Cyhoeddwyd 29/07/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
29 Gorffennaf 2016
Erthygl gan Edward Armstrong, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae'r diwydiant ffermio wedi bod yn mynd trwy gyfnod ansefydlog, gyda'r prisiau a delir i ffermwyr yn disgyn yn is na chostau cynhyrchu. Mae'r broblem hon wedi bod yn arbennig o wael ar gyfer y sector llaeth, gyda phrisiau llaeth wrth giât y fferm ym mis Mai 2016
15.1 y cant yn is na'r un mis y llynedd.
Mewn ymateb i hyn, mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi y bydd yn darparu pecyn cymorth gwerth €500 miliwn ar gyfer ffermwyr ledled yr UE, gan gynnwys y DU. Mae hyn yn ychwanegol at becyn tebyg a ddarparwyd ym mis Medi 2015 ac a drafodwyd mewn
blogbost blaenorol. Yma rydym yn trafod pecyn ysgogiad newydd yr UE a sut y gallai'r arian helpu ffermwyr ar draws y DU a Chymru.
Beth sy'n achosi'r argyfwng amaethyddol yn Ewrop?
[caption id="attachment_6037" align="alignright" width="300"]
Llun o Flickr gan RichardBH. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Mae'r argyfwng ffermio yn Ewrop wedi cael ei achosi gan nifer o ffactorau sydd wedi sbarduno gorgyflenwad ar draws y farchnad a gostwng y prisiau a delir i ffermwyr. O fewn y diwydiant llaeth, mae'r rhain yn cynnwys y penderfyniad i
gael gwared ar gwotâu llaeth yr UE gan olygu bod mwy o laeth ym marchnad yr UE, yn enwedig o wledydd fel Iwerddon a'r Iseldiroedd. Mae'r farchnad allforio i Tsieinia hefyd wedi bod yn gwanhau, ac mae'r
gwaharddiad yn dal i fodoli ar fewnforio cynnyrch bwyd yr UE i Rwsia.
Yn y DU, mae'r undebau amaethyddol hefyd wedi beio
anghydraddoldebau yn y gadwyn gyflenwi, gyda phroseswyr llaeth ac archfarchnadoedd yn talu prisiau sydd islaw'r costau cynhyrchu.
Beth sydd yn y pecyn cymorth Ewropeaidd?
Er bod y DU wedi pleidleisio i adael yr UE yn ddiweddar, bydd deddfwriaeth a pholisi sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth yn parhau i fod mewn grym nes i'r DU adael yr UE yn ffurfiol.
Ar 14 Mawrth, rhoddodd y Comisiwn Ewropeaidd
"fesurau eithriadol" ar waith i ddarparu pecyn cymorth i helpu ffermwyr yr UE a diogelu marchnad fewnol yr UE, yn benodol o ran y sector llaeth. Ar 18 Gorffennaf
cyhoeddwyd y byddai'r pecyn hwn yn werth €500 miliwn. Dyma'r ail becyn o'r fath, ar ôl i'r cyntaf gael ei gyhoeddi ym
mis Medi 2015. Disgwylir i'r trafodaethau ddod i ben ar 25 Awst ac mae'r ddeddfwriaeth yn debygol o ddod i rym yng nghanol mis Medi 2016.
Mae'r pecyn cymorth yn canolbwyntio'n bennaf ar y sectorau llaeth, cig mochyn, a ffrwythau a llysiau a bwriedir iddo fod yn hawdd iawn ei addasu fel y gall Aelod-wladwriaethau deilwra'r arian yn dibynnu ar eu sefyllfaoedd eu hunain.
Sut y bydd y pecyn yn helpu ffermwyr?
Nod allweddol y pecyn yw mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y cyflenwad a'r galw yn y farchnad, ac yn sgil hynny sicrhau bod prisiau uwch yn cael eu talu i ffermwyr am eu cynnyrch. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyflwyno pecyn sy'n cynnwys:
- €150 miliwn i gael ei ddefnyddio i leihau gorgyflenwad yn y sector llaeth drwy roi cymhelliad i ffermwyr gynhyrchu llai o laeth yn wirfoddol ledled yr UE. Diben hyn yw cael gwared ar 1.1 miliwn o dunelli o laeth o'r farchnad. Bydd ffermwyr yn cael €0.14 fesul kilo o laeth nad yw'n cael ei gyflenwi ar y farchnad;
- Bydd y €350 miliwn sy'n weddill yn cael ei ddyrannu yn genedlaethol fel "cymorth amodol ar gyfer addasu". Mae hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gymryd camau o'u dewis eu hunain i leihau'r cyflenwad. Bydd Aelod-wladwriaethau yn cael ychwanegu hyd at 100% at y cyllid hwn;
- Ystod o fesurau technegol ychwanegol sydd â'r nod o roi mwy o hyblygrwydd i Aelod-wladwriaethau (am fwy o fanylion, gweler y datganiad i'r wasg gan y Comisiwn).
Mae hyn yn ychwanegol at y mesurau eraill a gyflwynwyd ar
14 Mawrth. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Galluogi cynhyrchwyr a sefydliadau cyswllt yn y sector llaeth, fel prosesyddion a mentrau cydweithredol, i sefydlu cytundebau gwirfoddol ar gyfer eu prosesau cynhyrchu a chyflenwi;
- Dyblu terfynau ymyrraeth ar gyfer powdr llaeth sgim o 109,000 tunnell i 218,000 tunnell, ac ar gyfer menyn o 60,000 tunnell i 100,000 tunnell;
- Lansiwyd y Tasglu Marchnadoedd Amaethyddol, a dylai gyflwyno casgliadau ac argymhellion yn nhymor yr hydref 2016 ynglŷn â sut i gryfhau cynhyrchwyr a gwella cydbwysedd yn y gadwyn fwyd;
- Nod i agor marchnadoedd newydd, gwneud mwy o waith hyrwyddo a gweithio i roi terfyn ar y gwaharddiadau ar allforio i Rwsia.
Disgwylir i'r penderfyniadau terfynol ynghylch union fanylion y mesurau hyn gael eu gwneud dros yr wythnosau nesaf. Cyflwynwyd
ystod gynhwysfawr o fesurau hefyd gyda'r pecyn cymorth yn 2015. Trafodwyd y rhain yn gryno yn ein
blogbost blaenorol.
Faint o arian mae'r DU a Chymru yn ei gael?
Mae'r swm o arian y mae pob Aelod-wladwriaeth yn ei gael yn dibynnu ar ffactorau fel y lefelau cynhyrchu. Mae'r DU yn cael cyllid gwerth €30.2 miliwn (£25.3 miliwn), sy'n fwy na phob un ond dwy Aelod-wladwriaeth, sef yr Almaen (€58.0 miliwn) a Ffrainc (€49.9 miliwn).
Nid oes cyhoeddiad wedi'i wneud hyd yma ynglŷn â faint o arian y bydd Cymru yn ei gael, ond mae'n debygol o fod yn debyg i'r
£3.2 miliwn a gafwyd yn y pecyn cymorth blaenorol. Yn achos y pecyn hwn, roedd y taliadau i ffermwyr yn seiliedig ar faint o laeth a gynhyrchwyd ganddynt yn 2014-2015, a'r cyfartaledd oedd £1,800 y fferm laeth.
Beth fu'r ymateb i'r pecyn cymorth?
Mae
NFU Cymru wedi croesawu'r pecyn ac wedi annog y Comisiwn Ewropeaidd i ganiatáu i Aelod-wladwriaethau fod yn hyblyg yn y modd y maent yn defnyddio'r arian. Mae wedi galw am i'r €350 miliwn o gymorth amodol ar gyfer addasu gael ei ddefnyddio yn strategol i ddatblygu sector llaeth mwy cynaliadwy a gwydn ledled y DU a Chymru.
Ar y llaw arall mae'r Bwrdd Llaeth Ewropeaidd, sef ffederasiwn o ffermwyr o 16 o'r Aelod-wladwriaethau, wedi
dweud ei fod ymhell o fod yn ddigon i oresgyn yr argyfwng. Mae'n dweud na fydd y 14 sent a roddir i ffermwyr am bob litr o laeth nad ydynt yn ei gynhyrchu yn ddigon, a bod yn rhaid i'r ffigur fod yn uwch er mwyn sicrhau digon o ostyngiad o ran faint o laeth sydd ar y farchnad.
Beth sydd o'n blaenau?
Daw
rhagolygon tymor canolig yr UE ar gyfer y sector amaethyddol (2015-2025) i'r casgliad y dylai twf yn y boblogaeth a newid dietegol arwain at gynnydd graddol mewn allforion llaeth ac o ran faint o gig y mae pobl yn ei fwyta. Yn y tymor byr, mae disgwyl i brisiau llaeth godi'n ôl i lefelau cymedrol, ond mae anghydbwysedd yn y farchnad yn parhau i fod yn risg uchel. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn gobeithio y bydd y pecyn cymorth newydd yn achosi i brisiau wella erbyn dechrau 2017.