Newid gwasanaethau mewn ysbytai

23 Mai 2016

Erthygl gan Paul Worthington, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae’r cynlluniau ar gyfer newid gwasanaethau mewn ysbytai wedi achosi cryn ddadlau. Beth yw’r achos o blaid ac yn erbyn newid, a sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn ymateb?

Mae unrhyw gynlluniau i newid gwasanaethau mewn ysbytai bron yn sicr o ddenu sylw. Mae gan gymunedau deimladau cryfion am eu hysbytai lleol. Mae ad-drefnu gwasanaethau wedi dod yn derm trymlwythog ei ystyr, ac mae’n hawdd iawn iddo begynnu barn. Mae rhai yn ystyried bod newidiadau yn gyfystyr â bygythiad i ‘israddio’ gwasanaethau; gall eraill eu gweld fel cam cadarnhaol sy’n angenrheidiol er mwyn gwella’r gwasanaethau hynny.

Cyfeiriodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn gyson at yr angen i newid gwasanaethau iechyd Cymru, gan symud buddsoddiad a gwasanaethau o’r ysbytai i’r gymuned. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain a Chonffederasiwn GIG Cymru i gyd wedi adleisio’r alwad honno, gan ddadlau ei bod yn hanfodol trawsnewid gofal iechyd mewn ffordd radical er mwyn sicrhau bod GIG Cymru yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Ceir consensws proffesiynol hefyd bod rhai gwasanaethau ysbyty arbenigol yn cwmpasu ardaloedd daearyddol rhy eang, gan arwain at bryderon ynglŷn â hyfforddi a recriwtio meddygon.

Mae Conffederasiwn GIG Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain a sylwebyddion ym maes polisi iechyd wedi pwysleisio’r angen i gael sgyrsiau onest â’r cyhoedd a chlinigwyr am y dewisiadau, ac am sut y bydd y dewisiadau hynny’n effeithio ar wasanaethau gofal iechyd lleol. Mae cleifion, y cyhoedd a chlinigwyr wedi mynegi amheuon am y sail resymegol dros newid, ac wedi lleisio pryderon ynghylch pa mor effeithiol fu’r broses o drafod y cynigion hynny â’r bobl a’r cymunedau perthnasol.

Beth yw’r achos o blaid newid?

Yn 2012 cyhoeddodd Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru adolygiad annibynnol o sut roedd gwasanaethau ysbytai Cymru wedi’u trefnu. Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys nifer o gasgliadau allweddol:

  • nid oedd y modd yr oedd gwasanaethau ysbyty wedi’u trefnu ar y pryd yn sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion;
  • gallai rhai gwasanaethau gau heb fwriad, a methu’n llwyr o bosibl, oherwydd prinder staff meddygol;
  • oherwydd bod gwasanaethau’n dod yn fwy a mwy arbenigol, gellid sicrhau gwell canlyniadau i gleifion mewn rhai gwasanaethau trwy ganoli staff clinigol arbenigol a lleoli gwasanaethau penodol mewn un safle;
  • bydd gofyn teithio ymhellach o ganlyniad i ganoli, ond gellir lleihau effaith hyn trwy wella’r gofal sydd ar gael y tu allan i’r ysbyty a darparu gwell cludiant; ac
  • roedd achos cryf dros newid sut y mae rhai gwasanaethau mewn ysbytai yn cael eu darparu.

Mae Comisiwn Bevan hefyd wedi cyhoeddi papur dylanwadol ar ofal iechyd darbodus (2013), a oedd yn nodi angen dybryd am gyflwyno mwy o ofal iechyd y tu allan i ysbytai. Derbyniodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn benodol yr argymhellion gofal iechyd darbodus fel sail ar gyfer bwrw ymlaen.

Nid yw pawb wedi derbyn yr achos dros newid. Mae gwrthbleidiau, grwpiau ymgyrchu, cymunedau lleol a rhai clinigwyr wedi mynegi amheuon. Bu galwadau am foratoriwm ar gau ysbytai, ac am ailagor rhai ysbytai a gwasanaethau uned mân anafiadau. Mae gwaith gan y King’s Fund yn Lloegr wedi cefnogi’r achos dros newid gwasanaethau, ond roedd hefyd yn cynghori y dylid bod yn ofalus ynglŷn ag effaith hynny, gan bwysleisio na fydd yr un ateb yn briodol bob tro ar gyfer gwasanaethau lleol.

Nid yw newid bob amser yn anochel. Cafodd cynigion i ganoli gwasanaethau mamolaeth yn y gogledd eu herio gan gymunedau lleol a staff clinigol. Yn ddiweddarach, penderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr beidio â bwrw ymlaen â’r cynigion.

Beth yw’r heriau?

Ochr yn ochr â galwadau i symud oddi wrth ofal ysbyty, mae’r pwysau ar ysbytai acíwt ledled Cymru yn parhau i gynyddu, gyda’r niferoedd sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ac sy’n cael eu derbyn fel achosion brys yn uchel.

Pobl dros 65 oed yw prif ddefnyddwyr gwasanaethau acíwt y GIG, ac yng Nghymru mae nifer y bobl hŷn yn cynyddu. Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi dadlau nad ysbytai acíwt o reidrwydd yw’r lle cywir ar gyfer pobl hŷn, ond mae’n nodi eu bod yn debygol o aros yn yr ysbyty am amser hwy, yn rhannol oherwydd anghenion ym maes adsefydlu. Mae lefelau clefydau cronig hefyd yn cynyddu, gan gynnwys diabetes, problemau â’r cymalau a chlefyd y galon, a bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd. Mae llawer o’r dystiolaeth yn awgrymu bod angen buddsoddi mwy mewn gofal sylfaenol a gofal cymunedol cryfach er mwyn rheoli’r galw hwn.

Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

Mae gan Gymru 16 o ysbytai mawr acíwt a thros 50 o ysbytai cymunedol – heb gynnwys darpariaeth canser arbenigol ac iechyd meddwl.

Ysbytai acíwt mawr yng Nghymru

Mae newid eisoes wedi digwydd. Mae rhai ysbytai cymunedol ac unedau mân anafiadau wedi cau, er bod gwasanaethau newydd wedi agor yng Nghwm Cynon, Ystrad Mynach, Llanfair-ym-Hospital in Wales - Welshmuallt, y Fflint a mannau eraill. Buddsoddodd Llywodraeth flaenorol Cymru gryn dipyn o arian ychwanegol mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn hytrach nag mewn ysbytai.

Mae ymgynghoriadau o bwys wedi’u cynnal ar ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yn y gogledd, y gorllewin a’r de, ac mae newidiadau eisoes ar y gweill mewn ysbytai acíwt mawr, gan gynnwys:

Mae byrddau iechyd yn gweithio ar gynigion ynglŷn â dyfodol gwasanaethau eraill, gan gynnwys trawma mawr, diagnosteg a rhai arbenigeddau llawfeddygol: fe allai arwain at alwadau am fwy o gymorth yn y gymuned ond hefyd am ganoli mwy ar rai gwasanaethau ysbyty. Fodd bynnag, nid oes fawr wedi’i gyhoeddi ar hyn o bryd.

Mae’r ddadl ynglŷn â dyfodol gofal iechyd yng Nghymru yn annhebygol o ddiflannu. Sut fydd Llywodraeth newydd Cymru yn ymateb i’r gwahanol safbwyntiau, y pwysau a’r dewisiadau amrywiol a fydd yn pennu cyfeiriad a chynaliadwyedd gwasanaethau iechyd yng Nghymru?

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg