Gweithlu cynaliadwy yn y GIG

31 Mai 2016

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Heb y staff cywir ni fydd y GIG yn gallu cwrdd ag anghenion gofal iechyd y boblogaeth. Ond a wyddom ddigon am gyfeiriad gwasanaethau er mwyn cynllunio’r gweithlu sydd ei angen arnom?

Yn ôl sefydliadau’r GIG a gweithwyr iechyd proffesiynol, cael gweithlu cynaliadwy yw’r her fwyaf sy’n wynebu GIG Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Mae pryderon amlwg am brinder staff mewn rhai meysydd, ac mae rhai’n cwestiynu a yw’r niferoedd a’r math cywir o staff meddygol a staff gofal iechyd yn cael eu recriwtio a’u cadw i ddarparu gofal yn y dyfodol.

Er bod ffocws cryf yn y cyfryngau ar waith meddygon, mae’n amlwg bod angen ffordd ehangach, amlddisgyblaethol o gynllunio – ffordd sy’n gofalu am y ‘person cyfan’. Elfen bwysig yn hyn o beth fydd datblygu sgiliau staff presennol y GIG.

Gofal sylfaenol

Mae’n bolisi clir yng Nghymru i newid ffocws y ddarpariaeth iechyd er mwyn canolbwyntio ar wasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol, yn hytrach na gwasanaethau mewn ysbytai (gofal eilaidd). Yn hanesyddol bu ffocws ar drin salwch, ond nawr mae llawer mwy o bwyslais ar sut all y GIG atal salwch ac ymyrryd yn gynnar.

Llun yn dangos cadwyn o ddelweddau o bobl

Dan drwydded Creative Commons

A yw’r gweithlu gennym i gyflawni’r newid hwn? Mae pryderon yn dal i gael eu gwyntyllu am y cyflenwad o feddygon teulu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Gwnaed nifer o argymhellion gan ymchwiliad gweithlu meddygon teulu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad (2015), gyda’r nod o wella’r broses o recriwtio a chadw meddygon teulu. Ond er ei bod yn amlwg y bydd meddygon teulu yn parhau i fod yn allweddol, mae cynllun gweithlu gofal sylfaenol Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn pwysleisio y bydd cynaliadwyedd tymor hir gwasanaethau yn dibynnu ar wneud y mwyaf o gyfraniad ystod eang o broffesiynau. Mae sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn gwneud y pwynt hwn, gan amlygu gwerth gweithwyr ym maes diagnosteg, therapi a fferylliaeth, ynghyd â gweithwyr cymdeithasol a pharafeddygon, wrth ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal.

Mae cynllun gweithlu gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r angen am ddull cadarn o gynllunio’r gweithlu sy’n cwmpasu’r system gyfan, ond mae’n cydnabod bod bylchau mewn gwybodaeth am y gweithlu presennol. Mae hefyd angen i ffurf y gwasanaethau fydd yn cael eu darparu yn y gymuned yn y dyfodol fod yn fwy eglur, er mwyn deall yn llawn y math o weithlu sydd ei angen yn y tymor hwy.

Gwasanaethau acíwt ac arbenigol

Mae’r sector hefyd yn parhau i godi pryderon am gynaliadwyedd y gweithlu meddygol mewn gwasanaethau acíwt (ysbytai). Mae byrddau iechyd lleol yn dweud ei bod yn anodd recriwtio ar gyfer rhai arbenigeddau (er enghraifft, meddygaeth frys, seiciatreg a phediatreg). Mae prinder staff meddygol sydd wedi’u hyfforddi’n ddigonol wedi arwain pobl i gredu bod rhai gwasanaethau yn anniogel. Yn 2015, er enghraifft, roedd cynlluniau i atal gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorydd yn Ysbyty Glan Clwyd, a hynny oherwydd problemau staffio. Fodd bynnag, er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae niferoedd cyffredinol y meddygon yng Nghymru wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Rhwng 2005 a 2015, er enghraifft, cynyddodd nifer y meddygon ymgynghorol mewn ysbytai dros 40%.

Un rhan o’r darlun yn unig yw’r gweithlu meddygol fodd bynnag – dim ond 8% o weithlu’r GIG sy’n feddygon (er eu bod yn cyfrif am tua 20% o’r gost). Ochr yn ochr â’r cynnydd cyffredinol yn nifer y meddygon, mae’r niferoedd wedi aros yr un fath neu wedi lleihau mewn grwpiau eraill o staff, er enghraifft staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol.

Sgiliau’r gweithlu presennol

Mae gofal iechyd yn symud i gyfeiriad amlwg, sef un sy’n dibynnu’n gynyddol ar gynllunio aml-ddisgyblaethol, aml-asiantaeth, a hynny’n cyd-fynd ag egwyddorion gofal iechyd darbodus (‘gwnewch yr hyn na all neb ond chi ei wneud’). Fel yr amlygwyd yng nghynllun gweithlu gofal sylfaenol Llywodraeth ddiwethaf Cymru, mae swyddi ‘uwch ymarferydd’ newydd a meithrin sgiliau estynedig ymhlith staff anfeddygol yn debygol o fod yn hollbwysig wrth ymateb i’r her sy’n dod yn sgil cynnydd yn y galw a phoblogaeth sy’n heneiddio – poblogaeth ac iddi anghenion iechyd a gofal cymhleth.

Rydym yn gwybod bod 80% o’r gweithlu ar gyfer y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt eisoes yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, ac felly bydd yn hanfodol ailgynllunio a datblygu’r gweithlu presennol.

Adolygu’r gweithlu

Roedd yr adolygiad ‘Shape of training’ gan yr Athro Greenaway (2013) yn edrych ar ddiwygiadau posibl i strwythur addysg a hyfforddiant meddygol i ôl-raddedigion ledled y DU. Un o brif negeseuon yr adroddiad yw bod angen mwy o feddygon sydd â’r gallu i ddarparu gofal cyffredinol mewn meysydd arbenigol eang ac mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol. Gan gynrychioli pedair gwlad y DU, sefydlwyd Grŵp Llywio Shape of Training i weithredu argymhellion yr adolygiad ar sail consensws y pedair gwlad.

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar ei hadolygiad o weithlu’r GIG. Roedd hwn yn ystyried materion yn ymwneud â’r gweithlu a thâl, a hynny yng nghyd-destun yr heriau ariannol sy’n wynebu’r GIG (heriau y rhoddwyd sylw iddynt yn adroddiad 2014 Ymddiriedolaeth Nuffield, Degawd o galedi yng Nghymru?). Dywedodd yr adolygiad o’r gweithlu nad oes gweledigaeth strategol ynghylch beth fydd natur GIG Cymru ymhen deng mlynedd, a bod hyn yn rhwystr i’r gwaith o gynllunio modelau ar gyfer y gweithlu, sgiliau a gwahanol swyddi. Nododd yr adolygiad ymhellach fod hyn yn wir yn y gwasanaeth iechyd, ond ei fod yn fwy gwir byth mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

Er mwyn cynllunio’r gweithlu’n well, argymhellodd yr adolygiad y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu gweledigaeth strategol newydd a chlir ar gyfer GIG Cymru, a hynny yn ddiymdroi.

Ffynonellau allweddol

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg