Cyhoeddiad Newydd: Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) - Hysbysiad Hwylus

Cyhoeddwyd 24/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Mai 2016 Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r rheoliad Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) yn gosod dyletswydd ar Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd i wella eu seilwaith trafnidiaeth er mwyn, yn y pen draw, i'r holl wladwriaethau rannu'r un safon o fewn yr UE. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o'r rheoliad a'i sail resymegol. Mae hefyd yn tynnu sylw at y seilwaith yng Nghymru a fydd angen ei uwchraddio erbyn 2030, er mwyn iddo ddod yn unol â'r rheoliad newydd. Mae'n egluro pa rannau o rwydwaith y seilwaith fydd yn cael eu heffeithio, a sut y gellir cyflwyno'r gwelliannau angenrheidiol. Er mai cyfrifoldeb i'r Aelod-wladwriaethau yw cyflwyno gwelliannau TEN-T, mae'r UE wedi pasio rheoliad Cyfleuster Cysylltu Ewrop (CEF). Ffrwd ariannu CEF sy'n darparu'r prif gyfraniad ariannol gan yr UE ar gyfer rhoi rhwydwaith craidd TEN-T ar waith, sy'n cael ei egluro yn yr hysbysiad hwn. Mae ffynonellau ariannol posibl eraill ar gyfer prosiectau TEN-T hefyd yn cael sylw yma. Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) - Hysbysiad Hwylus (PDF, 624KB) Blog-W View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA