Llywodraeth Cymru Cyllideb Atodol Cyntaf 2016-17

Cyhoeddwyd 22/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

22 Mehefin 2016 Erthygl gan Gareth Thomas a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Gosododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford AC) y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2016-17 ar 21 Mehefin 2016. Yn ogystal, cyflwynwyd nodyn esboniadol a thablau yn dangos y dyraniadau i’r adrannau. Mae'r gyllideb atodol hon yn diwygio’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2016-17, a gymeradwywyd gan y Cynulliad blaenorol ym mis Mawrth 2016. Bydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn cymryd tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet i graffu ar y dyraniadau a wnaed yn y gyllideb atodol yr wythnos nesaf. Bydd dadl a phleidlais yn y Cyfarfod Llawn i awdurdodi'r cynnig ynglŷn â'r gyllideb atodol ar 12 Gorffennaf. Mae'r gyllideb atodol hon yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu dros £16 biliwn yn ystod 2016-17.  O’r swm hwn, mae £14.5 biliwn wedi'i ddyrannu i Adrannau Llywodraeth Cymru (a elwir yn DEL). O’r £1.5 biliwn sy’n weddill, mae tua £1 biliwn yn ymwneud â rhagweld derbyniadau trethi busnes a gaiff ei ailddosbarthu ymhlith awdurdodau lleol a £0.5 biliwn yn Wariant arall a Reolir yn Flynyddol (a elwir yn AME), sy’n caei ei arwain yn ôl y galw. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddisgresiwn ynghylch y modd y caiff y cyllid hwn ei wario. Yn ogystal, caiff £0.6 biliwn o gyllid ei gadw fel cronfa ganolog i’w ddyrannu yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol. Mae manylion y dyraniadau i adrannau wedi’u nodi yn y ffeithlun isod. Ffeithlun sy’n dangos prif ffigurau o’r gyllideb atodol cyntaf 2016-17 Prif bwrpas y gyllideb atodol hon yw ailstrwythuro er mwyn adlewyrchu newidiadau portffolio Gweinidogion Llywodraeth Cymru newydd.  Yn ogystal, mae nifer fach o ddyraniadau wedi’u gwneud o’r cronfeydd wrth gefn i adlewyrchu dyraniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru’n flaenorol ac nad oedd yn y Gyllideb Derfynol.  Cyfanswm y dyraniadau hyn yw £21.5 miliwn mewn refeniw ac ychydig o dan £9 miliwn mewn cyfalaf. Mae’r dyraniadau refeniw yn cynnwys: Mae'r dyraniadau cyfalaf yn cynnwys: