Feirws y Tafod Glas

04 Mehefin 2016:

Erthygl gan Edward Armstrong, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Delwedd dafad

Llun: Flikr gan David Martyn Hunt. Dan drwydded Creative Commons

Yn sgil achosion diweddar o feirws y Tafod Glas yn Ffrainc, cyhoeddwyd rhybudd ynghylch lledaeniad posibl y clefyd ar draws y DU. Beth yw clefyd y Tafod Glas a sut y gallai effeithio ar ffermwyr yng Nghymru?

Beth yw clefyd y Tafod Glas?

Mae’r Tafod Glas yn glefyd firysol sy’n gallu effeithio ar bob math o anifeiliaid cnoi cil, gan gynnwys defaid, gwartheg, ceirw, geifr a chamelidau. Nid yw’n cael unrhyw effaith ar geffylau na moch, ac nid yw’n peri risg i iechyd pobl.

Mae’r firws yn cael ei ledaenu gan fathau penodol o wybed brathog. Gweler y niferoedd mwyaf ohonynt rhwng mis Mai a mis Hydref, ac mae’r risg y bydd y clefyd yn lledaenu yn uwch yn ystod y cyfnod hwn. Ni all y clefyd gael ei drosglwyddo rhwng anifeiliaid. Serch hynny, mae’n bosibl trosglwyddo’r clefyd drwy arferion mecanyddol neu anhylan.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), y gweinyddiaethau datganoledig a’r diwydiant ffermio wedi llunio trosolwg manwl (PDF, 40KB) o glefyd y Tafod Glas.

Beth yw’r risg ar hyn o bryd?

Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd DEFRA (PDF 863KB) asesiad risg ansoddol cynhwysfawr a oedd yn gwerthuso lledaeniad y Tafod Glas yn y DU.

Mae’r risgiau a berir gan y Tafod Glas ar hyn o bryd yn deillio o’r achosion diweddar a gafwyd yn Ffrainc. Ar 13 Mai 2016, (PDF 187KB) bu 272 o achosion yn Ffrainc. Roedd pob achos—ac eithrio un ohonynt—o fewn daliadau gwartheg. Mae’r rhan fwyaf o achosion a gofnodwyd wedi digwydd yng nghanol Ffrainc, ac nid ydynt wedi ymledu tuag arfordir y gogledd hyd yn hyn.

Yn sgil y ffaith bod y drefn ar gyfer masnachu anifeiliaid yn destun rheoliadau llym, y tebygolrwydd yw mai gwybed heintiedig a fyddai’n cyflwyno’r clefyd i’r DU. Mae gwaith modelu (PDF 863KB) a wnaed gan DEFRA wedi asesu lledaeniad y clefyd, ac wedi pwysleisio ei fod yn dibynnu ar lefel a chynnydd y clefyd ar y cyfandir ac ar amodau hinsoddol.

Mae’n dod i’r casgliad bod y risg y bydd y clefyd yn lledaenu erbyn diwedd yr haf yn 60-80 y cant, er bod lefel uchel o ansicrwydd ynghlwm wrth y casgliad hwn. Mae’n pwysleisio bod y sefyllfa hon yn ddibynnol iawn ar allu awdurdodau Ffrainc i reoli’r clefyd, ac ar y tymheredd ar draws y DU.

Beth yw’r symptomau?

Er mai gwartheg sydd, gan amlaf, yn cael eu heffeithio gan y clefyd, mae’r effaith y mae’r clefyd yn ei gael ar ddefaid yn fwy difrifol. Mae arwyddion clinigol y clefyd yn cynnwys rhannau o wyneb yr anifail yn chwyddo (y gwefusau a’r tafod, fel arfer), syrthni, hylif yn llifo o’r trwyn a’r geg, problemau anadlu a thymheredd uwch.

Darperir trosolwg manwl o’r symptomau gan yr Ymgyrch ar y cyd yn Erbyn y Tafod Glas (JAB) (PDF 129KB) a DEFRA (PDF 132KB).

Achosion a gafwyd yng Nghymru a’r DU yn y gorffennol

Cafwyd yr achos mawr diwethaf o’r Tafod Glas yng Nghymru a Lloegr rhwng 2007 a 2008. Sefydlwyd parth gwarchod er mwyn ceisio rheoli lledaeniad y clefyd drwy gyfyngu ar symudiadau da byw a thrwy annog brechu.

Enillodd Cymru a gweddill y DU statws rhydd rhag y Tafod Glas yn 2011. Yn unol â’r statws hwn, caniateir symud da byw nad ydynt wedi’u brechu rhwng Cymru a gwledydd eraill sy’n rhydd rhag y clefyd.

Mae DEFRA wedi cyhoeddi Strategaeth Rheoli Clefyd y Tafod Glas (PDF 234kb), sy’n rhoi amlinelliad manwl o’r camau a fyddai’n cael eu hystyried yn dilyn achosion tybiedig neu achosion wedi’u cadarnhau yn y DU.

Beth y gallwch chi ei wneud?

Mae brechu anifeiliaid cnoi cil yn erbyn y clefyd yn fesur effeithiol o ran lleihau’r risg o haint.

Mae NFU Cymru wedi cynghori ffermwyr i siarad â’u milfeddygon i drafod y risgiau a’r opsiynau sydd ar gael iddynt, ac wedi galw ar gynhyrchwyr y brechlyn a milfeddygon i roi gwybodaeth glir ynghylch ei argaeledd a’i bris.

Cyhoeddwyd y bydd BLUEVAC BTV8, brechlyn ar gyfer y Tafod Glas sy’n cael ei gynhyrchu gan MSD Health, ar gael ledled y Deyrnas Unedig o ganol mis Gorffennaf 2016 ymlaen.

Mae’r daflen JAB (PDF 129KB) yn tynnu sylw at gamau eraill y gall ffermwyr eu cymryd, gan gynnwys:

  • Monitro eu stoc a rhoi gwybod i’r awdurdodau am unrhyw arwyddion o’r clefyd;
  • Cyrchu eu hanifeiliaid yn gyfrifol; a
  • Chynnal lefelau uchel o fioddiogelwch.
  • Rhaid rhoi gwybod ar unwaith i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am unrhyw anifeiliaid sy’n peri amheuon. Yna, bydd yr asiantaeth yn ymchwilio i’r mater. Mae peidio â rhoi gwybod i’r asiantaeth yn drosedd.