Clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf

Cyhoeddwyd 08/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Gorffennaf 2016 Erthygl gan Nia George a Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Dyma lun o'r Siambr Bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru. Mae’r erthygl hon yn egluro beth yw clystyrau lled-ddargludyddion cyfansawdd, a’r gwaith o ddatblygu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru hyd yma. Beth yw'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd? Defnyddir technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd mewn dyfeisiau fel ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen, ac maent yn rhan hollbwysig o ddatblygu cyfathrebu torfol a biodechnoleg (mae rhagor o fanylion am led-ddargludyddion cyfansawdd isod). Mae clwstwr lled-ddargludyddion yn cysylltu'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfan, gan gynnwys addysg, ymchwil a gweithgynhyrchu, er mwyn datblygu technolegau newydd. Fel arfer, bydd clwstwr yn cael ei arwain gan wneuthurwr, neu sawl gwneuthurwr, a sefydliad ymchwil. Mae'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd arfaethedig yn ne Cymru yn fenter ar y cyd rhwng IQE a Phrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae pedwar clwstwr sy'n gweithio ar dechnolegau silicon eisoes yn bodoli yn Ewrop, ond y clwstwr yn ne Cymru yw'r cyntaf sy'n canolbwyntio ar led-ddargludyddion cyfansawdd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2015 y byddai'n darparu £12 miliwn o gyllid i gefnogi'r gwaith o adeiladu, gosod ffitiadau a phrynu offer cyfalaf ar gyfer Athrofa Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd. Fel rhan o'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd arfaethedig, bydd IQE yn cydweithio'n agos â'r Athrofa Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Bydd y gwaith hwn yn ategu'r fenter ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac IQE sydd wedi sefydlu Canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Sefydliad er elw yw'r ganolfan, sy'n gweithio i ddarparu prototeipiau masnachol a chynhyrchion peilot. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n buddsoddi £50 miliwn dros y pum mlynedd nesaf er mwyn sefydlu Canolfan Genedlaethol y DU ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ne Cymru, fel rhan o'r rhwydwaith o ganolfannau Catapult ar gyfer ymchwil a datblygu. Nod y buddsoddiad, ynghyd â sefydlu'r Ganolfan Genedlaethol newydd ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, yw cefnogi'r strategaeth ehangach i sefydlu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ne Cymru. Canolfannau Catapult Fel y nodir uchod, mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cael ei datblygu fel rhan o'r rhwydwaith o ganolfannau Catapult ar gyfer ymchwil a datblygu. Yn ôl Llywodraeth y DU, rhwydwaith o ganolfannau o'r radd flaenaf yw'r canolfannau Catapult, sydd wedi'u cynllunio i drawsnewid gallu'r DU i arloesi mewn meysydd penodol ac i helpu i lywio twf economaidd yn y dyfodol.   Maent yn ganolfannau dielw, annibynnol a oruchwylir gan Innovate UK, er mwyn helpu busnesau yn y DU i arloesi.  Mae pob canolfan Catapult yn arbenigo ar faes technolegol gwahanol, ond mae pob un yn ceisio rhoi'r cyfle i fusnesau ac ymchwilwyr gydweithio er mwyn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar raddfa fasnachol. Dyma amcanion y canolfannau Catapult:
  • Lleihau'r risgiau sydd ynghlwm wrth arloesi;
  • Helpu busnesau i ddatblygu'n gyflymach;
  • Creu swyddi a thwf cynaliadwy;
  • Datblygu sgiliau a gwybodaeth yn y DU a gwella ei chystadleurwydd byd-eang.
Beth yw lled-ddargludydd cyfansawdd? Dywed rhai fod lled-ddargludyddion cyfansawdd yn rhan allweddol o ddatblygiadau technolegol y dyfodol gan eu bod yn rhan ganolog o'r dechnoleg sydd wrth wraidd eitemau fel ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen. Maent hefyd yn hanfodol ar gyfer datblygu'r rhwydwaith 5G a thechnoleg ddi-wifr, a gallent gefnogi diwydiannau newydd fel cyfathrebu uwch a'r genhedlaeth newydd o gerbydau trydan. Ond sut y mae'n gweithio? Lled-ddargludydd yw sylwedd y mae ei allu i ddargludo trydan rhywle rhwng dargludydd, fel copr neu alwminiwm, ac ynysydd, fel rwber neu wydr. Gall ddargludo neu ynysu trydan yn dibynnu ar yr amodau. Lled-ddargludydd cyfansawdd yw lled-ddargludydd sy'n cynnwys o leiaf ddwy elfen gemegol wahanol. Sêr Cymru Ym mis Mai 2015, penodwyd yr Athro Diana Huffaker yn gyfarwyddwr yr Athrofa Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ac i'r gadair ymchwil Uwch Beirianneg a Deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd y gadair ymchwil Uwch Beirianneg a Deunyddiau ei hariannu fel rhan o raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen pum mlynedd yw denu gwyddonwyr rhyngwladol blaenllaw i gadeiriau ymchwil newydd ym mhrifysgolion Cymru. Yr Athro Huffaker yw'r pedwerydd penodiad drwy raglen Sêr Cymru, ac mae manylion am y penodiadau eraill ar wefan Llywodraeth Cymru.