Hawliau Plant yng Nghymru: Y Diweddaraf

17 Mehefin 2016

Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma lun o blant yn dal dwylo

Llun: o thelonaginosuperman.wordpress.com. Dan drwydded Creative Commons

Yr wythnos diwethaf, rhoddodd y Cenhedloedd Unedig eu barn ar ba gynnydd a wnaed ar hawliau plant yng Nghymru. Yn dilyn adolygiad ledled y DU, gwnaeth fwy na 150 o argymhellion.

Mae ei argymhellion yn cynnwys materion fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed; y bwlch cyrhaeddiad mewn addysg; plant sy’n derbyn gofal; plant ag anghenion addysgol arbennig; chwarae plant; a gordewdra ymhlith plant.

Gan gyfeirio’n benodol at Gymru, mae’r Cenhedloedd Unedig:

  • Yn pryderu am gyfraddau tlodi plant uchel yn y DU ac yn dweud ei fod yn effeithio ar blant yng Nghymru a Gogledd Iwerddon fwyaf.  [Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o dlodi plant o holl wledydd y DU, sef 31%, sy’n cyfateb i tua 172,000 o blant];
  • Yn mynegi pryderon nad yw safbwyntiau plant yn cael eu clywed yn systematig wrth lunio polisïau sy’n effeithio arnynt ac yn nodi nad oes senedd ieuenctid yng Nghymru. Mae’n argymell y dylid sefydlu un fel mater o flaenoriaeth, fel y gall plant ymgysylltu’n effeithiol a’r broses ddeddfu ar faterion sy’n effeithio arnynt. [Yr wythnos hon, lansiodd Ymgyrch dros Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru ymgynghoriad i blant a phobl ifanc ar ei syniadau am ba fath o fodel y dylid ei gael ar gyfer cynulliad ieuenctid newydd i Gymru];
  • Yn pryderu bod pwerau Comisiynydd Plant Cymru yn dal i fod yn gyfyngedig. [Gweler ein blog: Amser pwysig i hawliau plant yng Nghymru i gael cefndir am adolygiad annibynnol diweddar a oedd yn edrych ar y pwerau.]

Roedd rhai o sylwadau’r Cenhedloedd Unedig ar faterion ledled y DU yn cynnwys:

  • Mae’n pryderu o ddifrif am effeithiau y polisïau cyllidol diweddar a dyraniadau adnoddau ar hawliau plant a’u bod yn effeithio’n anghymesur ar blant mewn sefyllfaoedd difreintiedig;
  • Mae angen gwahardd, fel mater o flaenoriaeth, pob cosb gorfforol yn y teulu, gan gynnwys diddymu pob amddiffyniad cyfreithiol, fel ‘cosb resymol’, y cyfeirir ato’n aml fel ‘gwaharddiad ar daro plant’. [Ym mis Mai 2016, ymrwymodd y Prif Weinidog i fwrw ymlaen, ar sail drawsbleidiol, â deddfwriaeth a fydd yn cael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol yng Nghymru];
  • Dylai fod ymgynghoriad ar ganiatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio. [Os caiff Bil Cymru 2016 sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd, ei basio, byddai gan y Cynulliad bwerau i newid oed pleidleisio mewn etholiadau i’r Cynulliad];
  • Mae marwolaeth ymysg babanod a phlant yn gysylltiedig ag amddifadedd cymdeithasol ac economaidd. [Mae plant 0-17 oed sy’n byw yn rhannau mwyaf difreintiedig Cymru bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw â’r rhai yn y rhannau lleiaf difreintiedig].

Gweler ein blog diweddar: Blaenoriaethu plant a phobl ifanc i weld ystadegau pellach ar blant yng Nghymru.

Pam bod y Cenhedloedd Unedig yn cael dweud ei ddweud?

Dyma fydd y pumed tro y mae’r Cenhedloedd Unedig wedi edrych ar y cynnydd a wnaed yn cyflawni hawliau plant a phobl ifanc ers i Lywodraeth y DU ymuno â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn) ym 1989. Mae’r Confensiwn yn rhoi amrywiaeth eang o hawliau i blant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed, gan gynnwys yr hawl i ddiogelwch, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden. Gweler crynodeb o’r erthyglau (PDF 19.62MB).

Yn 2011, aeth Llywodraeth Cymru gam ymhellach, gan dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol pan ddaeth yr unig wlad yn y DU i ymgorffori’r Confensiwn mewn cyfraith ddomestig drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). Mae hyn, yn anochel, wedi arwain at gwestiynau o ran beth yw ystyr y gyfraith gymharol newydd hon yn ymarferol a pha wahaniaethau y mae’n gwneud i fywydau bob dydd plant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru.

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cynnwys panel o arbenigwyr rhyngwladol ar blant a phobl ifanc sydd a rôl i graffu ar sut mae llywodraethau yn gweithredu’r CCUHP.

Ar ba dystiolaeth mae’r Cenhedloedd Unedig yn gwneud eu dyfarniad?

Mae’r dyfarniad yn seiliedig ar dystiolaeth ysgrifenedig gan y DU a’r llywodraethau datganoledig; pob un o’r pedwar Comisiynydd Plant yn y DU; adroddiadau cenedlaethol gan sefydliadau anllywodraethol yn ogystal â thystiolaeth a ddarparwyd gan blant a phobl ifanc. Mae cynrychiolwyr o’r Cenhedloedd Unedig wedi ymweld â’r DU a Chymru i gwrdd â rhanddeiliaid a phlant a phobl ifanc. O ganlyniad, aeth cynrychiolwyr o Gymru a’r DU i Genefa i roi tystiolaeth bellach ac ateb cwestiynau am beth yn fwy y mae’n rhaid i San Steffan a Llywodraeth Cymru ei wneud i weithredu’r Confensiwn yn llawn.

O ddiddordeb i Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid eraill, efallai, fydd yr amrywiaeth o dystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi’i chyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn cynnwys:

Beth nesaf yng Nghymru?

Rhoddodd y Cenhedloedd Unedig ei barn ddiwethaf ar hawliau plant yng Nghymru yn ôl yn 2008. Mewn ymateb i’w argymhellion, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd Gwneud Pethau’n Iawn – cynllun gweithredu 5 mlynedd. Nid ydym wedi clywed eto sut bydd Llywodraeth Cymru newydd, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, yn ymateb i’r hyn y mae’r Cenhedloedd Unedig wedi’i ddweud yn yr adroddiad mwyaf diweddar.

Mae’n werth nodi bod y cabinet ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru yn cynnwys Ysgrifennydd Cabinet y mae ei deitl yn benodol yn cynnwys plant. Wrth gyhoeddi hyn yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mai 2016, cadarnhaodd y Prif Weinidog, ‘rydym yn nodi buddiannau plant fel cyfrifoldeb gweinidogol ar wahân’. O ystyried ymrwymiadau datganedig sawl Llywodraeth Cymru olynol i hawliau plant, mae canfyddiadau diweddaraf y Cenhedloedd Unedig yn debygol o ddarparu sail ar gyfer gwaith craffu pellach yn ystod y Pumed Cynulliad.