Y Drafodaeth ar Glyffosad

Cyhoeddwyd 07/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

07 Gorffennaf 2016
Erthygl gan Edward Armstrong, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_5950" align="alignright" width="300"]Llun: flikr gan Fabrice. Dan drwydded Creative Commons Llun: flickr gan Fabrice. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Yn dilyn tipyn o oedi, ar 30 Mehefin, ail-gymeradwyodd y Comisiwn Ewropeaidd y defnydd o’r chwynladdwr Glyffosad, a ddefnyddir yn eang, am gyfnod o 18 mis. Beth yw’r dadleuon sy’n parhau’n gysylltiedig â’i adnewyddu? Glyffosad yw’r cynhwysyn gweithredol mewn llawer o chwynladdwyr a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, garddwriaeth a garddio. Mae’n cael ei gysylltu’n fwyaf cyffredin â’r enw masnachol Roundup, a gynhyrchir yn fasnachol gan Monsanto. Hwn yw’r chwynladdwr a ddefnyddir amlaf yn y byd ac ar hyn o bryd caiff ei ddefnyddio’n helaeth ledled Cymru. Pa mor gyffredin yw Glyffosad yng Nghymru? Roedd Glyffosad yn cyfrif am oddeutu 14.3% o’r holl chwynladdwyr a ddefnyddiwyd yng Nghymru, yn ôl pwysau, dros y cyfnod 2004 - 2014 yn ôl Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd y DU (FERA). Mae hyn yn cyfateb i 20,080 kg, ar gyfartaledd, o Glyffosad a ddefnyddir i drin 20,260 hectar (Ha) o dir âr ledled Cymru. Mae’r ffigurau hyn yn ymwneud â rhoi Glyffosad ar dir âr cyn plannu a chynaeafu. Nid ydynt, fodd bynnag, yn cynnwys defnyddiau eraill, fel, garddwyr yn defnyddio’r chwynladdwr ar raddfa fach, a’i ddefnyddio gan awdurdodau lleol ar diroedd fel parciau, ymylon ffyrdd, palmentydd a meysydd chwarae. Beth yw rôl yr Undeb Ewropeaidd? Er bod y DU wedi pleidleisio yn ddiweddar i adael yr UE, bydd deddfwriaeth a pholisi sy’n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr yn parhau nes y bydd y DU yn tynnu allan yn ffurfiol o’r UE. Ar hyn o bryd mae’n rhaid i sylweddau gweithredol a ddefnyddir mewn chwynladdwyr a / neu blaladdwyr a ddefnyddir ar draws y DU a’r UE i gyd gael eu cymeradwyo ar lefel yr UE. Mae’n ofynnol i ail-gymeradwyo bob 15 mlynedd. Fel rhan o’r broses o ail-gymeradwyo, caiff y sylweddau gweithredol eu hasesu gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) sy’n cynnal asesiad risg. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried canfyddiadau’r Awdurdod ac yn penderfynu a ddylai’r sylwedd gael ei argymell i’r aelod-wladwriaethau ar gyfer ei ail-gymeradwyo. Os bydd y Comisiwn yn cefnogi ei ail-gymeradwyo, bydd pwyllgor arbenigol sy’n cynrychioli’r aelod-wladwriaethau yn ystyried y cynnig ac yn pleidleisio arno. Gelwir y pwyllgor hwn yn Bwyllgor Sefydlog yr UE ar Blanhigion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (PAFF). Er mwyn i sylwedd gweithredol gael ei gymeradwyo rhaid i  fwyafrif cymwys o’r aelod-wladwriaethau  bleidleisio o’i blaid. Os bydd yr Aelod-wladwriaethau’n methu â dod i gytundeb gall y Comisiwn Ewropeaidd ei hun benderfynu ail-gymeradwyo’r sylweddau. Beth yw’r ddadl ar hyn o bryd? Mae Glyffosad wedi cael ei ddefnyddio’n fyd-eang ers dros bedwar degawd. Sbardunwyd y ddadl bresennol ynghylch ei ddiogelwch yn sgîl cyhoeddiad gan yr  Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil i Ganser (IARC), a ddaeth i’r casgliad (PDF, 46.7KB), ar sail tystiolaeth wyddonol newydd, y dylai Glyffosad gael ei ddynodi fel sylwedd sydd ‘yn ôl pob tebyg yn garsinogenig i bobl’. Mewn ymateb i adroddiad IARC, cyhoeddodd Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ei astudiaeth ei hun a ddaeth i'r casgliad (PDF, 1.74MB) bod Glyffosad yn ‘annhebygol o achosi perygl carsinogenig’. Mae Monsanto hefyd yn herio canfyddiadau IARC, gan ddweud bod cryfder y dystiolaeth wyddonol yn awgrymu nad yw Glyffosad yn achosi risg i iechyd. Daeth cyfarfod ar y cyd rhwng Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i gasgliad (PDF, 757KB) tebyg ym mis Mai 2016. Mae barn rhanddeiliaid yn amrywio ar y mater. Mae Cymdeithas y Pridd a Chyfeillion y Ddaear wedi bod yn ymgyrchu am leihad yn y defnydd o Glyffosad, yn benodol ar gyfer cnydau bwyd. Maent yn tynnu sylw at dystiolaeth bod Glyffosad yn bresennol mewn hyd at 30 y cant o’n bara yn y DU a bod posibilrwydd y gallai lygru cyflenwadau dŵr, parhau mewn priddoedd, annog gwrthiant ac achosi amrywiaeth o broblemau ecolegol. Mae undebau ffermio, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) ac NFU Cymru a Copa-COGECA (PDF, 64,6KB), y corff cyfatebol yn Ewrop, yn cefnogi ail-gymeradwyo Glyffosad. Mewn llythyr agored (PDF, 167KB) a anfonwyd at wneuthurwyr polisi yn yr UE, mae undebau ffermio yn y DU wedi amlinellu pwysigrwydd glyffosad i’r diwydiant, gan rybuddio y bydd y cyfyngiadau yn llesteirio cynhyrchu bwyd ac yn cynyddu costau. Dadl yr undebau ffermio yw nad oes cynnyrch ar gael i gymryd ei le ar hyn o bryd. Y Llinell Amser ar gyfer Ail-gymeradwyo Glyffosad Roedd Glyffosad i gael ei ail-gymeradwyo ar 31 Rhagfyr 2015. Fodd bynnag, methodd aelod-wladwriaethau’r UE â chael pleidlais fwyafrif i ail-gymeradwyo’r sylwedd gan fod gan rai gwledydd bryderon am risgiau posibl i iechyd. Cafodd y dyddiad hwn ei ymestyn hyd 30 Mehefin 2016, fodd bynnag, unwaith eto methodd yr aelod-wladwriaethau â chael pleidlais fwyafrif. Mewn ymateb, camodd y Comisiwn Ewropeaidd i’r bwlch ac ail-gymeradwyo glyffosad am gyfnod cyfyngedig o 18 mis. Cyn hyn, bu’r Comisiwn Ewropeaidd yn amharod i gymryd y cam hwn heb fandad democrataidd clir gan yr aelod-wladwriaethau. Y digwyddiadau allweddol hyd yma yw:
  • Rhagfyr 2013 – Cyflwynwyd yr asesiad risg a oedd yn dod i’r casgliad bod Glyffosad yn ddiogel i’w ddefnyddio ac y dylid ei ail-gymeradwyo i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA).
  • Mawrth 2015 – Daeth adroddiad yr Asiantaeth Ryngwladol ar Ymchwil i Ganser, IARC (PDF, 46.7KB), i’r casgliad bod Glyffosad yn garsinogenig o bosibl.
  • Tachwedd 2015 - Mae EFSA yn gwrth-ddweud (PDF, 1.74MB) casgliad IARC. Mae llythyr agored (PDF, 201KB) gan wyddonwyr yn rhybuddio nad yw adroddiad EFSA yn gredadwy, ac mae EFSA yn gwrthbrofi hyn. Caiff y cam i ail-gymeradwyo ei ymestyn o fis Rhagfyr 2015 am 6 mis er mwyn caniatáu i ganfyddiadau newydd gael eu hystyried.
  • Mawrth 2016 – nid yw pleidlais i ail-gymeradwyo Glyffosad gan Aelod-wladwriaethau’r UE yn cael mwyafrif, ac mae hyn yn gorfodi’r Comisiwn Ewropeaidd i ohirio penderfyniad ar y mater. Mae Asiantaeth Cemegolion yr CE (ECHA) yn cyhoeddi ei asesiad ei hun ar gyfer ei gyhoeddi yn yr haf 2017. Mae Senedd Ewrop yn gwneud penderfyniad o blaid ail-gymeradwyo Glyffosad, ond gyda chyfyngiadau ar y defnydd ohono.
  • Mai 2016 – mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig (PDF, 194kb) cyfnod adnewyddu o 9 mlynedd gyda chyfyngiadau ar ddefnyddio Glyffosad, a fydd yn cael ei ail-asesu yng ngoleuni adroddiad Asiantaeth Cemegolion y CE. Caiff y bleidlais ei gohirio eto gan nad oes mwyafrif clir o blaid ail-gymeradwyo. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod yr Almaen wedi ymatal o’r bleidlais.
  • Mehefin 2016 - Mae cynnig diwygiedig i geisio ymestyn y drwydded am 18 mis. Unwaith eto, ni chafwyd mwyafrif clir yn y bleidlais, ac felly caiff y penderfyniad ei ohirio am y trydydd tro. Ar ddiwedd cyfnod yr estyniad dros dro ar 30 Mehefin, mae’r EC yn camu i’r bwlch ac yn ail-gymeradwyo Glyffosad am gyfnod o 18 mis, gyda chyfyngiadau.
Beth sydd nesaf ar gyfer Cymru a’r DU? Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi croesawu penderfyniad y Comisiwn Ewropeaidd i ail-gymeradwyo Glyffosad am y 18 mis nesaf fel cam cyntaf cadarnhaol. Mae Cyfeillion y Ddaear wedi mynegi siom ac mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu cynllun ar gyfer gwahardd y defnydd ohono gam-wrth-gam. Bydd dyfodol Glyffosad yng Nghymru a’r DU yn y tymor hwy yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau rhyngwladol a domestig ar y DU yn tynnu allan o’r UE.