Diabetes math 1 - canolbwyntio ar ddiagnosis

Cyhoeddwyd 13/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

13 Mehefin 2016 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru diabetes-528678_960_720 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yr wythnos hon, 12 i 18 Mehefin 2016, yw Wythnos Diabetes. Gweler erthygl flaenorol gennym am ddarlun o ddiabetes yng Nghymru. Er bod diabetes math 2 yn llawer mwy cyffredin (mae'r math hwn yn aml yn gysylltiedig â ffordd o fyw), mae tua 1,500 o blant yng Nghymru ac arnynt ddiabetes math 1. Cyflwr awto-imiwn yw diabetes math 1 sy'n golygu nad yw'r pancreas yn cynhyrchu inswlin, ac mae gyda’r clefydau cronig mwyaf cyffredin ymysg plant. Mae'n effeithio'n sylweddol ar iechyd, ffordd o fyw a disgwyliad oes. Mae achosion o ddiabetes math 1 yn cynyddu tua 4% bob blwyddyn, ac mae'r cynnydd yn fwy ymysg plant dan bump oed. Gan amlaf, ceir diagnosis cyn 15 oed, ond gall diabetes math 1 effeithio ar unrhyw oedran. O'r achosion o ddiabetes math 1 sy'n cael diagnosis, mae dros un o bob pump yn ymwneud â phobl dros 40 oed. Mae'n bwysig nodi bod canran sylweddol o blant - hyd at 25% - sy’n mynd heb ddiagnosis hyd nes bod cetoasidosis diabetig arnynt, sef cyflwr all fod yn angheuol. Mae hyn yn digwydd am nad yw symptomau cynnar diabetes yn cael eu hadnabod. Yn ei chynllun cyflawni ar gyfer diabetes, a gyhoeddwyd yn 2013, nododd Llywodraeth Cymru bwysigrwydd sicrhau bod meddygon teulu, nyrsys practis a nyrsys ysgol yn ymwybodol o ddiabetes math 1 a'u bod yn gallu adnabod yr arwyddion a'r symptomau. Mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf ar y cynllun cyflawni yn tynnu sylw at yr angen parhaus i godi ymwybyddiaeth o symptomau diabetes math 1 fel y gellir ei ganfod a'i drin yn gynt.
Gall canfod diabetes math 1 yn hwyr ymhlith plant a phobl ifanc arwain at ganlyniadau difrifol iawn, gan gynnwys marwolaeth, a all fod wedi cael ei hatal drwy ddiagnosis cynharach. Mae ymgyrch ymwybyddiaeth yn cael ei datblygu rhwng Diabetes UK a’r Grŵp Gweithredu Diabetes er mwyn codi ymwybyddiaeth o symptomau diabetes math 1 ym maes gofal sylfaenol ac yn y gymuned er mwyn ei gwneud yn bosibl iddo gael ei ganfod yn gynt.
Nod Ymgyrch 4T Diabetes UK yw codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o'r pedwar symptom mwyaf cyffredin o ddiabetes math 1, a hynny er mwyn sicrhau bod mwy o blant yn cael diagnosis cynnar: TSImage-CY Sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1? Amlygwyd pwysigrwydd diagnosis amserol mewn deiseb a gyflwynwyd tua diwedd y Pedwerydd Cynulliad. Galwodd y ddeiseb am ei gwneud yn orfodol i feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol gynnal profion ar gyfer diabetes math 1 pan fydd plentyn yn dod atynt gyda symptomau tebyg i'r ffliw na ellir eu hesbonio neu deimlad o salwch yn gyffredinol, gan nodi y gall firysau a heintiau guddio symptomau diabetes math 1. Mae'r ddeiseb yn nodi bod prawf gwaed pigo bys (neu brawf troeth) yn rhoi canlyniadau ar unwaith a'i fod yn ymyrraeth gost isel. Lle y bydd prawf o’r fath yn dangos bod diabetes yn bresennol, gellir cymryd camau i’w drin ar unwaith, a thrwy hynny, mae’n bosibl y bydd bywyd yn cael ei achub. Mae'r ddeiseb heb gau eto; caiff ei thrafod gan Bwyllgor Deisebau'r Pumed Cynulliad. Rhagor o wybodaeth: