Awdurdodaeth benodol i Gymru

26 Mai 2016

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Daw’r erthygl hon o Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Mae mwy a mwy o wahaniaethau yng nghyfreithiau Cymru a Lloegr. A yw’n bryd cael awdurdodaeth benodol?

Mae’r diffiniad o awdurdodaeth yn un hyblyg ond mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn cytuno ei bod yn cwmpasu tiriogaeth benodol, y gyfraith sy’n gymwys iddi, strwythur llysoedd ar wahân, a sefydliadau cyfreithiol ar wahân. Ar hyn o bryd, un awdurdodaeth sydd gan Gymru a Lloegr, ac nid yw gweinyddu cyfiawnder yn faes sydd wedi’i ddatganoli.

Ers 2007, mae gan y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol – ehangwyd y pwerau hyn yn 2011. O ganlyniad, mae rhai pobl yn honni bod gan Gymru gasgliad cynyddol o gyfreithiau neilltuol – er enghraifft, mewn perthynas ag addysg a gwasanaethau cymdeithasol – a bod hynny’n gwneud parhau ag un awdurdodaeth yn broblemus. Mae eraill yn anghytuno â hynny, gan fynnu nad yw cyfreithiau neilltuol Cymru ond yn rhan fechan o gyfraith Cymru a Lloegr.

Mae’r ddadl wedi dwysáu ers craffu ar Fil Cymru drafft ac ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil amgen ac ynddo ddarpariaethau ar gyfer creu awdurdodaeth benodol i Gymru.

Hunaniaeth gyfreithiol yn dod i’r amlwg

Mae’r ddadl ynghylch awdurdodaeth Cymru wedi symud tir yn sylweddol yn y misoedd diwethaf. Yn ôl yn 2012, cafwyd adroddiad pellgyrhaeddol ar y pwnc gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad. Nid oedd yr adroddiad yn argymell creu awdurdodaeth ar wahân, ond nododd fod hunaniaeth gyfreithiol Cymru yn cryfhau. Awgrymodd yr adroddiad y dylid newid model unedig presennol Cymru a Lloegr i sicrhau bod hwnnw’n cydnabod yr hunaniaeth gyfreithiol oedd yn dod i’r amlwg.

Hefyd yn 2012, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch awdurdodaeth i Gymru. Yn ei chasgliadau, cynigiodd Llywodraeth Cymru y dylid datganoli plismona, ond nid cyfiawnder troseddol a gweinyddu cyfiawnder. Oherwydd hyn, ni fyddai’n rhaid creu awdurdodaeth ar wahân, ond roedd Llywodraeth Cymru yn credu bod angen paratoi ar gyfer adeg pan fyddai gwneud hynny’n angenrheidiol ac yn fuddiol.

Mor ddiweddar â thair blynedd yn ôl, felly, roedd Llywodraeth Cymru’n gweld y posibilrwydd o awdurdodaeth ar wahân neu awdurdodaeth benodol i Gymru yn rhywbeth dymunol, ond fel amcan tymor hir yn unig.

Bil Cymru drafft

Ym mis Hydref 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Cymru drafft. Un o brif ddarpariaethau’r Bil drafft oedd symud i fodel cadw pwerau yn ôl, a hwnnw’n rhestru’r pynciau na châi’r Cynulliad ddeddfu yn eu cylch, yn hytrach na’r pynciau y mae’n cael deddfu yn eu cylch.

Wrth i bwyllgorau yn y Cynulliad a Thŷ’r Cyffredin graffu ar y Bil drafft, daeth yn amlwg bod hwnnw wedi’i lunio mewn ffordd a fyddai’n diogelu awdurdodaeth sengl Cymru a Lloegr. Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, wrth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fod Llywodraeth y DU yn awyddus i ddiogelu cyfanrwydd awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Felly, roedd angen drafftio’r ddeddfwriaeth mewn ffordd a fyddai’n rhoi rhyddid i Lywodraeth Cymru i ddeddfu ac i orfodi ei deddfwriaeth, ond a fyddai hefyd yn pennu rhyw fath o ffin a fyddai’n diogelu’r awdurdodaeth sengl.

Roedd tystion eraill o blaid symud tuag at awdurdodaeth ‘benodol’, yn hytrach nag awdurdodaeth ‘ar wahân’. Byddai hynny’n cydnabod bod gwahaniaethau i’w cael rhwng cyfraith Lloegr a chyfraith Cymru, ond ni fyddai angen datganoli’r pŵer i weinyddu cyfiawnder, sefydlu llysoedd neu system lysoedd ar wahân yng Nghymru, na sefydlu proffesiynau cyfreithiol gwahanol yng Nghymru a Lloegr.

Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd y byddai ‘saib’ yn ei gynlluniau i gyflwyno Bil Cymru. Dywedodd ei fod hefyd wedi ystyried galwadau am ‘awdurdodaeth benodol’ neu ‘awdurdodaeth ar wahân’, ond ar y pryd ni welai ddadl dros y naill na’r llall. Cyhoeddodd, er hynny, ei fod yn sefydlu gweithgor, a oedd yn cynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder, swyddfa’r Arglwydd Brif Ustus, a Llywodraeth Cymru, i ystyried pa drefniadau penodol y byddai eu hangen i gydnabod anghenion Cymru o dan awdurdodaeth Cymru a Lloegr pe cyflwynid model cadw pwerau yn ôl.

Y Bil amgen

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd y Prif Weinidog y Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru. Bil wedi’i ddrafftio gan Lywodraeth Cymru oedd hwn, ac ynddo ddarpariaethau i greu awdurdodaeth gyfreithiol benodol yng Nghymru, gan wahanu cyfraith Cymru oddi wrth gyfraith Lloegr. Eglurodd Llywodraeth Cymru iddi wneud gwaith manwl a hwnnw’n dangos y gallai cael model cadw pwerau yn ôl, law yn llaw ag awdurdodaeth ar y cyd, greu cymhlethdodau newydd ac ansicrwydd. Dyna pam yr oedd safbwynt Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi newid mewn ychydig o flynyddoedd.

Ehangwyd ar ddadl Llywodraeth Cymru mewn erthygl gan Thedore Huckle CF, sef y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd. Ynddi, dadleuodd y byddai’n rhaid cael un gyfraith – sef cyfraith Cymru a Lloegr – er mwyn cynnal un awdurdodaeth. Dywedodd mai’r neges a gyflëid fel arall oedd mai’r un oedd y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr. Yn ei farn ef, ‘ffolineb’ yw parhau i esgus bod hyn yn wir.

Y camau nesaf

Wrth gwrs, nid Bil San Steffan mo’r Bil amgen, na Bil Cynulliad chwaith. Pan gyflwynodd y Prif Weinidog y Bil gerbron y Cynulliad, mynnodd ei fod yn gwneud hynny ‘mewn ysbryd o gydweithio adeiladol’. Wrth gyhoeddi’r oedi yn hynt Bil Cymru, nododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei bod yn debygol y byddai’r Bil yn cael ei gyhoeddi yn haf 2016. Amser a ddengys a fydd y Bil amgen yn dylanwadu ar y gwaith o lunio Bil Cymru neu ar drafodaethau’r gweithgor.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg