Addysg

Gwella safonau mewn ysgolion

10 Mehefin 2016

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Rhoddodd Llywodraeth ddiwethaf Cymru flaenoriaeth i wella safonau a pherfformiad mewn ysgolion, ar ôl y ‘sioc i’r system’ yn sgil canlyniadau siomedig PISA. A fydd y sylw hwn yn parhau a beth yw’r prif heriau?

Roedd y ffocws a roddodd Llywodraeth Cymru ar safonau a pherfformiad ysgolion yn ystod y Pedwerydd Cynulliad yn ddigynsail. Cyfaddefodd Gweinidogion fod llywodraethau blaenorol o’r un lliw gwleidyddol â hwy wedi tynnu eu ‘llygaid oddi ar y bêl’. Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu a ddylid parhau â’r un dull â’i rhagflaenydd wrth ymdrin â’r heriau hyn.

Dyma lun o fformiwlâu mathemategol.
Llun o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Dylanwad PISA

Ym mis Rhagfyr 2010, disgrifiodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd, ganlyniadau Cymru yn y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn 2009 fel ysgytwad i system hunanfodlon.

Ymatebodd drwy gyflwyno cynlluniau oedd yn canolbwyntio o’r newydd ar lythrennedd a rhifedd, yn ogystal â gwell atebolrwydd ac arweinyddiaeth a rheolaeth gryfach mewn ysgolion. Nid oedd Canlyniadau PISA 2012 fawr gwell gyda Chymru yn sgorio’n is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Fodd bynnag, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru fod ei diwygiadau yn dal i fwrw gwreiddiau ac y byddai’n cymryd blynyddoedd i oresgyn yr heriau a amlygwyd gan PISA.

Yn gynnar yn 2016, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, fod canlyniadau 2009 yn sioc i’r system a bod llawer wedi newid o ganlyniad i PISA.

Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA)

  • mae’n arolygu galluoedd disgyblion 15 oed mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth
  • caiff ei chynnal gan yr OECD mewn cylchoedd 3 blynedd
  • rhoddir sgôr a safle i wledydd ar sail canlyniadau perfformiad eu sampl

Cynllun gwella addysg

Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei chynllun gwella addysg, Cymwys am Oes, yn 2014. Roedd hyn yn rhannol mewn ymateb i adolygiad a gomisiynwyd gan yr OECD (2014) a ddaeth i’r casgliad bod diffyg gweledigaeth hirdymor a diffyg strategaeth weithredu glir a chyffredin ar gyfer gwella ysgolion.

Mae Cymwys am Oes yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau tan 2020, yn seiliedig ar bedwar amcan strategol:

  • gweithlu proffesiynol rhagorol;
  • cwricwlwm sy’n ddeniadol ac yn atyniadol;
  • cymwysterau sy’n cael eu parchu’n rhyngwladol; a
  • system sy’n hunanwella gydag arweinyddiaeth gref.

    Dyma dabl sy'n dangos canlyniadau PISA ar gyfer 2012
    Sgoriau PISA 2012

Hefyd, ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i gyhoeddi Cerdyn Adroddiad Addysg Cymru yn flynyddol yn nodi’r hyn yr oedd wedi’i gyflawni mewn perthynas â phob amcan strategol.

Cyhoeddodd y Cerdyn Adroddiad Addysg Cymru ym mis Mawrth 2016. Dywedodd hwn fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd ym mhob cyfnod addysg a’i bod yn lleihau’r bwlch cyrhaeddiad ym mhob cyfnod allweddol rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion. Fodd bynnag, dadleuodd y Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr nad oedd y cerdyn adrodd yn rhoi’r darlun cyfan. Cyfeiriodd y Gymdeithas at yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan Estyn gan nodi bod y Gweinidog yn marcio ei waith cartref ei hun, fel petai.

Cyflawniad disgyblion yng Nghymru, yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Noder: Trothwy cynwysedig lefel 2 = 5 TGAU graddau A*-C neu fwy gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gymwysterau cyfatebol
Cyflawniad disgyblion yng Nghymru, yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim.
Noder: Trothwy cynwysedig lefel 2 = 5 TGAU graddau A*-C neu fwy gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gymwysterau cyfatebol

Yr heriau a amlygwyd gan Estyn

Mae’n amlwg y bydd gan Lywodraeth newydd Cymru nifer o heriau i’w goresgyn os yw am wella safonau ysgolion a chanlyniadau disgyblion. Amlygwyd rhai o’r rhain yn adroddiad blynyddol 2014/15 Prif Arolygydd Estyn. Daeth i’r casgliad, er bod cynnydd wedi’i wneud, fod mwy i’w wneud o hyd. Gan adrodd ar y sampl o ysgolion a arolygwyd yn ystod 2014/15, dywedodd y Prif Arolygydd:

  • fod safonau’n amrywio a bwlch rhy eang rhwng yr ysgolion gorau a’r ysgolion gwaethaf na ellir eu hegluro gan ffactorau economaidd-gymdeithasol yn unig;
  • mai dim ond hanner yr ysgolion uwchradd sydd â chynlluniau addas ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Yn yr hanner arall, mae cynllunio ar draws y cwricwlwm yn ‘wan’;
  • mai dim ond mewn tua hanner yr ysgolion uwchradd a arolygwyd y mae safon yr addysgu’n dda neu’n well. Yn yr hanner arall, mae ‘ansawdd yr addysgu yn anghyson ac nid yw gweithgareddau’n ddigon heriol’; ac
  • mai arweinyddiaeth dda sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ansawdd y ddarpariaeth mewn ysgol.

Polisi’r dyfodol a chanlyniadau PISA 2015

Yn ystod wythnosau olaf y Pedwerydd Cynulliad, honnodd y Gweinidog ar y pryd fod momentwm newydd yn y byd addysg. Tynnodd sylw at well canlyniadau TGAU a’r ffaith bod y bwlch cyrhaeddiad yn sgil tlodi yn lleihau, sef un o’i brif flaenoriaethau.

Mae targed Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau PISA yn darged hirdymor: sgoriau o 500 ym mhob un o’r tri maes (darllen, mathemateg a gwyddoniaeth) erbyn 2021. Fodd bynnag, bydd canlyniadau cylch 2015 yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016 a dylent ddangos faint o effaith y mae’r llu o ddiwygiadau dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf wedi’i chael. Ym mis Ionawr 2016, dywedodd y Gweinidog ar y pryd wrth Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad fod yn rhaid i dystiolaeth o system gyfan yn symud yn ei blaen gael ei hadlewyrchu yn y canlyniadau hynny gan PISA.

Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai’n parhau i yrru’r broses wella yn ei blaen. Fodd bynnag, a fydd Llywodraeth newydd Cymru a’r Ysgrifennydd Cabinet newydd, sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol, yn rhoi cymaint o bwys ar PISA ac a fyddant yn parhau â’r diwygiadau sydd eisoes ar y gweill? Os na fyddant, pa ddull gwahanol y byddant yn ei fabwysiadu i fynd i’r afael â’r mater hollbwysig hwn?

Ffynonellau allweddol