Mynd i’r afael â TB buchol

Cyhoeddwyd 01/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

01 Mehefin 2016 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cymryd camau cyflym i fynd i’r afael â TB buchol yw un o’r prif flaenoriaethau i nifer o fusnesau fferm. Pa benderfyniadau polisi cynnar fydd yn wynebu Llywodraeth newydd Cymru yn hyn o beth?

Oherwydd ei effaith sylweddol ar les anifeiliaid, lles ffermwyr a hyfywedd busnesau fferm, mae mynd i’r afael â TB buchol (twbercwlosis buchol) yn flaenoriaeth i’r diwydiant amaeth yng Nghymru. Yn 2011, amcangyfrifodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DU mai cost buchesi wedi’u heintio â TB buchol yw £30,000 y fuches. Mae’r ystadegau diweddaraf yng Nghymru yn dangos bod 8,103 o wartheg wedi cael eu difa yn 2015 o ganlyniad i’r clefyd, a bod 837 o fuchesi wedi’u heintio o’r newydd. Er bod y ffigurau hyn wedi lleihau ers eu hanterth yn 2009, mae’r niferoedd yn dal i fod yn sylweddol uwch nag oeddent 20 mlynedd yn ôl. Mae Llywodraethau blaenorol wedi mabwysiadu ystod o bolisïau i geisio dileu’r clefyd a bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru wneud penderfyniad cynnar ynghylch cyfeiriad ei pholisi hithau yn y maes hwn. Beth yw TB buchol a beth yw effeithiau’r clefyd? Clefyd heintus a chronig a achosir gan Mycobacterium bovis (M. bovis) yw TB buchol a bydd fel arfer yn effeithio ar ysgyfaint a nodau lymff gwartheg. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gwartheg wedi’u heintio yn gallu trosglwyddo’r clefyd cyn eu bod yn dangos arwyddion o fod yn sâl, a all fod sawl mis ar ôl iddynt gael eu heintio. Mae rheoli TB, felly, yn dibynnu ar ganfod a difa gwartheg wedi’u heintio cyn gynted â phosibl. Er mai gwartheg a moch daear yw’r prif anifeiliaid sy’n cario’r clefyd yn y DU, mae camelidau, ceirw, geifr ac anifeiliaid domestig hefyd yn gallu cael y clefyd. Pa mor gyffredin yw TB buchol yng Nghymru?Siart llinell sy'n dangos nifer yr achosion mewn buchesi newydd, wedi’i gyfuno â siart bar sy’n dangos nifer y gwartheg a laddwyd Mae’r graff yn dangos y newidiadau yn nifer yr achosion newydd o TB buchol mewn buchesi yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd diwethaf, yn ogystal â nifer y gwartheg a gafodd eu difa yn yr un cyfnod. Cyrhaeddodd yr achosion newydd mewn buchesi eu hanterth yn 2008-09 gyda thuedd gyffredinol ar i lawr ers hynny. Mae nifer y gwartheg sydd wedi eu difa hefyd wedi gostwng ers 2009, ond mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2015 yn dangos cynnydd yn y nifer a gafodd eu difa ers 2014. Pa bolisïau a strategaethau y mae Llywodraethau blaenorol wedi’u mabwysiadu? Roedd gan Lywodraeth flaenorol Cymru Raglen Dileu TB buchol a oedd yn cynnwys nifer o elfennau gwahanol, gan gynnwys: profi buchesi yn flynyddol; ystod eang o fesurau rheoli gwartheg fel profion cyn eu symud; cyfyngiadau symud ar fuchesi wedi’u heintio; difa anifeiliaid wedi’u heintio; a threialu brechu moch daear mewn rhai ardaloedd. Dwy o’r egwyddorion allweddol a oedd yn sail i’r rhaglen oedd cadw’r clefyd allan o ffermydd glân a chanfod haint yn gynnar. Fel rhan o’r rhaglen hon, sefydlodd Llywodraeth Cymru Ardal Triniaeth Ddwys, sef ardal 288 km sgwâr wedi’i lleoli yn bennaf yng ngogledd Sir Benfro, a hynny i brofi dulliau gwahanol o fynd i’r afael â’r cyflwr. Roedd y rhain yn cynnwys mesurau rheoli gwartheg llymach a phrosiect peilot pum mlynedd i frechu moch daear. Roedd pumed blwyddyn y prosiect peilot ar fin dechrau yn ystod gwanwyn 2016, ond ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’r peilot yn cael ei ohirio flwyddyn yn gynnar, a hynny yn sgil problemau gyda chyflenwad byd-eang o’r brechiad a ddefnyddir i frechu moch daear. Comisiynodd Llywodraeth Cymru waith modelu i edrych ar effaith atal y cynllun peilot. Dangosodd y gwaith hwn na fyddai atal y prosiect flwyddyn yn gynnar yn cael effaith andwyol. Fodd bynnag, mae ansicrwydd parhaus am gyflenwad y brechiad yn y dyfodol yn golygu bod brechu moch daear yn annhebygol o fod yn opsiwn ymarferol yn y tymor byr. Yn 2011, pasiodd Llywodraeth Cymru Orchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011. Rhoddodd y gorchymyn hwn bwerau i Lywodraeth Cymru ddifa moch daear, os oedd yn dymuno gwneud hynny, yn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Fodd bynnag, cafodd y gorchymyn hwn ei ddiddymu yn 2012 gan John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar y pryd, a hynny yn dilyn ei benderfyniad i gael polisi brechu moch daear yn lle hynny. Os bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno mynd ati i ddifa yn yr Ardal Triniaeth Ddwys neu mewn rhannau eraill o Gymru yn y dyfodol, bydd angen iddi sicrhau cefnogaeth ar gyfer gorchymyn newydd drwy’r Cynulliad. Mae difa moch daear i ddileu’r clefyd yn y gwyllt wedi cael ei dreialu mewn rhannau eraill o’r DU ond mae hyn wedi bod yn bwnc llosg, gyda’r rhai sydd o blaid ac yn erbyn y polisi yn cyflwyno tystiolaeth a chanlyniadau gwyddonol gwahanol. Mae rhywfaint o waith wedi’i wneud i fonitro effeithiau’r polisi dileu yn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Daeth adroddiad ar y gwahaniaethau rhwng yr achosion o TB buchol yn yr Ardal Triniaeth Ddwys a rhannau eraill o Gymru i’r casgliad nad oedd, rhwng 2010 a 2015, unrhyw dueddiadau cyson i’w gweld yn nangosyddion TB buchol, ond mae angen rhagor o amser cyn y gellir canfod unrhyw ‘wahaniaethau o bwys’ rhwng y buchesi yn yr Ardal Triniaeth Ddwys a’r Ardal Reoli. Mae gweinyddiaethau’r DU hefyd wedi ariannu gwaith ymchwil i ddatblygu brechlynnau gwartheg a phrofion diagnostig mwy sensitif ar gyfer y clefyd. Beth fydd yn digwydd nesaf? Bydd penderfyniadau ynghylch cyfeiriad y polisi hwn yn flaenoriaeth yn ystod y pum mlynedd nesaf. Yn ôl adroddiad etifeddiaeth Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad, dyma un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu amaethyddiaeth. Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu a fydd yn parhau â’r rhaglen bresennol i ddileu’r clefyd, ynteu a fydd yn bwrw ati mewn ffordd wahanol. Ffynonellau Allweddol: View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg