Cymru a Bil Undebau Llafur y DU

Cyhoeddwyd 03/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

03 Mehefin 2016 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru a Llywodraeth bresennol y DU yn anghytuno ynghylch a yw rhannau o Fil Undebau Llafur y DU yn ymwneud â phwerau datganoledig neu beidio. A allai hyn arwain at Fil yn y Pumed Cynulliad fydd yn ceisio gwyrdroi rhai o effeithiau Bil y DU yng Nghymru?

Ym mis Ionawr 2016, gwrthododd y Pedwerydd Cynulliad roi ei gydsyniad i rannau o Fil Undebau Llafur Llywodraeth y DU ar y sail bod rhannau ohono’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli. Nid yw Llywodraeth y DU yn cytuno bod angen cydsyniad y Cynulliad. Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, y byddai Llywodraeth Cymru, os bydd yn ôl mewn grym, yn cyflwyno Bil yng Nghymru i wrthdroi rhannau perthnasol o Fil y DU. Mae’n anghydfod a allai fynd i’r Goruchaf Lys.

Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar bwnc sydd eisoes wedi’i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (neu Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon), mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael cydsyniad y Cynulliad cyn gallu pasio’r ddeddfwriaeth dan sylw. Bydd y Cynulliad yn rhoi’r cydsyniad hwn drwy gyfrwng Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, sy’n dod law yn llaw â Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.

Bil yr Undebau Llafur Cyflwynwyd Bil yr Undebau Llafur yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf 2015. Mae ei ddarpariaethau yn cynnwys bod yn rhaid sicrhau bod o leiaf 50% o aelodau undeb yn pleisleisio er mwyn gallu cynnal streic. Ar gyfer ‘gwasanaethau cyhoeddus pwysig’ rhaid sicrhau cefnogaeth 40% o’r rhai sy’n gymwys i bleidleisio er mwyn gallu cynnal streic. Ar hyn o bryd, dim ond mwyafrif syml sydd ei angen. Mae’r Bil wedi ennyn gwrthwynebiad cryf o du’r undebau gyda’r TUC yn ei alw’n fygythiad i’r hawl sylfaenol i streicio. Mae hefyd wedi ennyn gwrthwynebiad yn Senedd y DU. Cydsyniad deddfwriaethol Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi gwrthwynebu’r Bil. Gan fod rhannau ohono’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus, roeddent yn dadlau bod angen cydsyniad Senedd yr Alban a Chynulliad Cymru cyn gallu pasio’r rhannau hynny. Mae Llywodraeth y DU yn haeru bod pwnc y Bil yn fater sydd wedi’i gadw’n llwyr i Senedd y DU. Yn ystod trafodaeth yn y Pwyllgor Bil Cyhoeddus yn Senedd y DU ym mis Hydref 2015, dywedodd Nick Boles, Gweinidog Sgiliau y DU, nad oedd yn gweld unrhyw reswm pam y dylai Llywodraeth y DU gael cydsyniad cyn bwrw ymlaen i gyflwyno’r darpariaethau cynhennus . Cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn gofyn i Senedd yr Alban wrthod cydsyniad i’r Bil oherwydd y byddai’n effeithio ar faterion datganoledig. Fodd bynnag, dyfarnodd Llywydd Senedd yr Alban nad oedd rhaid cael cydsyniad Senedd yr Alban. Golygai hynny na ellid cynnal pleidlais ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth yr Alban. Yng Nghymru, gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ym mis Tachwedd 2015. Roedd y Memorandwm yn nodi barn Llywodraeth Cymru y byddai angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer rhai cymalau o’r Bil gan eu bod yn ymwneud â materion datganoledig. Roedd Llywodraeth Cymru yn dadlau bod y cymalau hyn yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad gan eu bod yn ymwneud â chyflogwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r cyflogwyr hynny yn darparu ystod o wasanaethau cyhoeddus datganoledig gan gynnwys addysg a hyfforddiant, gwasanaethau tân ac achub, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau llywodraeth leol a gwasanaethau trafnidiaeth. Cafwyd dadl yn y Cynulliad ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mis Ionawr 2016. Mynnodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd bod ‘rhannau sylweddol o’r Bil yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sydd yn amlwg wedi’u datganoli, ac nid yw’n dderbyniol i Lywodraeth y DU geisio ei orfodi ar Gymru.’ Dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2014 Ym mis Medi 2015, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig lle’r oedd yn dadlau bod dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2014 ar Fil y Sector Amaethyddiaeth (Cymru) yn golygu bod y Cynulliad yn iawn i atal ei gydsyniad i Fil yr Undebau Llafur. Roedd dyfarniad 2014 yn nodi, er nad oedd cyflogaeth wedi’i rhestru fel pwnc datganoledig yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fod amaethyddiaeth wedi’i rhestru a bod cynnwys Bil y Sector Amaethyddiaeth (Cymru) yn ymwneud â hynny. Nid oes rhaid i rywbeth fod yn gyfan gwbl o fewn cymhwysedd deddfwriaethol datganoledig er mwyn iddo fod o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Ym mis Ionawr 2016, daeth llythyr i’r fei a anfonwyd gan Weinidog Sgiliau y DU at Weinidogion eraill y DU. Roedd yn dangos bod cyngor cyfreithiol i Lywodraeth y DU yn awgrymu bod achos cryf fod darpariaethau Bil yr Undebau Llafur wedi’u cadw’n ôl mewn perthynas â’r Alban, ond bod gan Lywodraeth y DU ‘achos gwan iawn’ mewn perthynas â Chymru gan fod y cynsail wedi’i osod gan ddyfarniad y Goruchaf Lys. Pleidleisiodd y Cynulliad o blaid gwrthod cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil o 43 pleidlais i 13. Ym mis Ebrill 2016, yn y cyfnod adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi, cyflwynodd Arglwyddi Llafur, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol welliannau i ddatgymhwyso rhannau o’r Bil i gyrff cyhoeddus Cymru, ond gwrthododd Llywodraeth y DU y dadleuon a thynnwyd y gwelliannau yn ôl. Y camau nesaf Yn ei sylwadau i gloi’r ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, nododd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, pe câi Llywodraeth Cymru ei hail-ethol i’r Cynulliad, byddai’n ‘symud yn gyflym iawn ar ôl yr etholiad ym mis Mai i gyflwyno’r hyn yr wyf am ei alw, at ddibenion heddiw, yn Fil datgymhwyso undebau llafur (Cymru)’. Dywedodd y byddai’n defnyddio hyn i gael gwared ar y cymalau sy’n cael eu herio ym Mil y DU. Pe bai’r Cynulliad yn pasio Bil o’r fath, byddai angen i Lywodraeth y DU benderfynu a ddylid ei gyfeirio at y Goruchaf Lys i benderfynu a yw o fewn cymhwysedd y Cynulliad. O ystyried fod cyngor cyfreithiol Llywodraeth y DU wedi dweud bod ganddi ‘achos gwan iawn’ bydd rhywfaint o risg ynghlwm wrth hyn. Ar y llaw arall, byddai angen i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad weithredu’n gyflym. Bydd Bil Cymru – Bil y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno’n fuan – yn creu setliad datganoli newydd yng Nghymru drwy gyflwyno model cadw pwerau yn ôl. Byddai’r model hwn yn debyg i’r un yn yr Alban, sy’n olygu y gallai Bil Undebau Llafur y DU gael ei ystyried y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad. Ffynonellau allweddol: