Dyfodol teithio ar y rheilffyrdd

Cyhoeddwyd 16/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mehefin 2016 Erthygl gan Joseph Champion. Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn 2018, Llywodraeth newydd Cymru fydd yn gyfrifol am roi’r fasnachfraint nesaf ar gyfer rheilffordd Cymru a'r Gororau. Beth yw'r prif faterion sydd angen sylw?

Bydd y pwerau i roi masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau yn cael eu datganoli i Gymru yn 2017. Mae hyn yn golygu mai Llywodraeth newydd Cymru fydd yn dewis pwy fydd yn cael masnachfraint rheilffyrdd fwyaf Cymru. Masnachfraint Cymru a’r Gororau [caption id="attachment_5658" align="alignright" width="239"]Ffynhonnell y Ddelwedd: Llywodraeth Cymru. Ffynhonnell y Ddelwedd: Llywodraeth Cymru.[/caption] Gan Trenau Arriva Cymru y mae masnachfraint bresennol Cymru a'r Gororau, a hynny tan 2018 (mae opsiwn i ymestyn y fasnachfraint honno am gyfnod byr os oes angen). Ddechrau 2016, cynhaliodd Llywodraeth flaenorol Cymru ymgynghoriad ar y fasnachfraint newydd. Roedd yr ymgynghoriad yn galw am farn pobl am yr hyn y dylai gwasanaeth Cymru a’r Gororau fod yn ei ddarparu, ac am y manylebau penodol y dylai gweithredwr y fasnachfraint eu bodloni. Nododd y ddogfen y byddai cynigion manylach yn cael eu datblygu yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad ac ar ôl holi barn y diwydiant rheilffyrdd a'r cyhoedd ymhellach. Nid yw’n glir eto beth fydd hyd y fasnachfraint nesaf, a chymysg yw’r farn am yr hyd gorau. Cwestiynodd adolygiad gan Lywodraeth y DU pa mor fuddiol yw masnachfreintiau hir os mai annog buddsoddi a lleihau risg yw’r nod, gan rybuddio yn erbyn masnachfreintiau hwy na 15 mlynedd heb gymalau i’w terfynu. Ar y llaw arall, roedd y rhan fwyaf o'r rhai a ymatebodd i ymgynghoriad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad i Ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau o'r farn y byddai masnachfreintiau hwy yn annog mwy o fuddsoddi. Mae ansicrwydd hefyd ynghylch union natur masnachfraint Cymru a'r Gororau yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn adolygu’r llwybrau rheilffyrdd sy’n croesi’r ffin, ac y bydd y rhai sy'n gwasanaethu marchnadoedd yn Lloegr yn bennaf yn debygol o gael eu trosglwyddo i fasnachfreintiau yn Lloegr. Mae hyn wedi achosi pryder oherwydd yr effaith bosibl ar deithwyr, a allai orfod newid trên ar y ffin. Mae pryderon hefyd a fydd y fasnachfraint yn fforddiadwy os caiff y gwasanaethau sy’n croesi’r ffin – gwasanaethau sy’n gwneud arian – eu colli. Dywedodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU wrth y Pwyllgor Menter a Busnes ym mis Medi 2015 na fyddai Llywodraeth Cymru yn dioddef yn ariannol pe bai llwybrau’r masnachfreintiau yn cael eu newid. Roedd ansicrwydd ynghylch sut y byddai gwasanaethau Lloegr yn cael eu diffinio, yn ogystal â sut y byddai Llywodraeth Cymru’n cael ei digolledu’n ariannol pe bai gwasanaethau’n diflannu o'r fasnachfraint. Bydd angen datrys yr ansicrwydd hwn yn fuan er mwyn lleddfu pryderon y cyhoedd ac er mwyn i Lywodraeth newydd Cymru symud ymlaen â'r broses o roi’r fasnachfraint nesaf.

Masnachfreintiau rheilffyrdd Cymru

Yn ogystal â masnachfraint Cymru a'r Gororau, mae gan dair masnachfraint arall wasanaethau yng Nghymru:

- de Cymru i Lundain ac arfordir de Lloegr (Great Western Railway);

- Caergybi i Birmingham neu Lundain (Virgin Trains); a

- Caerdydd i ganolbarth Lloegr (CrossCountry Trains).

Traffig teithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru

Yn 2014-15, gwnaed 29.3 miliwn o deithiau ar draws y pedair masnachfraint rheilffyrdd yng Nghymru – 9.4 miliwn yn fwy nag yn 2004-5. Disgwylir i'r twf hwn barhau, gyda Network Rail yn rhagweld y bydd traffig cymudwyr i Ddinas-ranbarth Caerdydd yn cynyddu 68% erbyn 2023. Bydd yn rhaid i Lywodraeth newydd Cymru sicrhau bod y sawl sy’n cael y fasnachfraint nesaf yn gallu delio â'r cynnydd hwn mewn galw.

Y Metro Bydd prosiect Metro’r De yn effeithio ar natur masnachfraint Cymru. Y Metro yw prosiect Llywodraeth flaenorol Cymru i ‘ddarparu gwasanaethau cyflymach, mwy cyson a mwy unedig gan ddefnyddio trenau, bysiau a rheilffyrdd ysgafn’. Erbyn 2030, y gobaith yw y bydd y Metro wedi cynorthwyo i greu 7,000 o swyddi a chyfrannu £4 biliwn ychwanegol i'r economi. Roedd Cyfnod 1 prosiect y Metro yn cynnwys amrywiaeth o welliannau i ffyrdd a rheilffyrdd, gan gynnwys: ymestyn y rheilffordd i ganol Glynebwy ac adeiladu gorsaf newydd; gwella'r capasiti ar reilffordd Maesteg; ac adeiladu gorsaf newydd yn Pye Corner, Casnewydd. Roedd costau Cyfnod 1 tua £75 miliwn. Erbyn 2016, roedd yr holl brosiectau a oedd yn rhan o’r Cyfnod hwn naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill. Disgwylir cwblhau Cyfnod 2 erbyn 2023, ac amcangyfrifir y bydd yn costio £500-600 miliwn. Bydd yn canolbwyntio ar foderneiddio Cledrau’r Cymoedd a rhwydwaith rheilffyrdd ehangach y de, yn bennaf drwy eu trydaneiddio. Mae'n aneglur o hyd ai cerbydau trwm neu ysgafn fydd yn cael eu defnyddio ar Gledrau’r Cymoedd. Bydd y penderfyniad hwn yn cael effaith ar raddfa a chwmpas Cyfnod 3, a fydd yn para y tu hwnt i 2023. Mae Llywodraeth flaenorol Cymru wedi trafod, fel rhan o'r Metro, a fyddai modd i gwmni preifat reoli Cledrau’r Cymoedd fel consesiwn, a hynny yn rhan o fasnachfraint Cymru a'r Gororau. Trafodwyd hefyd ddull arloesol lle byddai seilwaith Cledrau’r Cymoedd hefyd yn cael ei bennu a'i weithredu gan ddeiliad y consesiwn. Cerbydau Mae’r cerbydau a ddefnyddir gan fasnachfraint bresennol Cymru a'r Gororau o safon isel, a bydd angen buddsoddi’n sylweddol ynddynt. Erbyn Ionawr 2020, bydd hefyd angen i gerbydau gydymffurfio â'r rheolau newydd ar fynediad i bobl anabl. Yn 2013, ni fyddai 73% o gerbydau Cymru a'r Gororau wedi cydymffurfio â’r rheolau hyn. Mae sawl opsiwn ar gyfer cael cerbydau gwell, gan gynnwys prynu stoc newydd neu stoc wedi'i hadnewyddu, uwchraddio'r stoc bresennol, neu brydlesu stoc gan gwmnïau preifat. Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei bod am i’r broses o wneud cais am y fasnachfraint nesaf gynnwys yr angen i gael strategaeth cerbydau. Gall gymryd cryn amser i gael cerbydau newydd, gyda rhai'n awgrymu y dylid dechrau'r broses bedair blynedd cyn bod eu hangen. Bydd yn bwysig gwneud penderfyniadau cyflym, felly. Trafnidiaeth Cymru Yn 2014, creodd Llywodraeth flaenorol Cymru gwmni di-ddifidend o'r enw Trafnidiaeth Cymru. Ym mis Chwefror 2016, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, ei bod yn disgwyl i'r cwmni weithredu yn debyg i Transport for London. Trafnidiaeth Cymru fydd y prif gorff strategol ar gyfer trafnidiaeth yn y wlad. Bydd yn rhoi consesiynau i gwmnïau sydd am redeg gwasanaethau, gan gynnwys rheilffyrdd, ac yn arwain y gwaith o roi masnachfreintiau. Mae disgwyl mai’r corff hwn felly fydd yn arwain y broses o roi masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a chonsesiwn Cledrau’r Cymoedd. Ffynonellau Allweddol: