Clefyd Llid y Coluddyn – pa gamau y mae angen eu cymryd?

Cyhoeddwyd 12/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Gorffennaf 2016 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Y ddau brif fath o Glefyd Llid y Coluddyn (IBD) yw clefyd Crohn a llid briwiol y coluddyn. Mae'r naill a'r llall yn glefydau cronig sy'n achosi llid ar y system dreulio. Maent yn effeithio ar oddeutu 15,500 o bobl yng Nghymru. Yn ôl y mudiad Crohn’s and Colitis UK, mae nifer yr achosion ddwywaith gymaint ag ar gyfer clefydau Parkinson a Sglerosis Ymledol, ac mae'r costau meddygol dros oes yn debyg i glefydau mawr eraill fel diabetes a chanser. [caption id="attachment_5975" align="alignright" width="300"]Llun o Wikimedia. Dan drwydded Creative Commons. Llun o Wikimedia. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae IBD yn gyflwr gydol oes, nad oes modd ei wella. Gall effeithio ar bobl o bob oed, ond fel arfer daw i'r amlwg gyntaf pan fydd pobl yn eu harddegau a'u hugeiniau. Mae'r symptomau'n amrywio o ran difrifoldeb ac yn cynnwys dolur rhydd aml, poen difrifol yn yr abdomen, blinder llethol, tenesmus (teimlo bod angen mynd i'r tŷ bach o hyd) a cholli pwysau. Mae unrhyw un sy'n dioddef ohono yn gallu cael pwl sydyn, heb rybudd, drwy gydol ei oes. Gall IBD achosi rhwystrau yn y perfedd neu rwygo leinin y wal berfeddol. Os digwydd hynny, gall fod angen llawdriniaeth frys, yn enwedig os na chaiff y cyflwr ei drin, neu mewn achosion difrifol. Bydd rhwng 50% a 70% o gleifion sydd â chlefyd Crohn yn cael llawdriniaeth rywbryd yn ystod eu hoes. Mae rhwng 20% a 30% o bobl sydd â llid briwiol y coluddyn yn cael llawdriniaeth rywbryd yn ystod eu hoes. Hefyd, mae cysylltiad pendant rhwng IBD, yn enwedig achosion difrifol o lid briwiol y coluddyn, a chynnydd yn y risg o ddatblygu canser y colon a'r rhefr. Gweithredu canllawiau cenedlaethol Yn 2009, cyhoeddwyd canllawiau cenedlaethol ar gyfer IBD, sef UK IBD Standards. Maes o law, ategwyd y safonau hynny â Chanllawiau Clinigol NICE, a diweddarwyd y rheini yn 2013. Yn ôl Crohn’s and Colitis UK nid yw'r safonau triniaeth a gofal i bobl sydd ag IBD yng Nghymru gystal â'r cyfartaledd yng ngweddill y DU, er eu bod wedi gwella yn ddiweddar. Dywed hefyd bod gwahaniaeth amlwg yn y safonau gofal ar gyfer IBD ym mhob un o wledydd y DU er gwaethaf y canllawiau cenedlaethol. Yn y Pedwerydd Cynulliad cyflwynwyd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer gastroenteroleg er mwyn mynd i'r afael â'r amrywiadau a sicrhau bod y safonau'n cael eu bodloni. Fodd bynnag, dywedodd Mark Drakeford, a oedd bryd hynny yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, nad oedd angen ystyried datblygu cynllun gweithredu, gan fod prosesau gwella eraill ar y gweill. Rhwng 2006 a 2014, bu IBD UK yn meincnodi gofal iechyd a gwasanaethau iechyd o gymharu â'r safonau IBD cenedlaethol. Yng nghylch olaf data archwiliad IBD UK (2014) tynnwyd sylw at y gofal anghyson a oedd yn cael ei ddarparu, a soniwyd fel a ganlyn yn yr adroddiad:
[…] whilst there are some signs of improvement, standards remain highly variable across Wales and, in many cases, lag behind the rest of the UK.
Canfu arolwg gan Crohn’s and Colitis UK o 450 o gleifion yng Nghymru ym mis Awst 2015 fel a ganlyn:
  • Nid oedd 42% yn cael gwasanaeth nyrs IBD arbenigol; ac
  • Roedd dros 20% yn 'anfodlon' â'u triniaeth.
Galwodd rhaglen archwilio IBD UK am strategaeth genedlaethol gan y GIG ar gyfer IBD i flaenoriaethu gwell gofal i gleifion. Yn dilyn yr archwiliad, bydd y Gofrestrfa IBD yn cyhoeddi adroddiad blynyddol bob mis Mehefin, gan ddechrau ym mis Mehefin 2017. Gwasanaethau endosgopi Mae Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain wedi codi pryderon bod gwasanaethau endosgopi yn dirywio yng Nghymru ar ôl diddymu'r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH). Mewn dadl yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, dywedodd Vaughan Gething, a oedd bryd hynny'n Ddirprwy Weinidog Iechyd, bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn 2013 fod problemau o ran goruchwylio, achredu a darparu gwasanaethau endosgopi a cholonosgopi ac aeth ati i fynd i'r afael â hynny. Dywedodd fel a ganlyn:
A lot of effort has already gone into improving endoscopy services, including the establishment of sub-groups for performance, investment and capacity, and that’s been supported by £1.5 million of Welsh Government capital investment […]
Tynnodd Crohn’s and Colitis UK sylw at y ffaith bod yr amseroedd aros ar gyfer endosgopïau wedi cynyddu'n sylweddol ledled Cymru, yn enwedig ar gyfer pobl sy'n aros yn hwy nag 14 wythnos:
  • Roedd nifer y cleifion sy'n aros rhwng 8 ac 14 wythnos wedi cynyddu o 276 ym mis Hydref 2009 i 481 ym mis Ebrill 2016.
  • Roedd nifer y cleifion sy'n aros rhwng 14 a 24 wythnos wedi cynyddu o 91 ym mis Hydref 2009 i 467 ym mis Ebrill 2016.
  • Roedd nifer y cleifion sy'n aros dros 24 wythnos wedi cynyddu o 5 ym mis Hydref 2009 i 256 ym mis Ebrill 2016.
Mynediad i doiledau Soniodd Crohn's and Colitis UK y gall pobl sydd ag IBD gael symptomau fel dolur rhydd a tenesmus yn sydyn a dirybudd, felly roedd yn hanfodol bod toiledau addas ar gael ac o fewn cyrraedd. Soniodd y gall pryderon ynghylch mynediad i doiledau mewn amgylchedd anghyfarwydd gyfyngu'n sylweddol ar weithgareddau person sy'n dioddef o IBD. Felly, roedd Crohn’s and Colitis UK yn siomedig na lwyddodd y Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) yn ystod y Cynulliad blaenorol. Roedd y Bil yn cydnabod bod mynediad i doiledau yn fater iechyd cyhoeddus. Roedd ynddo hefyd ddarpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal, gan asesu anghenion cymunedau a nodi sut yr oedd yn bwriadu diwallu'r angen hwnnw. Byddai'r elusen wedi hoffi gweld y darpariaethau yn mynd ymhellach, ond yr oedd, serch hynny, yn croesawu'r Bil. Mae'n falch bod Llywodraeth newydd Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil newydd yn y Pumed Cynulliad, ac mae'n gobeithio y bydd yn manteisio ar y cyfle i wella'r mynediad i doiledau cyhoeddus yng Nghymru yn sylweddol.