Mynd i'r afael â'r epidemig gordewdra

Cyhoeddwyd 15/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Mehefin 2016 Erthygl gan Rebekah James, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_5635" align="alignnone" width="682"]Traed rhywun sy’n sefyll ar dafol Llun o Pixabay dan drwydded Creative Commons[/caption]

A hithau’n wynebu epidemig gordewdra, a fydd Llywodraeth newydd Cymru yn barod i fynd i'r afael ag un o heriau iechyd cyhoeddus mwyaf ein hoes, ynteu a yw’n faes rhy gymhleth?

Mae gordewdra yn un o brif achosion marwolaethau y gellir eu hatal yng Nghymru. Ynghyd â'r cyflyrau iechyd sy’n dod law yn llaw â gordewdra, mae'n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau iechyd ac yn costio £73 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Mae’r ffigur hwn yn codi i bron £86 miliwn os caiff pobl dros bwysau eu cynnwys hefyd. Mae gordewdra yn cynyddu’r risg o gael clefyd y galon a gall gyfrannu at gyflyrau cronig fel diabetes math 2, rhai mathau o ganser, pwysedd gwaed uchel, dystroffi’r cyhyrau ac iselder. Gall gordewdra effeithio ar les unigolion, ar ansawdd bywyd ac ar y gallu i ennill cyflog. Gall plant gordew gael problemau iechyd ac maent yn fwy tebygol wedyn o fod yn oedolion gordew. Er bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi cymryd camau i geisio mynd i'r afael â'r cyflwr, nid yw lefelau gordewdra i’w gweld yn gostwng ar hyn o bryd. Mae deiet gwael a diffyg ymarfer corff yn ffactorau pwysig, ond mae cysylltiad hefyd rhwng gordewdra ac amddifadedd: mae lefelau gordewdra yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig gan gynnwys Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot. CY-Obesity1 Nifer yr achosion o ordewdra Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2014, roedd 22% o oedolion yng Nghymru yn cael eu hystyried yn ordew a 58% o oedolion yn cael eu hystyried dros bwysau neu'n ordew. Mae hyn yn uwch na'r ffigur o 54% pan gyhoeddwyd yr arolwg cyntaf yn 2003/04. Mae nifer yr oedolion sydd dros bwysau ac yn ordew yn codi o 53% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig i 61% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'r darlun ymhlith plant Cymru yr un mor heriol. Dengys Rhaglen Mesur Plant Cymru 2013/14 bod 27.3% o blant dros bwysau neu'n ordew. Mae nifer yr achosion hyn yn codi yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd, o 22.2% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig i 28.5% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Y ffigur ar gyfer plant blwyddyn derbyn (4-5 oed) yng Nghymru oedd 26.5% – sy’n uwch nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr, lle'r oedd y nifer uchaf o achosion yn 24%. CY-Obesity2 Mynd i’r afael â'r broblem Yn 2010 lansiodd Llywodraeth Cymru Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan, yn nodi sut y byddai’n ceisio atal a thrin gordewdra ymhlith plant ac oedolion: CY-Obesity3 Mae achosion gordewdra yn gymhleth, a gall gynnwys ffactorau meddygol, cymdeithasol ac economaidd. Ceisiodd Llywodraeth flaenorol Cymru fynd i'r afael â'r gwahanol ffactorau gydag amrywiaeth o bolisïau a deddfwriaeth, gan ganolbwyntio ar fwyta’n iach a gweithgarwch corfforol. Roedd y rhain yn cynnwys: Ein Dyfodol Iach; Newid am Oes; MEND; Deddf Teithio Llesol Cymru (2013); Creu Cymru Egnïol; Blas am Oes a Dringo'n Uwch. Mae camau diweddar sydd wedi’u crybwyll gan wleidyddion a gweithwyr iechyd fel atebion posibl yn cynnwys treth ar ddiodydd llawn siwgr a gwahardd hysbysebion bwyd a diod sy'n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr. Yn 2016 lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru restr 10 cam i fynd i'r afael â gordewdra ymysg plant. Pryderon am y cynnydd Mae pobl wedi beirniadu’r Llwybr Gordewdra, gan honni nad yw wedi cael ei weithredu’n gyflawn a bod diffyg gwasanaethau lefel 3. Bu galwadau hefyd am arweiniad cenedlaethol cliriach i fynd i’r afael â’r broblem. Cynhaliodd pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliadau i wasanaethau bariatrig a gordewdra ymysg plant. Cododd y ddau ymchwiliad bryderon am lwyddiant y Llwybr Gordewdra a’r diffyg cysondeb wrth roi hwnnw ar waith. Yn 2014, canfu adolygiad o’r Llwybr bod holl fyrddau iechyd Cymru yn darparu gwasanaethau lefel 1 a 2, ond mai anghyson oedd darpariaeth lefel 3. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gwneud mwy ac y byddai angen i'r Pumed Cynulliad sicrhau bod y pryderon hyn yn cael sylw. Nid yw rhai meysydd lle y gellid gweithredu wedi'u datganoli'n llawn. Er enghraifft, cyfyngedig yw gallu Cymru i ddylanwadu ar y diwydiant bwyd a diod, ac efallai bod angen dull mwy cydlynol ar lefel y DU a'r UE i achub ar bob cyfle i fynd i'r afael â gordewdra. Ystyriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar ordewdra, gan gynnwys amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Mae pryderon hefyd bod gennym ddiwylliant o 'normaleiddio' gordewdra. Mae rhai’n awgrymu bod angen mwy o arweiniad cenedlaethol a bod angen i adrannau Llywodraeth Cymru weithio’n well â’i gilydd, yn enwedig o ran hyrwyddo bwyta'n iach ac ymarfer corff. Nid yw rhai o’r camau a gymerwyd ers tro i leihau gordewdra yng Nghymru wedi cael unrhyw effaith. Bydd angen i Aelodau'r Pumed Cynulliad a Llywodraeth Cymru benderfynu pam nad oes digon o gynnydd, ac efallai ystyried dulliau newydd o geisio datrys y broblem. Ers cyhoeddi'r erthygl uchod yn 'Materion Allweddol ar gyfer y Pumed Cynulliad', mae prif ganlyniadau cychwynnol Arolwg Iechyd Cymru 2015 wedi cael eu cyhoeddi. Mae canlyniadau 2015 yn dangos bod lefelau gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu: 24% o oedolion sy'n ordew a 59% o oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew. Hefyd, gwelwyd cynnydd yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu sy'n ordew yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig; 54% yw'r ffigur yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a 63% yw'r ffigur yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Ffynonellau allweddol