Cyfansoddiad

Y Cwnsler Cyffredinol

17 June 2016:

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Adeilad y Senedd, Bae Caerdydd.
Llun Flickr gan .Martin. Dan drwydded Creative Commons.

Ar 21 Mehefin 2016, y drydedd eitem o fusnes yn y Cyfarfod Llawn fydd cynnig i gytuno ar argymhelliad y Prif Weinidog fod Ei Mawrhydi yn penodi Cwnsler Cyffredinol. Mae’r cynnig hwn yn datgan:

NDM6025 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno a’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Mick Antoniw AC fel Cwnsler Cyffredinol.

Mae Adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“y Ddeddf”) yn darparu ar gyfer penodi Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru sy’n gweithredu fel cynghorydd cyfreithiol iddi ac sy’n ei chynrychioli yn y llysoedd. Mae’r rôl hon yn cyfateb i rôl y Twrnai Cyffredinol a’r Cyfreithiwr Cyffredinol yn Llywodraeth y DU.

Penodi’r Cwnsler Cyffredinol

Caiff y Cwnsler Cyffredinol ei benodi gan y Frenhines ar argymhelliad y Prif Weinidog, ond rhaid i’r argymhelliad hwn gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oes yn rhaid i’r person a benodir fod yn Aelod Cynulliad, er bod modd i Aelod Cynulliad wasanaethu fel Cwnsler Cyffredinol (gwaherddir yn benodol y Prif Weinidog, Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion rhag gwneud hynny yn y Ddeddf). Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn disgrifio’r swydd fel un sydd â statws gweinidogol ond ni all y deiliad fod yn un o Weinidogion Cymru.

Mick Antoniw yw’r Aelod Cynulliad dros Bontypridd. Fodd bynnag, cafodd Theodore Huckle QC, y Cwnsler Cyffredinol yn y Pedwerydd Cynulliad, ei benodi o’r tu allan i’r Cynulliad.

Cyfranogiad y Cwnsler Cyffredinol yn nhrafodion y Cynulliad

Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn glir y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cael ei drin yr un fath â Gweinidogion Cymru yn ystod trafodion y Cynulliad. Yr un eithriad yw’r ffaith na fydd Cwnsler Cyffredinol nad yw’n Aelod Cynulliad yn gallu pleidleisio. Mae Rheol Sefydlog 9.4 yn datgan:

Os nad yw’r Cwnsler Cyffredinol yn Aelod, mae’r Rheolau Sefydlog yn gymwys i’r Cwnsler Cyffredinol fel y maent yn gymwys i Aelodau a chaiff y Cwnsler Cyffredinol gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad ond ni chaiff bleidleisio.

Disgwylir i’r Cwnsler Cyffredinol, pa un a yw’n Aelod Cynulliad neu beidio, ateb cwestiynau llafar ac ysgrifenedig a gwneud datganiadau llafar neu ddatganiadau ysgrifenedig.

Mae Adran 34 o Ddeddf 2006 yn ymdrin â’r Cwnsler Cyffredinol yn cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad ac mae’n cynnwys darpariaeth sy’n galluogi’r Cwnsler Cyffredinol i wrthod darparu dogfennau neu i ateb cwestiynau am achosion troseddol penodol (mae’n bosibl bod y Cwnsler Cyffredinol yn cynnal achosion troseddol ar ran Llywodraeth Cymru) os yw’n ystyried y byddai gwneud hynny’n niweidio trafodion yr achos hwnnw neu fel arall ei fod yn groes i les y cyhoedd.

Achosion cyfreithiol

O dan adran 67 o Ddeddf 2006, mae modd i’r Cwnsler Cyffredinol, fel cynrychiolydd Gweinidogion Cymru yn y llysoedd, gychwyn, amddiffyn neu ymddangos mewn unrhyw achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â materion ynghylch unrhyw swyddogaethau y gall Llywodraeth Cymru eu harfer, cyn belled ag y bo’r Cwnsler Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny er mwyn hyrwyddo neu warchod lles y cyhoedd.

Y Goruchaf Lys yn Craffu ar Filiau’r Cynulliad

Mae adran 112 o Ddeddf 2006 yn darparu dull i’r Cwnsler Cyffredinol neu’r Twrnai Cyffredinol gael penderfyniad gan y Goruchaf Lys i ateb y cwestiwn a yw Biliau’r Cynulliad neu ddarpariaethau penodol ym Miliau’r Cynulliad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Gellir dim ond gwneud hyn o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y caiff Bil ei basio gan y Cynulliad. Digwyddodd hyn ar dri achlysur yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Cafodd dau Fil eu cyfeirio gan y Twrnai Cyffredinol ac un gan y Cwnsler Cyffredinol.

Y Biliau a gyfeiriwyd gan y Twrnai Cyffredinol oedd y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru). Yn y ddau achos, daeth y Goruchaf Lys i’r casgliad fod y Biliau o fewn cymhwysedd. Fodd bynnag, cafodd y trydydd Bil, sef y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), ei gyfeirio gan y Cwnsler Cyffredinol am ddyfarniad rhagataliol. Canfu’r Goruchaf Lys yn unfrydol nad oedd gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol i weithredu’r Bil ar ei ffurf bresennol.