Adnewyddu Siarter y BBC: y camau nesaf

Cyhoeddwyd 11/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Gorffennaf 2016 Erthygl gan Madelaine Philips, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ddydd Mercher 13 Gorffennaf, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod cynnig sy’n gresynu at y gostyngiad yng ngwariant BBC Cymru Wales ar deledu drwy gyfrwng y Saesneg yn ystod y degawd diwethaf. Mae Llywodraeth y DU yn y broses o adnewyddu Siarter y BBC ar hyn o bryd. Beth yw Siarter y BBC, a sut mae hyn yn berthnasol i Gymru? Siarter y BBC yw sail gyfansoddiadol y BBC. Mae’n diogelu annibyniaeth y BBC ar ddylanwad y Llywodraeth ac yn amlinellu dyletswyddau Ymddiriedolaeth y BBC a’r Bwrdd Gweithredol. Gwnaeth y Siarter gyntaf bara o 1927 i 1936. Daeth y Siarter bresennol i rym yn 2006, ac mae’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2016. Ochr yn ochr â’r Siarter, ceir cytundeb a lofnodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n cynnwys mwy o fanylion am y pynciau y mae’r Siarter yn eu trafod. Beth yw’r Adolygiad o’r Siarter? Mae’r Siarter yn dueddol o gael ei hadolygu bob deng mlynedd. Mae hyn yn gyfle i randdeiliaid gael mewnbwn i’r modd y mae’r BBC yn cael ei drefnu a’i reoleiddio a sut y gall wasanaethu’r cyhoedd orau. Disgwylir i’r Siarter newydd fod yn ei lle ddechrau Ionawr 2017. Mae’r adolygiad wedi cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus eang, lle daeth bron 200,000 o ymatebion i law, yn ogystal ag astudiaeth o farn y cyhoedd a oedd yn canolbwyntio ar farn grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Gwnaeth 300 o sefydliadau o bob cwr o’r DU gymryd rhan yn y broses o adolygu’r Siarter. Hefyd, comisiynodd Llywodraeth y DU adolygiad annibynnol o lywodraethu a rheoleiddio o dan arweiniad Syr David Clementi. Bydd cyfnod y Siarter nesaf yn para am 11 mlynedd tan 31 Rhagfyr 2027, gyda darpariaethau ar gyfer adolygiad canol tymor. Y BBC yng Nghymru Cyhoeddodd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad ganfyddiadau ei ymchwiliad i’r adolygiad o Siarter y BBC ym mis Mawrth 2016. Clywodd y Pwyllgor fod gwariant BBC Cymru Wales ar gynnyrch teledu cyfrwng Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru rhwng 2006-7 a 2014-15 wedi gostwng o £24.6 miliwn i £20.8 miliwn, sef gostyngiad o tua 30 y cant mewn termau real. Dros gyfnod tebyg, cynyddodd gwariant rhwydwaith y BBC yng Nghymru i’r graddau fod Cymru wedi ennill 7.8 y cant – neu £59.1 miliwn – o wariant rhwydwaith y BBC yn y DU ar deledu yn 2014-15, sy’n fwy na’i chyfran o’r boblogaeth, sef 4.9 y cant. Fodd bynnag, er eu bod yn croesawu’r gwariant hwn yng Nghymru, roedd rhanddeiliaid yn teimlo nad oedd rhaglenni ar gyfer y rhwydwaith a wnaed gyda’r gwariant hwn yn gwneud llawer i ymdrin â materion sy’n effeithio ar Gymru yn benodol. This is an infographic showing BBC Wales expenditure. Mae pryderon y Pwyllgor am y ffordd y caiff Cymru ei chynrychioli gan y BBC, yn ogystal â rhai o’i gynigion i fynd i’r afael â’r broblem hon, wedi’u crynhoi mewn blog blaenorol gan y Gwasanaeth Ymchwil. Ers hynny, mae llawer o’r safbwyntiau a fynegwyd gan y Pwyllgor hefyd yn cael eu mynegi yn yr adroddiadau a ganlyn: Ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor, mae’r Arglwydd Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, wedi anfon llythyr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau’r BBC i wella’i berfformiad yn y gwledydd datganoledig. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys:
  • Comisiynydd drama ym mhob cenedl;
  • gosod amcanion o ran portread;
  • gwario mwy ar ddarlledu cyfrwng Saesneg yn y cenhedloedd, gyda ffocws penodol ar Gymru;
  • gwaith parhaus i wella rhaglenni newyddion, gan gynnwys Adolygiad o Newyddion y Cenhedloedd. Mae’r BBC hefyd yn gweithio ar gynlluniau i ddarparu cyllid i newyddiadurwyr lleol ddarparu adroddiadau er mwyn i’r BBC a darparwyr newyddion eraill eu defnyddio; a
  • strwythurau llywodraethu newydd, gan gynnwys cynrychiolydd ar gyfer pob cenedl ar Fwrdd newydd y BBC, a “thrwydded” ar gyfer pob cenedl. Byddai’r trwyddedau hyn yn disgrifio’r gwasanaethau y mae’r BBC yn bwriadu eu darparu ym mhob cenedl.
Ym mis Mehefin 2016, cyhoeddodd Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (sydd hefyd yn gyfrifol am bolisi darlledu), ei fod yn sefydlu fforwm annibynnol newydd ar y cyfryngau i Gymru. Argymhellwyd hyn yn adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Papur Gwyn y BBC Ar yr un pryd ag yr ysgrifennodd yr Arglwydd Hall ei lythyr, cyhoeddodd Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Bapur Gwyn, “A BBC for the future: A broadcaster of distinction” (Saesneg yn unig). Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys nifer o gynigion ynghylch gweithrediadau, cylch gwaith a threfniadau rheoleiddio y BBC. Mae’n cynnig dibenion cyhoeddus newydd ar gyfer y BBC, gan gynnwys: “adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol holl genhedloedd a rhanbarthau y DU.” (o’i gyfieithu) S4C Hyd at fis Ebrill 2013, roedd cyllid S4C yn cael ei ddarparu gan y DCMS drwy grant cysylltiedig â chwyddiant. Ers hynny, mae’r rhan fwyaf o gyllid S4C wedi cael ei ddarparu drwy ffi’r drwydded ac Ymddiriedolaeth y BBC, gyda’r DCMS yn parhau i ddarparu grant bach. Mae’r Papur Gwyn yn nodi: “in the new charter period it is important that the funding and accountability arrangements in place between the two continue to protect the independence of both parties and provide certainty and clarity of funding for S4C.” Bydd Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad o S4C yn 2017 a fydd yn trafod cylch gwaith, atebolrwydd a threfniadau llywodraethu S4C. Ar y pwynt hwnnw, nododd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y dylai anghenion ariannol S4C yn y dyfodol “gael eu hystyried ar sail eu teilyngdod eu hunain, ar wahân i ddarpariaeth gwasanaethau cyffredinol y BBC ar gyfer Cymru”. At y dyfodol Disgwylir i’r Siarter ddrafft gael ei chyhoeddi yn ystod yr haf. Bydd y Siarter wedyn yn destun dadl Seneddol yn San Steffan, a fydd o ddiddordeb arbennig i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd y Cynulliad. Dylai’r Siarter newydd ddod i rym ar 1 Ionawr 2017.