Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Gwaith, lles a thlodi

25 Mai 2016

Erthygl gan Hannah JohnsonGareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Gyda mwy a mwy o bobl mewn tlodi er bod ganddynt waith, a rhagor o ddiwygiadau lles ar y gorwel, beth fydd gan y Pumed Cynulliad i’w gynnig i’r rheini sydd ar incwm isel?

Mae bron chwarter poblogaeth Cymru yn byw o dan y llinell dlodi. Mae hyn yn golygu bod 700,000 o bobl o bob oed, sef 23% o’r wlad, yn byw ar aelwydydd sydd ag incwm wythnosol o £232 neu lai.

Yng Nghymru y mae’r gyfradd uchaf o dlodi yn y DU. Mae’r lefelau wedi bod yn gymharol sefydlog ers deng mlynedd, ond mae’r proffil o ran pwy sy’n byw mewn tlodi wedi newid.

Mae pensiynwyr yn llawer llai tebygol o fod yn dlawd nag oeddent ddeng mlynedd yn ôl, ac mae’r cyfraddau tlodi wedi gostwng o 23% i 14%. Mae lefel tlodi ymhlith plant yr un fath, sef 31%, ac mae hyn yn is na’r ffigur yn 2000, sef 36%.

Fodd bynnag, mae teuluoedd sy’n gweithio a phobl ifanc yng Nghymru mewn mwy o berygl o fod mewn tlodi erbyn hyn nag oeddent ddegawd yn ôl.

Beth yw tlodi?

Ystyrir bod person mewn tlodi os yw incwm yr aelwyd lle mae’n byw yn is na 60% o ganolrif y DU (sef y rhif sydd yng nghanol rhestr o ffigurau).

Canolrif incwm wythnosol aelwydydd yn y DU yw tua £386 ar ôl costau tai, a 60% o’r ffigur hwn yw £232.

Canran o bobl sy'n byw mewn tlodi yn y DU

Pam fod pobl sy’n gweithio yn byw mewn tlodi?

Ai cael swydd yw’r llwybr gorau allan o dlodi? Mae ein lefelau cyflogaeth yn uwch nag erioed yng Nghymru, a’r canran o gartrefi sydd allan o waith yng Nghymru yn is nag erioed. Ar yr un pryd, mae mwy o bobl mewn tlodi er bod ganddynt waith. Sut fydd hyn yn effeithio ar gynlluniau i atal tlodi a chreu swyddi yn y dyfodol?

Mae patrymau gweithio yn cael effaith enfawr ar y risg o fod mewn tlodi. Mae’r cynnydd yn y bobl sydd mewn tlodi er bod ganddynt waith bron yn gyfan gwbl i’w weld mewn teuluoedd sy’n ‘gweithio’n rhannol’ (sef cartrefi lle mae pobl yn gweithio’n rhan-amser, yn hunangyflogedig neu lle mae un gweithiwr llawn amser ac un oedolyn nad yw’n gweithio). O gymharu’r ffigur â degawd yn ôl, mae tua 100,000 yn fwy o bobl mewn tlodi os ydynt yn perthyn i deuluoedd sy’n gweithio’n rhannol. Mewn teuluoedd lle mae pob oedolyn yn gweithio, nid oedd unrhyw gynnydd mewn tlodi yn ystod yr un cyfnod.

Mae’r gyfran uchel o swyddi incwm isel yng Nghymru (sef swyddi sy’n talu llai na dwy ran o dair o’r canolrif ar gyfer cyflog fesul awr yn y DU) yn dylanwadu’n fawr ar y ffigurau hyn. Mae chwarter swyddi Cymru yn rhai cyflog isel, sef yr un gyfran â honno ddeng mlynedd yn ôl. Y gyfran o ran swyddi rhan-amser yw 45%, a menywod sy’n gwneud y swyddi hyn yn bennaf.

Mae’r cydbwysedd rhwng gwaith rhan-amser a gwaith amser llawn wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf, gyda bron i 30,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn gweithio’n rhan-amser bellach o gymharu â dechrau’r dirwasgiad yn 2008. Mae rhai o’r farn bod contractau dim oriau yn cyfrannu at ddiffyg sicrwydd o ran gwaith, ac roedd bron 50,000 o bobl yng Nghymru ar gontractau o’r fath ddiwedd 2015.

At hynny, nid yw 31% o oedolion o oedran gweithio mewn cyflogaeth o gwbl. Mae’r ffigur ychydig yn uwch ar gyfer menywod, sef 34%. Ar gyfer grwpiau lleiafrifoedd ethnig, y ffigur yw 45%, ac ar gyfer pobl anabl, y ffigur yw 55%.

A fydd diwygiadau lles yn arwain at fwy o dlodi yng Nghymru?

Mae Cymru yn fwy dibynnol ar y wladwriaeth les na gwledydd eraill y DU ac felly mae’r toriadau a wnaed i fudd-daliadau ar gyfer pobl mewn gwaith ac allan o waith yn cael mwy o effaith yma. Mae’r incwm cyfartalog yn is na chyfartaledd y DU, felly mae gostyngiadau mewn budd-daliadau yn debygol o gynrychioli canran uwch o’r incwm net.

Gellir dadlau bod tri mesur diwygio lles a fydd yn cael effaith fawr ar lefelau incwm teuluoedd yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad:

  • y mesur tanfeddiannu tai cymdeithasol ar gyfer budd-dal tai (neu’r ‘dreth ystafell wely’, neu’r polisi i ‘gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr’), sy’n effeithio ar tua 30,000 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda gostyngiad wythnosol o £14 y pen ar gyfartaledd;
  • credyd cynhwysol, a fydd yn disodli rhai budd-daliadau a chredydau treth. Mae’r mesur hwn eisoes wedi’i gyflwyno a disgwylir iddo fod ar waith yn llawn erbyn 2021. Yng Nghymru, disgwylir i gredyd cynhwysol gynyddu incwm aelwydydd sydd â phlant ac sy’n gweithio, a lleihau incwm aelwydydd lle nad oes unrhyw un yn gwneud gwaith cyflogedig; a
  • cyflwyno’r taliad annibyniaeth bersonol (PIP) yn lle’r lwfans byw i’r anabl (DLA). Mae’r broses hon yn cynnwys gwneud y meini prawf asesu yn llymach, a lleihau nifer y rhai sy’n gymwys i’w hawlio. Mae mwy nag un ym mhob pum person o oedran gweithio yng Nghymru yn anabl – un o’r cyfrannau uchaf yn y DU.

Beth nesaf?

Mae aelwydydd yng Nghymru yn fwy dibynnol ar fudd-daliadau o gymharu â chyfartaledd y DU. Maent yn debygol o weld gostyngiadau pellach yn eu hincwm dros y pum mlynedd nesaf wrth i nifer fawr o ddiwygiadau newydd gael eu rhoi ar waith.

Cyflogau isel, gwaith ansefydlog a gwaith rhan-amser yw’r prif resymau dros dlodi yng Nghymru, ac mae tua 100,000 yn fwy o bobl yng Nghymru sydd â gwaith, ond mewn tlodi, nag oedd ddeng mlynedd yn ôl. A fydd y teuluoedd hyn yn cael budd o Gyflog Byw Cenedlaethol newydd y DU neu fesurau atal tlodi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ynteu a fydd y toriadau’n drech nag unrhyw fuddion?

Yr her i Lywodraeth newydd Cymru fydd lleihau tlodi pan nad yw’r pwerau dros y ffactorau sylfaenol a all ddylanwadau ar hynny – fel treth, cyfraith cyflogaeth a budd-daliadau – wedi’u datganoli i Gymru.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg