A fydd “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” yn llwyddo i gyflawni?

Cyhoeddwyd 01/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

1 Gorffennaf 2016 Erthygl gan Stephen Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_5838" align="alignnone" width="300"]Llun o ddyn yn edrych yn ofidus Llun: o Wikimedia. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ddydd Mawrth nesaf, 5 Gorffennaf, bydd y Cynulliad yn trafod Law yn Llaw at Iechyd Meddwl - Cynllun Cyflawni 2016 - 2019. Dyma ail gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ei strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, a gafodd ei lansio yn 2012. Cynhaliwyd ymgynghoriad ynglŷn â'r Cynllun Cyflawni yn gynharach eleni ac nid oedd y fersiwn derfynol wedi cael ei chyhoeddi ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon. Mae'r wybodaeth isod, felly, yn cyfeirio at y ddogfen ymgynghori. Mae yn y Cynllun Cyflawni 10 maes blaenoriaeth, yn cwmpasu darpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl o bob oed, ac mae'n ymdrin ag ystod eang o faterion gan gynnwys dementia, anhwylderau bwyta, camau i atal hunanladdiad, ac anghenion cyn-filwyr. Ceir nifer o gamau gweithredu a mesurau perfformiad o fewn pob un o'r meysydd blaenoriaeth. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar dri mater allweddol: gofal argyfwng, therapïau seicolegol a gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Gofal argyfwng Bu pryder ers cryn amser ynglŷn â'r driniaeth a roddir i bobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl ac sy'n cael eu cadw gan yr heddlu, er eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch pobl eraill. Mae adrannau 135 a 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn caniatáu i swyddog yr heddlu symud rhywun y mae'n ymddangos ei fod yn dioddef o anhwylder meddyliol i le diogel, a gall hynny olygu'r ddalfa. Dylid defnyddio pwerau o'r fath fel dewis olaf, ond mae pryder eu bod yn cael eu gorddefnyddio, weithiau oherwydd bod gwasanaethau gofal argyfwng yn annigonol. Cytunwyd yn ddiweddar ar goncordat amlasiantaeth ar gyfer Cymru ym maes gofal argyfwng iechyd meddwl, a'i nod yw lleihau'r defnydd o leoedd diogel sy'n amhriodol, fel celloedd yr heddlu, a gwella gofal i bobl sy'n cael eu cadw o dan adrannau 135 neu 136. Cytunwyd ar y concordat rhwng y GIG, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu a'r gwasanaethau brys, y sector gwirfoddol ac eraill. Mae'r Cynllun Cyflawni Iechyd Meddwl yn nodi y bydd yr holl bartneriaid yn sicrhau, erbyn mis Mawrth 2017, eu bod yn cadw at egwyddorion y concordat. Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae'r Bil Heddlua a Throsedd, sydd ar hyn o bryd gerbron y Senedd, yn debygol o ddiwygio'r gyfraith sy'n effeithio ar ddarpariaeth gofal argyfwng gan ei fod yn diwygio adrannau 135 a 136 o Ddeddf Deddf Iechyd Meddwl 1983. Byddai'r diwygiadau, ymhlith pethau eraill, yn gwahardd defnyddio celloedd yr heddlu fel man diogel i bobl dan 18 oed ac yn rhoi cyfyngiadau newydd ar ddefnyddio celloedd ar gyfer oedolion. Bydd y gwelliannau a gyflawnir i ofal argyfwng drwy'r Cynllun Cyflawni yn cael eu mesur yn ôl y lleihad yn nifer y cleifion mewn argyfwng neu a gedwir o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl sy'n cael eu cludo gan yr heddlu / cynnydd yn y nifer sy'n cael eu cludo mewn ambiwlans. Therapïau seicolegol Mater arwyddocaol arall i gael sylw yn y Cynllun Cyflawni Iechyd Meddwl yw therapïau seicolegol, a pha mor rhwydd yw cael gafael arnynt. Mae sefydliadau iechyd meddwl yn y trydydd sector wedi bod yn ymgyrchu dros sicrhau bod therapïau seicolegol ar gael yn ehangach, ag amseroedd aros byrrach, a thros lai o ddibyniaeth ar gyffuriau fel triniaeth. Gellid gwneud llawer i gynorthwyo i gyflawni un o amcanion Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, sef hybu triniaeth a chefnogaeth gynharach ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl, trwy sicrhau bod 'therapïau siarad' ar gael yn haws ac yn gyflymach. Cyflwynodd y Mesur Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol, a rhan o rôl y gwasanaeth hwn yw sicrhau bod therapïau seicolegol ar gael yn rhwyddach. Un o'r camau gweithredu allweddol ar gyfer Byrddau Iechyd yn y Cynllun Cyflawni newydd yw sicrhau bod therapïau seicolegol seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer oedolion ar gael yn rhwyddach yn unol â Chynllun Gweithredu'r Pwyllgor Rheoli Cenedlaethol ar gyfer Therapïau Seicolegol (NPTMC) erbyn mis Mawrth 2017. Mae Cynllun Gweithredu'r NPTMC yn cynnwys camau i gynyddu capasiti'r gweithlu, lleihau amseroedd aros, datblygu gwybodaeth ac adnoddau hunan-gymorth, datblygu safonau perfformiad cenedlaethol, a gwella'r dulliau o gasglu data. Bydd y Cynllun Cyflawni yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd gyflwyno adroddiadau ar darged o 26 wythnos rhwng atgyfeirio a derbyn triniaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol; ar darged o gadw at yr amser aros o 28 diwrnod ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol mewn 80 y cant o achosion; ac ar amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol mewn Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol. Plant a phobl ifanc O ran iechyd meddwl plant a phobl ifanc, mae'r Cynllun Cyflawni yn nodi amrywiaeth o gamau gweithredu, â llawer ohonynt yn adlewyrchu'r rhai sydd i'w cael yn y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. Hon yw rhaglen tair blynedd Llywodraeth Cymru i wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Mae'r rhaglen yn pwysleisio dull amlasiantaeth o fynd i'r afael ag ystod o anghenion emosiynol ac anghenion lles plant a phobl ifanc, gan ddarparu cefnogaeth mewn amrywiaeth o leoliadau, yn ogystal â chymorth arbenigol gan CAMHS. Mae gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn cael eu hailwampio yn dilyn nifer o adroddiadau beirniadol yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys un gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Pedwerydd Cynulliad. Ceir camau gweithredu a mesurau perfformiad yn y Cynllun Cyflawni sy'n ymwneud â darpariaeth CAMHS:
  • i fynd i'r afael ag anghenion mamau yn y cyfnodau cyn- ac ôl-enedigol;
  • ar gyfer plant yn eu blynyddoedd cynnar ac mewn lleoliadau addysgol;
  • ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai sydd mewn perygl ychwanegol o les meddyliol gwael; ac
  • i wella gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru yn ddogfen uchelgeisiol ac eang sy'n cwmpasu pob grŵp oedran ac sy'n rhoi pwyslais ar waith ataliol a llesiant ac ar gyfraniad gwasanaethau cyhoeddus y tu hwnt i'r rhai sy'n ymwneud yn unig ag iechyd a lles. Mae'r Cynllun Cyflawni yn adlewyrchu'r cwmpas eang hwnnw a bydd ei effaith yn cael ei fonitro'n ofalus gan bobl sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl a'r rhai sy'n eu cefnogi ac yn eu cynrychioli.