Dyfodol ynni Cymru

Cyhoeddwyd 20/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

20 Mai 2016 Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae'r byd datblygedig yn symud oddi wrth ffynonellau ynni 'budr' a thuag at greu ynni mewn ffyrdd mwy amrywiol. Gyda chyfreithiau newydd a chytundebau rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd yn gefndir, sut y gall Cymru ymateb i'r her?

Mae cyfyngu ar newid yn yr hinsawdd drwy leihau'n sylweddol faint o garbon a gaiff ei ryddhau i'r atmosffer yn un o'r heriau mawr sy'n wynebu'r byd. Y sector cyflenwi ynni yw un o'r allyrwyr nwyon tŷ gwydr mwyaf yng Nghymru. Os ydym am gyflawni ymrwymiadau rhyngwladol a domestig i leihau allyriadau (gweler yr erthygl ar newid yn yr hinsawdd), un ffordd o symud i’r cyfeiriad cywir yw ystyried sut y caiff ynni ei gynhyrchu, ei gyflenwi a'i drosglwyddo. Mae hyn yn elfen allweddol wrth fynd i'r afael â'r broblem driphlyg sy’n ein hwynebu, sef beth sy’n fforddiadwy, sicrhau cyflenwad digonol, a sut mae rhyddhau llai o garbon. Cyd-destun Cymru Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ymrwymo Cymru i allyrru 80 y cant yn llai o nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Roedd y rhestr ddiweddaraf o nwyon tŷ gwydr yng Nghymru yn dangos bod cyflenwi ynni wedi cyfrannu 42% at gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr 2013. Prif ffynonellau yr allyriadau oedd gorsafoedd pŵer (76%) a phurfeydd olew (16%). Os yw Cymru am newid i ddyfodol ynni glanach, gwyrddach a chynaliadwy, mae’n rhaid i ynni adnewyddadwy fod yn fwy blaenllaw. Mae'r Bil Cymru arfaethedig yn debygol o roi rhagor o bwerau cydsynio i Lywodraeth Cymru ar brosiectau ynni. Ar adeg pan fo llawer o brosiectau ynni mawr ar y gorwel, a rhai ohonynt yn destun cryn ddadlau, gallai'r Pumed Cynulliad fod yn drobwynt yn ein hagweddau tuag at ddatblygiadau ynni. Mater o gydbwysedd Mae'r model ynni cyfredol yng Nghymru yn defnyddio cyfuniad o ffynonellau adnewyddadwy ac anadnewyddadwy. Nid yw dibynnu ar danwydd ffosil yn gynaliadwy yn y tymor hir, a bydd angen datblygu ffynonellau adnewyddadwy er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth y DU a'r UE ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn ogystal ag er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o danwydd ar gael. Mae gan Gymru adnoddau naturiol helaeth, gan gynnwys daearyddiaeth a thopograffeg sy'n addas ar gyfer amrywiaeth eang o dechnolegau ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, mae gwahanol safbwyntiau ynghylch i ba raddau y bydd angen denu mewnfuddsoddiad ar gyfer prosiectau ynni mwy yn y dyfodol, ynteu a fydd atebion lleol, ynghyd â chamau i arbed ynni, yn ddigon er mwyn i Gymru i gael y rhan fwyaf o’r ynni sydd ei angen arni. Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru wneud ei safbwynt yn glir tuag at gefnogi ar y naill law brosiectau mawr fel datblygiadau niwclear newydd, morlynnoedd llanw, ffermydd gwynt, gwelliannau i'r grid a rhyngysylltyddion, ac ar y llaw arall gynlluniau lleol a chymunedol fel prosiectau micro-hydro, ynni biomas, ynni haul a gwynt. Y fframwaith deddfwriaethol Bydd sicrhau'r cyfuniad cywir o ynni yn y dyfodol yn allweddol i gyflawni’r ymrwymiadau ar newid yn yr hinsawdd a geir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn ogystal ag i gyflawni’r uchelgais ar gyfer datblygu cynaliadwy sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. O dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, un newid pwysig yw cyflwyno categori newydd o ganiatâd cynllunio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Yn y dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu'n uniongyrchol ar geisiadau ar gyfer y datblygiadau hyn os ydynt yn brosiectau cynhyrchu ynni rhwng 10MW a 50MW. Yn sgil newidiadau cyfreithiol diweddar a wnaed yn Lloegr, gall Llywodraeth Cymru benderfynu ar bob cais sy’n ymwneud â ffermydd gwynt ar y tir, waeth beth yw ei faint. Disgwylir y bydd y Bil Cymru arfaethedig yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ar bob prosiect ynni mawr arall hyd at 350MW ar y tir ac ar y môr (Llywodraeth y DU sy’n penderfynu ar y rhain ar hyn o bryd). Polisïau Llywodraeth ddiwethaf Cymru Yn 2012, amlinellodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru ei gweledigaeth ar gyfer ynni yn Ynni Cymru: Newid carbon isel. Yn 2015, cyhoeddwyd Twf Gwyrdd Cymru: Ynni Lleol, yn amlinellu agwedd y Llywodraeth at ynni lleol. Yn fwy diweddar, lansiodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, y Gwasanaeth Ynni Lleol. Nod y gwasanaeth hwn yw rhoi cymorth technegol ac ariannol i fentrau bach a chanolig, yn ogystal â mentrau cymdeithasol, i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy. Trawsnewid y sefyllfa ynni Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad ddau ymchwiliad mawr yn ymwneud ag ynni. Roedd y cyntaf, Polisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru, yn ystyried sut mae trefniadau datganoli ar gyfer polisi ynni a chynllunio yn effeithio ar y gallu i gael y cyfuniad o ynni y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno’i weld yn y dyfodol. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y sector ynni yn hanfodol bwysig i Gymru, a bod potensial enfawr ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy yma. Roedd yr ail ymchwiliad, Dyfodol Ynni Craffach i Gymru? yn adeiladu ar y gwaith hwn. Roedd ei argymhellion ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru yn cynnwys y canlynol:
  • mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth, a dylai'r polisi helpu Cymru i gael ei holl ynni domestig o ffynonellau adnewyddadwy;
  • dylid rhoi pwys ar arbed ynni, ar leihau'r galw, ac ar ddefnyddio rheoliadau adeiladu wrth annog newid;
  • dylai Cymru achub ar gyfleoedd i ddylunio lleoedd mwy craff sy'n integreiddio seilwaith trafnidiaeth, ynni a chyfathrebu mewn ffyrdd arloesol, a hynny’n gwella lles ac yn lleihau allyriadau carbon;
  • gallai gosod mesurau i arbed ynni yn y stoc dai bresennol wneud cyfraniad mawr, a bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru fel Nyth ac Arbed yn allweddol;
  • dylid sefydlu Cwmni Cyflenwi Ynni di-elw yng Nghymru; a
  • dylid sicrhau bod polisïau cynllunio a’r broses o wneud penderfyniadau yn cyd-fynd â’r weledigaeth ar gyfer polisi ynni’r dyfodol. Mae angen i bolisïau cynllunio cenedlaethol a lleol hefyd annog gostyngiadau mewn allyriadau carbon.
Barn y Pwyllgor oedd fod pawb yng Nghymru yn rhannu'r cyfrifoldeb dros newid i ddyfodol ynni craffach. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y fframwaith deddfwriaethol eisoes gennym er mwyn lleihau allyriadau carbon, annog cyflenwadau ynni lleol a chynyddu cyflenwadau ynni adnewyddadwy. Roedd y Pwyllgor o’r farn bod yn rhaid i Gymru, o fewn y polisi a'r fframwaith deddfwriaethol ffafriol hwn, a chyda hwb gan y Llywodraeth a phob sector arall, achub ar y cyfleoedd i newid ein hagwedd tuag at ynni unwaith ac am byth. Ffynonellau allweddol Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg