Cyhoeddwyd 06/06/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
06 Mehefin 2016
Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
[caption id="attachment_3002" align="alignnone" width="682"]
Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Ardoll Brentisiaethau ym mis Ebrill 2017. Blaenoriaeth gynnar i Lywodraeth newydd Cymru fydd penderfynu ynghylch dau fater mawr, sef:
- Faint o'r refeniw a godir gan ardoll brentisiaethau newydd y DU a fydd yn dod i Gymru?
- A fydd unrhyw newidiadau i brentisiaethau yng Nghymru, yn enwedig o ran eu hariannu, yn sgil yr ardoll?
Beth yw'r ardoll brentisiaethau?
Cyhoeddwyd cynlluniau gan Ganghellor y Trysorlys a'r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau ar gyfer ardoll brentisiaethau yn y DU yn yr
adolygiad o wariant a datganiad hydref 2015.
Rhwng mis Awst a mis Hydref 2015, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus:
Apprenticeships Levy: employer owned apprenticeships training. Cafwyd 711 o ymatebion.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb i'r ymgynghoriad ar 25 Tachwedd 2015:
Apprenticeships Levy: employer owned apprenticeships training: government response (PDF 309KB).
Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau
Apprenticeships (in England): vision for 2020 yn amlinellu ei bwriad i gynyddu prentisiaethau o ran ansawdd a nifer, gan greu 3 miliwn o brentisiaethau yn Lloegr erbyn 2020.
Ffeithiau allweddol am yr ardoll brentisiaethau
- Bydd yr ardoll brentisiaethau yn berthnasol i'r DU gyfan; felly, bydd yn berthnasol i Gymru.
- Bydd yn berthnasol i gyflogwyr yn y sector preifat ac i gyflogwyr yn y sector chyhoeddus.
- Bydd yn rhaid i gyflogwyr mawr gyfrannu 0.5% o'u bil cyflogau, yn seiliedig ar gyfanswm enillion cyflogeion, ac eithrio taliadau fel budd-daliadau nad ydynt yn rhai ariannol.
- Bydd yr ardoll yn daladwy ar filiau cyflogau sydd dros £3 miliwn y flwyddyn. Bydd yn daladwy trwy Dalu Wrth Ennill (PAYE) a bydd yn daladwy ynghyd â threth incwm ac yswiriant gwladol. Yna bydd gan gyflogwyr mawr lwfans ardoll o £15,000 y flwyddyn tuag at gost yr ardoll a dalwyd ganddynt.
Enghraifft o'r hyn y bydd cyflogwr yn ei dalu
Cyflogwr â bil cyflogau blynyddol o £5,000,000:
- swm yr ardoll: 0.5% x £5,000,000 = £25,000
- tynnu'r lwfans ardoll: £25,000 - £15,000 = taliad ardoll blynyddol o £10,000.
- Yn ôl yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, llai na 2% o gyflogwyr yn y DU a fydd yn talu'r ardoll.
- Y dyddiad ar gyfer cyflwyno'r ardoll yw 6 Ebrill 2017.
Cael mynediad at arian a dalwyd o dan yr ardoll brentisiaethau
Yn Lloegr, ar ôl i gyflogwyr dalu'r ardoll i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (o Ebrill 2017), bydd modd iddynt gael arian ar gyfer prentisiaethau drwy
gyfrif gwasanaeth prentisiaethau digidol newydd. Y swm sy’n mynd i mewn i'w cyfrifon gwasanaeth prentisiaethau digidol yw’r swm a fydd ar gael iddynt ei wario ar hyfforddiant prentisiaethau
yn Lloegr. Bydd cyflogwyr yn Lloegr yn gallu ychwanegu at eu cyfrifon prentisiaethau.
Bydd polisïau am sgiliau a
chyflwyno prentisiaethau yn aros yn
faterion datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly bydd
trefniadau ar wahân yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae bron yn sicr y byddant yn wahanol.
Sut y bydd yn gweithio yng Nghymru?
Mae llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch sut y bydd y system newydd yn gweithio yng Nghymru.
Ym mis
Ionawr 2016, cyhoeddodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ar y pryd
ddatganiad llafar ar bolisi prentisiaethau, ac atebodd gwestiynau Aelodau'r Cynulliad ynghylch gweithredu'r ardoll brentisiaethau yng Nghymru, gan ddweud:
Ond, ar hyn o bryd, nid ydym yn glir beth fydd y dull ailddosbarthu. Nid ydym yn glir a fydd yn cael ei Farnetteiddio neu a fydd rhyw fecanwaith arall yn cael ei ddefnyddio. Nid ydym yn gwybod sut y mae'n cael ei gasglu. Rydym yn gwybod am y mecanwaith ar gyfer ei gasglu gan gyflogwyr, ond nid ydym yn gwybod sut y bydd yn cael ei ddosbarthu a’i gasglu o fewn y Llywodraeth.
Roedd y sefyllfa'r un mor aneglur ym mis Chwefror. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ddatganiad i'r wasg:
Pryderon ynghylch yr Ardoll Prentisiaethau: Gweinidogion datganoledig yn tynnu sylw at bryderon difrifol gyda chynllun San Steffan, gan ddweud bod y Gweinidogion perthnasol yn y gweinyddiaethau datganoledig yn rhannu pryderon tebyg am elfennau allweddol yn y broses o gyflwyno'r ardoll, gan gynnwys:
- y posibilrwydd y gallai’r ardoll danseilio polisïau datganoledig ynghylch prentisiaethau;
- y ffordd orau o ddosrannu’r ardoll a godir ar draws y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys tryloywder ynghylch cyllidebau adrannol ar lefel y Deyrnas Unedig;
- cynnwys ac amserlen y ddeddfwriaeth ar gyfer gwneud yr ardoll yn statudol; a'r
- angen i sicrhau y bydd y sefyllfa gyfnewidiol ynghylch prentisiaethau yn glir i gyflogwyr a darparwyr ar draws ffiniau.
Addewid ym maniffesto'r Blaid Lafur
Un o'r chwe addewid allweddol ym
maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 2016 yw y bydd yn creu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel ar gyfer pob oed yn y tymor nesaf, 'er mwyn sicrhau bod ein heconomi yn cael mynediad at y sgiliau lefel uwch sydd eu hangen'.
Cadarnhawyd hyn gan Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Mai 2016, pan gyhoeddodd fanylion y compact â Phlaid Cymru.
A oes angen deddfwriaeth newydd i gyflwyno'r ardoll brentisiaethau?
Oes. Nid oes dim deddfwriaeth ar hyn o bryd a fyddai'n cwmpasu'r dasg o gyflwyno'r ardoll brentisiaethau. Caiff deddfwriaeth ar gyfer casglu'r ardoll brentisiaethau ei chyflwyno mewn
Bil Cyllid ar gyfer y DU. Mae'r Bil hwn wedi cael ei gario i sesiwn seneddol 2016-17 a bydd yn ailddechrau yn y cyfnod Pwyllgor. Mae gwybodaeth am hynt y Bil ar gael o wefan y Senedd:
Y Bil Cyllid 2015-16 i 2016-17
Ar 4 Chwefror 2016, cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
bapur polisi a
deddfwriaeth ddrafft (PDF 113KB, 14 tudalen) yn nodi manylion yr ardoll brentisiaethau.
Cymeradwyodd y Cynulliad
Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i Fil Menter y DU (PDF 151KB). Ynddo, ceisiodd Lywodraeth y DU gydsyniad i ddeddfu er mwyn creu pwerau rhannu data o ran yr ardoll brentisiaethau.
Pryd y cawn ni wybod mwy?
Ym mis Ebrill 2016, cyhoeddodd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ganllawiau ar gyfer yr ardoll brentisiaethau yn Lloegr:
Canllawiau: Apprenticeship Levy: How it will work
Fodd bynnag,
nid oes manylion ar gyfer Cymru. Mae'r canllawiau'n nodi:
The digital apprenticeship service will support the English apprenticeship system. Scotland, Wales and Northern Ireland have their own arrangements for supporting employers to access apprenticeships.
Nododd yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau y bydd yn cyhoeddi
canllawiau pellach ym mis Mehefin 2016.
Camau nesaf Llywodraeth newydd Cymru
Blaenoriaeth gynnar i Lywodraeth newydd Cymru fydd sicrhau cytundeb ynghylch cyfran Cymru o'r ardoll brentisiaethau.
Hefyd, bydd angen i Weinidogion benderfynu sut yn union y byddant yn ariannu'r broses o gyflwyno prentisiaethau yng Nghymru ac 'anrhydeddu [eu] hymrwymiadau i gyflwyno o leiaf 100,000 o brentisiaethau newydd ar gyfer pobl o bob oedran yn ystod y tymor hwn'.