a chymunedau gwledig. Mae Rhaglen Datblygu Gwledig bresennol Cymru yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2014 a 2020 ac mae’n canolbwyntio ar wneud amaethyddiaeth Cymru yn fwy cystadleuol, ar gefnogi dulliau cynaliadwy o reoli adnoddau naturiol ac ar gefnogi datblygiad economaidd cymunedau gwledig. Beth yw’r materion o bwys o ran y PAC 2014-2020? Ers ei sefydlu bu’r PAC drwy gyfres o ddiwygiadau a oedd â’r nod o sicrhau bod y polisi yn canolbwyntio’n fwy ar y farchnad, yn fwy ffafriol i fasnach rydd ac yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. Tuedda pob cylch y polisi i gwmpasu cyfnod o saith mlynedd i gyd-fynd â chyfnodau cynllunio ariannol yr UE. Mae’r cylch diweddaraf yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2014 a 2020. Mae’r cylch diweddaraf o ddiwygiadau'n cyflwyno nifer o newidiadau arwyddocaol i’r polisi. Mae’r rhain yn cynnwys:
  • newid i system lle mae ffermwyr yn cael eu talu ar sail arwynebedd (ee faint o dir ffermio y maent yn berchen arno, yn hytrach na faint y maent wedi’i gynhyrchu’n hanesyddol);
  • gofyniad ar ffermwyr i ymgymryd â nifer o gamau ‘gwyrdd' cyn cael cymorth (camau sydd â’r nod o wella cyfraniad amgylcheddol ffermydd, fel ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr gynnwys ardaloedd sydd â ffocws ecolegol ar eu tir);
  • dulliau cymorth newydd i ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant; a
  • gofyniad ar y rhai sy’n ymgeisio am gymorth i brofi eu bod yn mynd ati i ffermio’r tir y maent yn berchen arno.
Bu’r newidiadau hyn yn hynod o gymhleth ac yn anodd i lywodraethau eu gweinyddu, ac mae ffermwyr wedi cael eu taliadau’n hwyr o ganlyniad Maent wedi arwain at heriau cyfreithiol mewn rhai achosion. Yng Nghymru, byddai’r rhan fwyaf o ffermwyr yn draddodiadol yn disgwyl cael eu taliad blynyddol llawn o dan y Cynllun Taliad Sylfaenol ym mis Rhagfyr bob blwyddyn. Ar gyfer cylch taliadau 2015, fodd bynnag, mae ffermwyr wedi cael taliadau mewn dau randaliad ar wahân, a’u cael yn hwyrach nag arfer. Ar 8 Ebrill 2016, dim ond 75% o ffermwyr Cymru a oedd wedi cael eu taliad llawn ar gyfer 2015. Nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Gymru gan fod nifer o lywodraethau’n cael trafferth i ddosbarthu’r taliadau o dan y rheolau newydd. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cydnabod cymhlethdod y rheolau PAC presennol, ac mae Phil Hogan, y Comisiynydd Amaethyddiaeth, wedi cyflwyno nifer o newidiadau i symleiddio’r rheolau. Disgwylir y bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi rhagor o fesurau i’w symleiddio erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru ystyried y newidiadau hyn a phenderfynu sut y bydd yn eu rhoi ar waith yng Nghymru. Beth nesaf i’r polisi? Er mai cwta flwyddyn sydd ers cyflwyno’r PAC presennol, mae rhanddeiliaid a gwneuthurwyr polisi eisoes yn dechrau sôn am ffurf y polisi ar ôl 2020. Cymerodd y dadleuon a’r trafodaethau ar y cylch diwethaf o ddiwygiadau fwy na thair blynedd i’w cwblhau. Os bydd y cylch nesaf o ddiwygiadau yn dilyn patrwm tebyg, bydd dogfennau ymgynghori ffurfiol a phapurau yn dechrau ymddangos ddechrau 2017, ond mewn gwirionedd mae trafodaethau ynghylch cyfeiriad y PAC yn y dyfodol eisoes wedi dechrau. Mae’r farchnad wedi bod yn anwadal iawn, a ffermwyr yn yr UE wedi gweld prisiau’n tueddu i ostwng dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae hyn wedi prysuro’r trafodaethau. Dros y deuddeg mis diwethaf, bu’n ofynnol i’r Comisiwn Ewropeaidd gymryd camau nas gwelwyd o’r blaen ar ddau achlysur gwahanol i gyflwyno pecynnau cymorth mewn argyfwng ar gyfer sectorau ffermio allweddol. Yng Nghymru, mae cyflwr y farchnad ehangach a’r profiad o fynd drwy’r cylch diweddaraf o ddiwygiadau wedi peri i randdeiliaid alw ar Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad i fod yn rhan o’r trafodaethau’n gynnar er mwyn sicrhau bod y PAC ar ôl 2020 yn darparu’n dda ar gyfer Cymru. Os bydd pobl y DU yn pleidleisio i adael yr UE, bydd rhanddeiliaid yn debygol o alw ar Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad i gynnal trafodaethau buan ynghylch y cymorth fydd ar gael i ffermwyr yn y dyfodol, ac i sicrhau bod busnesau fferm yn gallu ymdopi ag unrhyw newidiadau sydd i ddod. Ffynonellau allweddol   Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg