Sut mae trethi busnes yn gweithio yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 06/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

06 Gorffennaf 2016 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Trethi busnes, a elwir weithiau yn drethi annomestig, yw un o brif ffynonellau cyllid llywodraeth leol, ac maent wedi cael eu datganoli'n llawn i Gymru ers 1 Ebrill 2015.  Mae'r blog hwn yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn derbyn amdanynt.  Nifer yr eiddo sy'n gymwys ar gyfer trethi busnes Business Rate 2-cy Mae swm y trethi busnes y mae'n rhaid eu talu ar eiddo annomestig yn cael ei gyfrifo yn y ffordd ganlynol yng Nghymru. Sut y caiff trethi busnes eu cyfrifo Gwerth ardrethol eiddo yw amcangyfrif o faint o rent y gallai ei ddenu y flwyddyn ar y farchnad agored ar bwynt penodol mewn amser. Caiff hwn ei luosi gan y 'geiniog yn y bunt' o'r gwerth ardrethol a delir mewn trethi busnes, a elwir yn lluosydd, i gyfrifo'r rhwymedigaeth trethi busnes ar gyfer yr eiddo.  Yna mae unrhyw ostyngiadau y mae'r eiddo yn gymwys ar eu cyfer yn cael eu tynnu o'r rhwymedigaeth yn y bil trethi busnes terfynol. Yng Nghymru, mae trethi busnes yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol a'u talu i mewn i 'gronfa' genedlaethol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Yna cânt eu hailddosbarthu i awdurdodau lleol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru fel rhan o'r setliad llywodraeth leol blynyddol a setliad yr heddlu. Pwy sy'n gwneud beth? Mae'r Asiantaeth Swyddfa Brisio (VOA), corff Llywodraeth y DU, yn asesu gwerth ardrethol pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr. Dyma hefyd yw'r pwynt cyswllt cyntaf os yw busnes yn credu bod ei fil yn anghywir oherwydd bod y gwerth ardrethol yn anghywir. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y lluosydd trethi busnes bob blwyddyn ariannol, ac yn penderfynu polisi trethi busnes cenedlaethol gan gynnwys pennu gostyngiadau. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol sy'n gyfrifol am bolisi a gweinyddu trethi busnes. Mae awdurdodau lleol yn casglu trethi busnes o fewn eu hardal, a hefyd yn gallu dyfarnu gostyngiadau disgresiynol ar gyfer busnesau o fewn eu hawdurdod.  Prif ostyngiadau ar drethi busnes Pa help sydd ar gael ar gyfer busnesau bach i leihau eu biliau trethi busnes? Mae cynllun gostyngiadau trethi i fusnesau bach presennol Llywodraeth Cymru  yn rhoi gostyngiad i fusnesau bach sy'n gymwys yn y modd canlynol tan fis Mawrth 2017:
  • Mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael 100% o ostyngiad ac nid ydynt yn talu trethi busnes o gwbl; ac
  • Mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael gostyngiad sy'n cael ei ostwng yn raddol; gyda chanran y gostyngiad ar drethi a ddyfarnwyd yn gostwng 1% am bob £60 o werth trethiannol dros £6,000.
Roedd maniffesto Llafur Cymru yn addo cynyddu gostyngiadau trethi i fusnesau bach. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi datgan y bydd yn ystyried yr opsiynau ar gyfer gostyngiadau yn y dyfodol dros yr haf. Mae rhai mathau o fusnesau bach, fel swyddfeydd post, safleoedd gofal plant cofrestredig a rhai adeiladau manwerthu yn gymwys am fwy o ostyngiad. Pa fathau eraill o ostyngiad sydd ar gael? Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gynlluniau gostyngiadau ar drethi busnes ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy'n ehangu o fewn yr ardaloedd menter yng Nghymru. Mae cynllun ar gael ar hyn o bryd hyd at 30 Medi 2016 ar gyfer parth menter Glannau Port Talbot  sydd newydd ei sefydlu, er mwyn rhoi gostyngiadau mewn  trethi i fusnesau yn y flwyddyn ariannol 2016-17. Mae adeiladau busnes a feddiannir gan elusen gofrestredig neu glwb chwaraeon amatur cymunedol sy'n cael eu defnyddio at ddibenion elusennol yn gymwys yn awtomatig i gael gostyngiad ar drethi busnes o 80%, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gallu defnyddio eu disgresiwn i ddyfarnu gostyngiad ychwanegol i elusennau a chlybiau chwaraeon am ran neu'r cyfan o'r 20% sy'n weddill o'u rhwymedigaethau trethi busnes.  Gall awdurdodau lleol hefyd benderfynu a ydynt yn dymuno dyfarnu gostyngiad ar drethi o hyd at 100% i sefydliadau nid-er-elw o fewn eu hardal. Mae adeiladau busnes gwag wedi'u heithrio rhag talu trethi busnes ar gyfer y tri mis cyntaf ar ôl i'r eiddo ddod yn wag. Ar ôl hyn mae'r rhaid i'r rhan fwyaf o berchnogion dalu trethi busnes llawn.  Fodd bynnag, mae rhai mathau o safleoedd â rheolau gwahanol, megis y rhai sydd â gwerth ardrethol o dan £2,600, safleoedd diwydiannol ac eiddo sy'n eiddo i elusennau a chlybiau chwaraeon. Mae'r cynllun Datblygiadau Newydd yn ostyngiad dros dro sy'n eithrio'r holl eiddo masnachol gwag sydd newydd gael eu hadeiladu rhag talu trethi busnes ar gyfer y 18 mis cyntaf wedi eu cwblhau. Mae'n rhaid i adeiladau gael eu cwblhau rhwng 1 Hydref 2013 ac 1 Hydref 2016. Mae awdurdodau lleol yn gallu defnyddio eu disgresiwn i ganiatáu gostyngiad caledi o hyd at 100% i fusnesau yn eu hardal.  Gall awdurdod ddyfarnu gostyngiad caledi os yw'n fodlon y byddai'r trethdalwr yn dioddef caledi pe na bai'n gwneud hynny, a'i fod yn rhesymol iddo wneud hynny wedi ystyried buddiannau talwyr y dreth gyngor. Yn ogystal, mae rhai mathau o safleoedd busnes wedi'u heithrio rhag talu trethi busnes o gwbl. Beth fydd yn digwydd gyda'r ailbrisiad trethi busnes sydd ar ddod? Mae ailbrisiio trethi busnes fel arfer yn digwydd bob pum mlynedd, a bydd y VOA yn cynnal ailbrisiad o'r holl eiddo annomestig yng Nghymru i ddod i rym o fis Ebrill 2017, yn seiliedig ar eu gwerth ardrethol ar 1 Ebrill 2015. Mae ailbrisio yn addasu gwerth ardrethol yr eiddo er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo ac i ailddosbarthu rhwymedigaethau trethi busnes, yn hytrach na cheisio cynyddu refeniw a godir o drethi busnes.  Bydd rhai eiddo yn gweld cynnydd yn eu bil trethi busnes, rhai yn gweld gostyngiad ac eraill yn gweld dim newid. Mae'r VOA ar hyn o bryd yn ailbrisio eiddo ar draws Cymru. Disgwylir y bydd y gwerthoedd ardrethol drafft yn cael eu cyhoeddi ar-lein gan y VOA ar 30 Medi 2016, a gall busnesau gofrestru ar-lein gyda'r VOA i dderbyn hysbysiad e-bost pan fydd eu prisiad drafft ar gael ar-lein. Gall diwygiadau i werthoedd ardrethol drafft gael eu gwneud rhwng mis Hydref 2016 a mis Mawrth 2017, os oes camgymeriadau ffeithiol.  Yna bydd awdurdodau lleol yn anfon biliau trethi busnes allan ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18.  Gellir apelio yn erbyn prisiadau o fis Ebrill 2017.