Undeb Ynni yr UE

Cyhoeddwyd 25/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Mai 2016 Erthygl gan Rachel Prior a Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r UE yn mewnforio mwy o ynni nag unrhyw le arall yn y byd. Mae'n mewnforio 53 y cant o'i ynni, sy'n costio tua €400 biliwn y flwyddyn. O'r 28 Aelod-wladwriaeth, mae chwech ohonynt yn mewnforio eu nwy o un cyflenwr, sef Rwsia, sy'n golygu bod y gwledydd hynny'n agored i niwed ar adegau pan fo problemau gyda’r cyflenwad. Mae prisiau nwy cyfanwerth yn fwy na dwywaith yn uwch na'r prisiau yn UDA, ac mae prisiau trydan cyfanwerth yn fwy na 30 y cant yn uwch. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn credu y gellid sicrhau prisiau is a mwy o ddiogelwch o ran ynni drwy Undeb Ynni mewnol, fel y cynigiwyd ym mis Chwefror 2015. Mae'r papur briffio hwn yn rhoi amlinelliad o'r Undeb Ynni a gynigir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Undeb Ynni yr UE (PDF, 730KB) blog-cy View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA