Wythnos Gofalwyr 2016

Cyhoeddwyd 08/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

08 Mehefin 2016 Erthygl gan Stephen Boyce Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yr wythnos hon, 6-12 Mehefin yw Wythnos Gofalwyr, digwyddiad blynyddol sy'n tynnu sylw at gyfraniad gofalwyr di-dâl. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 370,230 o ofalwyr yng Nghymru, gyd bron i 30 y cant ohonynt yn darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos. Mae llawer o ofalwyr yn talu pris am eu hymrwymiad o ran eu hiechyd a'u lles ac mae rhai yn profi anawsterau ariannol ac ynysu cymdeithasol. Mae ffocws ymgyrch yr Wythnos Gofalwyr eleni ar gymunedau sy'n gyfeillgar i ofalwyr, gyda'r nod o annog datblygu cymunedau lle mae gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael cymorth ac yn cael eu cydnabod fel unigolion gyda'u hanghenion eu hunain. Mae adroddiad ymchwil a gyhoeddwyd gan Carers UK yr wythnos hon yn tynnu [caption id="attachment_5543" align="alignright" width="239"]Llun: o Flickr gan ColaLife CARE Logo. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan ColaLife CARE Logo. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] sylw at rai o'r rhwystrau y mae gofalwyr yn eu profi o ran cael mynediad at ofal iechyd, cyflogaeth ac addysg. Mae'n dweud nad yw 3 o bob 4 o ofalwyr yn teimlo bod eu rôl ofalu yn cael ei deall a'i gwerthfawrogi gan eu cymuned. Wrth i Lywodraeth newydd Cymru a'r Pumed Cynulliad gychwyn o ddifrif, mae polisïau a deddfwriaeth newydd yn dechrau effeithio ar ofalwyr yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adnewyddu ei Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yng Nghymru eleni, ac mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf GCLl) bellach mewn grym, gyda goblygiadau ar gyfer y mathau o gymorth y bydd gofalwyr yn ei dderbyn. Diddymodd y Ddeddf GCLl Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010, ac achosodd hyn ychydig o anesmwythyd ymysg sefydliadau gofalwyr. Pan gafodd ei gyflwyno, roedd y Mesur yn cael ei ystyried yn ddatblygiad pwysig ar gyfer gofalwyr yr oedd eu buddiannau'n flaenorol wedi cael eu hyrwyddo gan nifer o ddeddfau seneddol gydag effeithiau amrywiol. Gobeithiwyd y byddai'r gofyniad newydd yn y Mesur i ddatblygu strategaethau gofalwyr yn helpu i sicrhau na fyddai anghenion gofalwyr yn cael eu hanghofio gan y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r Ddeddf GCLl yn creu dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion gofalwyr ac i gwrdd ag unrhyw anghenion 'cymwys' a nodwyd gan yr asesiad. Mae hyn yn berthnasol i ofalwyr di-dâl, o unrhyw oed, sy'n gofalu am oedolyn neu blentyn anabl ac sy'n ymddangos i awdurdod lleol fod angen cymorth arnynt. Nid yw mynediad at gymorth o'r fath yn gyfyngedig bellach i'r rhai sy'n darparu "swm sylweddol o ofal yn rheolaidd" fel ag yr oedd o dan y Mesur. Mae'r Ddeddf hefyd yn dweud y dylai barn ac anghenion gofalwyr gael rhagor o sylw yn asesiad anghenion y sawl sy'n derbyn gofal, ac y dylai gwybodaeth, cyngor a chymorth fod ar gael. Yn ogystal, mae'r Ddeddf yn mynnu bod awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol (BILl) yn asesu ar y cyd i ba raddau y mae angen gofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwyr) yn ardal yr awdurdod lleol a sut y byddant yn cael eu diwallu. Mae sefydliadau gofalwyr wedi bod yn pryderu bod rôl y GIG, a oedd gynt yn arwain o ran cynllunio strategol ar gyfer gofalwyr, nawr wedi'i gwanhau (gweler y post blog cynharach Diwrnod Hawliau Gofalwyr). Mae pryderon hefyd ynghylch mynediad at ofal a gwasanaethau cymorth o dan y Ddeddf GCLl sy'n rhoi cymhwyster ar gyfer gofal a chymorth statudol lle mai'r unig ffordd i ddiwallu hyn yw trwy gyflwyno cynllun gofal a chymorth, wedi'i ddarparu neu ei drefnu gan yr awdurdod lleol. Y bwriad yw y byddai gwasanaethau statudol yn cael eu cynnig dim ond lle nad ellir diwallu anghenion trwy ddulliau eraill, gan gynnwys adnoddau y gymuned ehangach. Mae yna bryderon y gallai hyn olygu y bydd mwy o'r baich hwn yn syrthio ar ofalwyr. (Gweler y postiad blog cynharach Dyfodol gofal cymdeithasol). Mae Deddf GCLl Cymru yn ddeddfwriaeth newydd - mae'r rhan fwyaf o'i darpariaethau ond wedi bod mewn grym ers Ebrill 2016. Felly, mae'n rhy gynnar i ddod i gasgliadau am yr effaith a gaiff ar ofalwyr. Yn y tymor hwy, bydd angen i fwy o bobl ofalu a bydd mwy yn dod yn ofalwyr, a gallai datblygu cymunedau sy'n gyfeillgar i ofalwyr wneud cyfraniad sylweddol at wella eu bywydau.