Cyllido llywodraeth leol

Cyhoeddwyd 27/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Mai 2016 Erthygl gan Owen Holzinger, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cafodd cyllidebau llywodraeth leol eu cwtogi’n sylweddol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Os bydd y pwysau ariannol yn cynyddu yn ystod y Pumed Cynulliad, a fydd y model cyllido yn newid?

Rhwng 2010-11 a 2014-15, bu gostyngiad o £461 miliwn mewn termau real yn y cyllid refeniw a ddyrannwyd i lywodraeth leol. Mae'r pwysau ariannol hwn wedi arwain at gwestiynau ynghylch sut y dyrennir y cyllid, ac ar lefel fwy sylfaenol, a yw'r model ariannol presennol yn ddigon cadarn i ymdopi â rhagor o straen. Toriadau llywodraeth leol Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua 80% o gyllid awdurdodau lleol. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, bu cwtogi sylweddol ar y cyllid hwn wrth i’r gostyngiad yng ngrant bloc Cymru effeithio ar lywodraeth leol (amcangyfrifir bod y grant hwn £1.2 biliwn yn llai mewn termau real yn 2014-15 nag yn 2010-11).

Newidiadau demograffig

Er bod y cyllid yn lleihau, mae'r pwysau ar wasanaethau lleol yn cynyddu. Mae poblogaeth Cymru yn tyfu ac mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld cynnydd tebyg yn y grwpiau oedran mwyaf dibynnol (0-15 a 65+) o gymharu â'r boblogaeth oedran gweithio

Mae'r gostyngiadau wedi effeithio'n anghymesur ar rai gwasanaethau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod llyfrgelloedd, gwasanaethau diwylliannol a gwasanaethau trafnidiaeth (ymhlith pethau eraill) wedi ysgwyddo toriadau o rhwng 20% a 50%, gan newid y ffordd y darperir y gwasanaethau hyn yn sylweddol. Mae gwasanaethau eraill, fel gofal cymdeithasol ac ysgolion, wedi'u diogelu. Mae awdurdodau lleol wedi ymateb i'r toriadau yn eu cyllidebau drwy sicrhau arbedion mewnol, neu drwy atal gwasanaethau, cyfyngu ar wasanaethau neu eu gwneud yn fwy masnachol. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cynyddu'r dreth gyngor bob blwyddyn ers 2011 (rhwng 2010-11 a 2015-2016, mae cost cyfartalog y dreth gyngor wedi cynyddu 18% ledled Cymru). Mae awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn ystyried defnyddio modelau cyflawni amgen a mentrau trosglwyddo asedau cymunedol i ddarparu’r gwasanaethau hyn, boed yn rhannol neu'n gyfan gwbl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar fframwaith cenedlaethol er mwyn gwneud penderfyniadau ar fodelau cyflawni amgen, ac wedi llunio canllawiau arfer gorau ar drosglwyddo asedau cymunedol. Efallai y gwelwn ragor o ddefnydd o'r dulliau arbed arian hyn yn ystod y Pumed Cynulliad. Yn 2014-15, roedd gan awdurdodau lleol £832 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a £196 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol. Os bydd gostyngiadau cyllid mwy eithafol yn y dyfodol, efallai y gwelir rhagor o waith craffu ar sut y defnyddir y cronfeydd hyn.

Argymhellion y Pedwerydd Cynulliad

Wrth adolygu cyllideb 2016-17 a'r setliad llywodraeth leol, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r fformiwla cyllido.

Cynnal y fformiwla Oherwydd y toriadau mewn cyllidebau, mae llawer wedi cwestiynu'r dull a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i ddosbarthu cyllid i awdurdodau lleol. Yr is-grŵp dosbarthu sy'n cynnal y 'fformiwla dyrannu' a defnyddir 68 o ddangosyddion wrth bennu setliad. Er enghraifft, mae dangosyddion sy’n ymwneud â:
  • phoblogaeth;
  • nifer y plant ac oedolion hŷn;
  • hyd ffyrdd;
  • amddifadedd; a
  • natur wledig a theneurwydd poblogaeth.
Caiff elfennau o'r fformiwla eu diweddaru bob blwyddyn, a’r tro diwethaf i'r fformiwla gael ei adolygu'n llawn oedd cyn setliad 2001-02. Mae rhai o'r cyfrifiadau yn defnyddio data o Gyfrifiad 1991 neu Gyfrifiad 2001, a mynegwyd pryder ynghylch hynny. Yn hanesyddol, defnyddiwyd terfynau ariannu isaf, terfynau ariannu uchaf a symiau atodol i gyfyngu ar ostyngiadau yn ôl yr angen. Yn fwyaf diweddar yn 2016-17, cafodd y tri awdurdod lleol â'r gostyngiadau mwyaf grant atodol, gan olygu nad oedd unrhyw ostyngiad yn fwy na 3%. Roedd angen dyrannu £2.5 miliwn ychwanegol o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud hynny. Mae awdurdodau gwledig wedi dadlau nad yw'r fformiwla yn rhoi ystyriaeth ddigonol i'r gost ychwanegol sydd ynghlwm wrth ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd tenau eu poblogaeth. O'r holl ddangosyddion, dim ond 6% sy'n ymwneud â theneurwydd y boblogaeth, tra bod 69% yn seiliedig ar gleientiaid (e.e. poblogaeth, niferoedd disgyblion) a 25% ar amddifadedd. Gallai newid sylweddol yn y data arwain at sefyllfaoedd ariannu gwahanol iawn i awdurdodau o un flwyddyn i'r nesaf a byddai angen i unrhyw adolygiad ystyried sut i gymedroli gostyngiadau mawr mewn cyllid. Hyblygrwydd a’r elfen leol Ochr yn ochr â diwygiadau eraill, nododd Llywodraeth flaenorol Cymru fod angen adolygu’r system ariannu ar gyfer llywodraeth leol, a bod y system bresennol yn gymhleth. Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai'n ceisio creu system sy'n rhoi mwy o ryddid i wneud penderfyniadau lleol, ymhlith pethau eraill. Mae cyrff llywodraeth leol wedi galw am newidiadau hefyd, gan ofyn am fwy o annibyniaeth ariannol a mwy o hyblygrwydd i benderfynu sut y mae awdurdodau'n gwario’u harian. Byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl sicrhau atebion lleol a mwy o atebolrwydd, ac ym marn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, byddai'n ategu'r gwaith arbed a'r arloesi sydd ei angen yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae'r Comisiwn Annibynnol ar Gyllid Llywodraeth Leol Cymru (2016) hefyd wedi galw am fwy o hyblygrwydd. Gallai Bil Cymru drafft roi pwerau i'r Cynulliad gynllunio ei broses ei hun ar gyfer y gyllideb ac, o bosibl, gweithredu rhai o'r argymhellion hyn. Gallai cyllideb ar ei newydd wedd gynnwys pethau fel strategaethau ariannu amlflwyddyn, yn unol â'r argymhelliad yn ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i'r arferion gorau o ran y gyllideb a chais awdurdodau lleol.   Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Hydref 2015 y bydd cynghorau yn Lloegr yn cadw 100% o'r ardrethi busnes a gesglir erbyn 2020, gallai Llywodraeth Cymru, o bosibl, ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gadw'r ardrethi hefyd. Byddai peidio â neilltuo grantiau hefyd yn rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol wrth reoli'r arian a ddyrennir iddynt. Pwysau yn y Pumed Cynulliad Nododd yr Adolygiad o Wariant gan Lywodraeth y DU yn 2015 y bydd grant bloc Cymru yn parhau i leihau mewn termau real wrth symud i'r Pumed Cynulliad. Yn unol â hynny, efallai bod angen i awdurdodau lleol baratoi ar gyfer toriadau tebyg yn y gyllideb i'r hyn a gafwyd yn y Pedwerydd Cynulliad, o leiaf yn y dyfodol agos. Mae newidiadau strwythurol, fel uno’r awdurdodau, yn cynnig ateb posibl (gweler yr erthygl ar ddiwygio llywodraeth leol) ond byddai hynny'n costio arian ac nid yw lefel yr arbedion yn sicr. Wrth i’r pwysau gynyddu, bydd penderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch y model ariannu yn hollbwysig i ddyfodol hirdymor ein hawdurdodau lleol. Ffynonellau allweddol View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg