Ynni Yr Amgylchedd

Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru wedi gostwng 8%

07 Gorffennaf 2016

Erthygl gan Edward Armstrong a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Roedd yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r chwech prif fath o nwy wedi gostwng 8% yng Nghymru rhwng 2013 ac 2014. Fodd bynnag, mae Cymru yn dal ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU o ran gostwng allyriadau yn y tymor hwy.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol (NAEI) (PDF, 25.9MB) yr amcangyfrifon diweddaraf o’r ystadegau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig am y cyfnod rhwng 1990 a 2014. Mae’r rhain yn dangos bod yr allyriadau wedi gostwng 18% rhwng blwyddyn y llinell sylfaen (1990 neu 1995 yn dibynnu ar y nwy tŷ gwydr) a 2014.

Y prif reswm am y gostyngiadau yw bod yn fwy effeithlon wrth gynhyrchu ynni a gwresogi’r sector busnes, defnyddio nwy naturiol yn lle glo, gostyngiad mewn rhai diwydiannau cemegol a newid yn nhueddiadau’r diwydiant gweithgynhyrchu.

Sut mae’r gostyngiadau yng Nghymru yn cymharu â gweddill y DU?

Mae allyriadau Cymru yn cyfrif am 9% o gyfanswm allyriadau’r DU, tra bod Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyfrif am 75.7%, 8.6% a 4% o gyfanswm yr allyriadau yn y drefn honno. Y rheswm am hynny yw bod gan Gymru gyfran gymharol uchel o ddiwydiant trwm a chynhyrchu trydan o gymharu â’n poblogaeth.

O’i gymharu â llinell sylfaen 1990, roedd y gostyngiad yn allyriadau Cymru yn llai na gweinyddiaethau datganoledig eraill y DU. Er y bu gostyngiad o 18% yn yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru ers y llinell sylfaen, bu gostyngiadau o 41% a 38% yn yr Alban a Lloegr yn y drefn honno.  Fodd bynnag, yng Ngogledd Iwerddon, bu gostyngiad ychydig yn is nag yng Nghymru, lle bu gostyngiad o 17% yn yr allyriadau yn ystod y cyfnod hwn.

Rhwng 2013 ac 2014, roedd y gostyngiad yn allyriadau Cymru yn fwy na Lloegr (7.9%) a Gogledd Iwerddon (3%) ond yn llai na’r Alban (8.9%).

Ffynhonnell: National Atmospheric Emissions Inventory, Greenhouse Gas Inventories for England, Scotland, Wales and Northern Ireland: 1990-2014

Ffynhonnell: National Atmospheric Emissions Inventory, Greenhouse Gas Inventories for England, Scotland, Wales and Northern Ireland: 1990-2014

Sut mae hyn yn cymharu â thargedau Cymru ar gyfer allyriadau?

Roedd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (PDF, 293KB) yn nodi newid yn y dull o fynd i’r afael ag allyriadau ac yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod allyriadau yn cael eu gostwng. Mae’r dyletswyddau yn y Ddeddf yn cynnwys y canlynol:

Picture2-cy

Bydd dau gyfnod cyntaf y gyllideb garbon rhwng 2016 a 2020, a rhwng 2021 a 2025. Ar gyfer y ddau gyfnod hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu uchafswm y targedau ar gyfer yr allyriadau net. Er mwyn i Gymru gyrraedd ei tharged yn 2050, rhaid gostwng yr allyriadau 62% arall yn ystod y 35 mlynedd nesaf.

Mae’r targedau hyn yn ychwanegol at y dyletswyddau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Ddeddf hon yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy a llesiant yng Nghymru. Mae targed hefyd i leihau’r allyriadau o fewn cymhwysedd datganoledig (PDF, 1.27MB) o leiaf 3% y flwyddyn ym mhob blwyddyn rhwng 2011 a 2020.

O fewn y Ddeddf mae saith nod llesiant (PDF, 2.11MB), ac mae tri ohonynt yn gysylltiedig â lleihau allyriadau er mwyn atal y newid yn yr hinsawdd a gwella llesiant amgylcheddol Cymru. Y nodau hynny yw: Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Ar lefel y DU, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno’n ddiweddar â chynnig y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd o ran y gyllideb garbon ar gyfer 2028-32. Mae hynny’n golygu gostwng yr allyriadau targed 57% erbyn 2032 o gymharu â’r flwyddyn sylfaen.

Beth yw cyfraniadau’r sectorau unigol?

Caiff allyriadau eu rhannu’n naw sector allweddol; amaethyddiaeth, busnes, cyflenwi ynni, diwydiant, newid defnydd tir, cyhoeddus, preswyl, trafnidiaeth a gwastraff.

Y sectorau cyflenwi ynni a busnes yw’r ffynonellau mwyaf o allyriadau rhwng 1990 a 2014, gan eu bod yn cyfrif am 38% ac 20% o gyfanswm yr allyriadau yn 2014. Mae hyn yn cael ei sbarduno gan gynhyrchu trydan a llosgi haearn a dur. Mae’r sectorau allweddol eraill yn cynnwys trafnidiaeth ac amaethyddiaeth, ac roedd y ddau yn cyfrif am 13% o’r allyriadau yn 2014.

Ffynhonnell: National Atmospheric Emissions Inventory, Greenhouse Gas Inventories for England, Scotland, Wales and Northern Ireland: 1990-2014

Ffynhonnell: National Atmospheric Emissions Inventory, Greenhouse Gas Inventories for England, Scotland, Wales and Northern Ireland: 1990-2014

Bu gostyngiadau sylweddol yn yr allyriadau mewn nifer o sectorau ers 1990, yn enwedig busnes (32%), y sector cyhoeddus (57%), preswyl (28%) a rheoli gwastraff (72%). Y rheswm am y gostyngiadau yn y sector busnes yw bod llai o allyriadau o’r diwydiannau haearn a dur, a’r rheswm am yr arbedion yn y sectorau preswyl a chyhoeddus yw bod ynni’n cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon, ac oherwydd y newid i danwydd sy’n llai dwys o ran carbon. Yr hyn sy’n cyfrif am y gostyngiadau mawr mewn rheoli gwastraff yw bod systemau dal a ocsideiddio methan wedi’u rhoi mewn safleoedd tirlenwi.

Trafodir tueddiadau penodol y sectorau a’r hyn sy’n eu sbarduno yn fanylach yn y adroddiad stocrestrau (PDF, 25.9MB).

Beth am allyriadau drwy ddefnyddio (allyriadau defnyddiwr terfynol)?

Mae’r dull ‘defnyddiwr terfynol’ yn cyfrifo allyriadau yn ôl y man y defnyddir cynnyrch yr allyriadau hynny (ee trydan). Mae hyn yn rhoi cyfrif am y defnydd, yn hytrach na’r allyriadau sy’n gysylltiedig ag ardal ddaearyddol lle y caiff y gwaith cynhyrchu ei wneud.

Ar sail defnyddiwr terfynol, roedd allyriadau 2014 yn is na’r allyriadau ffynhonnell, gan mai Cymru yw’r unig un o wledydd y DU sydd yn allforiwr net o ynni.

Gostyngodd allyriadau defnyddiwr terfynol yng Nghymru 5.1% rhwng 2013 a 2014, a 29.9% ers 1990. Ar gyfer y ddau gyfnod, roedd hyn yn llai na’r Alban (9.4% a 45.1%) a Lloegr (7.9% a 35.6%), ond yn fwy na Gogledd Iwerddon (4.6% a 18.7%).