Dyfodol trefn gyllido Cymru

23 Mai 2016

Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Bydd trethi Cymreig yn rhoi rheolaeth i Gymru dros ei ffrydiau refeniw ei hun am y tro cyntaf ers datganoli. Sut fydd y grant bloc yn cael ei addasu i sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o arian?

Sut mae Cymru yn cael ei hariannu ar hyn o bryd?

Cyn mis Ebrill 2015, câi cyllideb Llywodraeth Cymru ei hariannu’n gyfan gwbl drwy grant bloc gan Lywodraeth y DU.

Barnett Formula Welsh-01

Enghraifft

Pe byddai cynnydd o £100 miliwn yng ngwariant arfaethedig adran drafnidiaeth y DU (adran lle mae 73.1% o’i gweithgareddau wedi’i ddatganoli i Gymru), a 5.69% yw’r amcangyfrif o boblogaeth Cymru fel cyfran o boblogaeth Lloegr, byddai grant bloc Cymru yn cynyddu £4.16 miliwn.

£100 miliwn x 73.1% x 5.69%

Mae’r grant bloc yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio fformiwla Barnett, sef y dull y mae Trysorlys y DU yn ei ddefnyddio i addasu faint o arian a ddyrennir i Gymru. Mae hwn yn adlewyrchu newidiadau mewn lefelau gwariant yn Lloegr mewn meysydd sydd wedi eu datganoli i Gymru, gan ystyried poblogaeth Cymru o’i chymharu â Lloegr.

Yn yr Adolygiad o Wariant ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU derfyn ariannu isaf o 15%. Mae hyn yn golygu na fydd grant bloc Cymru yn gostwng yn is na 115% o’r gwariant cymharol y pen yn Lloegr. Daw’r terfyn ariannu isaf i ben ar ddiwedd y tymor seneddol yn 2020, gan greu ansicrwydd ynghylch y grant bloc yn y dyfodol.

Pa effaith a geir ar lefelau ariannu yng Nghymru yn sgil datganoli trethi?

Cafodd Llywodraeth Cymru ei ffynhonnell refeniw annibynnol gyntaf y tu allan i’r grant bloc yn sgil datganoli ardrethi annomestig (ardrethi busnes) ym mis Ebrill 2015. Gwnaed addasiad untro i’r grant bloc eisoes. Mae’r dreth gyngor hefyd wedi cael ei datganoli i awdurdodau lleol yng Nghymru.

Bydd gan Lywodraeth nesaf Cymru ragor o ffynonellau refeniw sy’n annibynnol ar y grant bloc yn sgil cyflwyno’r Dreth Trafodion Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ym mis Ebrill 2018. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu datganoli’r ardoll agregau a datganoli treth incwm yn rhannol, er bod yr amserlenni yn parhau i fod yn aneglur.

Mae rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos y byddai Llywodraeth newydd Cymru yn rheoli 18.3% yn ychwanegol o gyfanswm ei chyllid erbyn 2019-20 (heb gynnwys ardrethi annomestig) os ydym yn tybio y caiff yr ardoll agregau a threth incwm eu datganoli yn y flwyddyn honno.

Barnett Formula Welsh-02

Mae hyn yn codi’r cwestiwn o sut y bydd y grant bloc yn cael ei addasu i wneud iawn am y trethi datganoledig hyn yn y dyfodol.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r trethi gael eu datganoli?

Bydd y grant bloc yn mynd trwy broses a elwir yn ‘addasu’r grant bloc’ i wneud iawn am refeniw’r trethi datganoledig. Nid yw’n glir ar hyn o bryd pryd a sut y bydd yr addasiad yn cael ei wneud. Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i’r trethi gael eu datganoli, yr oll fydd yn digwydd yw bod yr un swm â’r refeniw y disgwylir iddo gael ei godi trwy drethi Cymreig yn cael ei dynnu oddi ar y grant bloc. Ni fyddai’r addasiad hwn yn briodol yn y blynyddoedd wedi hynny gan na fyddai’n rhoi ysgogiad i Lywodraeth Cymru gynyddu’r sylfaen dreth.

Ystyriodd Comisiynau Holtham a Silk amrywiaeth o ddulliau posibl ar gyfer y tymor hir, ac argymhelliad y ddau oedd dull lle y byddai’r grant bloc yn cael ei addasu yn unol â’r newid blynyddol yn sylfaen dreth y DU. Gelwir hyn yn ‘ddull didyniad wedi’i fynegrifo’.

Os defnyddir y dull anghywir o addasu’r grant bloc, gallai Cymru golli cannoedd o filiynau o bunnoedd o’r gyllideb ar ôl datganoli’r trethi i gyd. Bydd cyfraniad y Pumed Cynulliad yn hollbwysig o ran adolygu’r trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac o ran sicrhau bod y dull a ddewisir yn addas ar gyfer Cymru.

Mae’r trafodaethau hir rhwng Llywodraethau’r Alban a’r DU i gytuno ar ddull ariannu teg ar gyfer yr Alban hefyd yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod y bloc grant yn cael ei addasu’n gywir. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fyddai’r dull pum mlynedd y cytunwyd arno ar gyfer yr Alban o reidrwydd yn rhoi canlyniad derbyniol yng Nghymru o ystyried bod dosbarthiad incwm trethdalwyr yn wahanol.

Beth yw goblygiadau hyn i Gymru?

Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, mae cyfran Cymru o dreth incwm y DU wedi lleihau ers 2009-10, a nododd ei bod yn debygol mai effeithiau anghymesur mesurau polisi llywodraeth y DU a oedd yn gyfrifol am hyn.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae polisïau codi refeniw yn gyffredinol wedi targedu pen uchaf y dosbarthiad incwm a thoriadau treth wedi cael mwy o effaith ar y pen isaf (ee cynyddu’r lwfans personol, sy’n debygol o barhau i fod yn un o bolisïau Llywodraeth y DU).

O gofio bod lefelau incwm Cymru ymhell islaw cyfartaledd y DU, mae newidiadau polisi o’r fath wedi cael effaith anghymesur ar dderbyniadau treth incwm yng Nghymru, gan arwain at refeniw is yng Nghymru o’i chymharu â gweddill y DU.

Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru adroddiad ar dreth incwm yng Nghymru ym mis Chwefror 2016, yn disgrifio’r effaith anghyson a gaiff polisi’r DU ar refeniw treth incwm yng Nghymru. Awgrymodd nad oes rheswm i gredu, o ganlyniad, y gwneir iawn yn ddigonol am y cyllid treth incwm y bydd Llywodraeth Cymru yn ei golli yn sgil polisi treth y DU.

Mae hyn yn dangos yr heriau y mae Llywodraeth newydd Cymru a’r Pumed Cynulliad yn eu hwynebu wrth atal goblygiadau a allai fod yn niweidiol i Gymru.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg