Trafod Bil Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin

Cyhoeddwyd 05/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

5 Awst 2016 Erthygl gan Mark Norton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar 5 Gorffennaf trafodwyd Bil Cymru am y tro cyntaf ym Mhwyllgor y Tŷ'r Cyffredin cyfan. Dyma'r cyfle cyntaf a gafodd yr Aelodau Seneddol i gyflwyno gwelliannau i'r Bil, eu trafod a phleidleisio arnynt. Yn y blog hwn, mae golwg gyffredinol ar brif bwyntiau'r drafodaeth. [caption id="attachment_6049" align="aligncenter" width="640"]Llun o Flickr gan UK Parliament. Dan drwydded Creative Commons Llun o Flickr gan UK Parliament. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Parhauster y Cynulliad a Llywodraeth Cymru Agorwyd y drafodaeth gan Liz Saville-Roberts AS, Plaid Cymru, a gynigiodd welliannau a oedd ymwneud â'r cymalau datganiadol yn y Bil. Diben y rhain yw gwneud y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn rhan barhaol o Gyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Eglurodd mai effaith un gwelliant fyddai rhoi amlygrwydd i'r datganiad o barhauster: “declaration of the permanence of the Assembly should be given prominence in the Bill. Placing it in section 1 of the 2006 Act would achieve that”. Roedd y gyfres arall o welliannau a gynigiwyd gan Liz Saville-Roberts AS yn adlewyrchu'r hollt gyfansoddiadol rhwng y ddeddfwrfa (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) a'r weithrediaeth (Llywodraeth Cymru). Ymdriniwyd â hwy mewn darpariaethau newydd ar wahân i'w mewnosod yn y rhannau hynny o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n ymwneud â'r Cynulliad a'r Llywodraeth. Eglurodd mai gwelliannau procio oedd y rhain, ac na fyddai’n pwyso i gael pleidlais arnynt. Gobeithiai y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno i dderbyn y cynigion hyn ac yn cyflwyno ei welliannau ei hun yn y cyfnod nesaf. Dywedodd Guto Bebb AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru, fod Llywodraeth y DU yn awyddus i weld yr ymrwymiad i barhauster yn cael ei fynegi mewn un cymal i adlewyrchu'r ffaith bod y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn perthyn gyda'i gilydd yn nhrefniadau cyfansoddiadol y DU. Yr oeddynt, fodd bynnag, yn awyddus i roi ystyriaeth bellach i'r man mwyaf priodol i osod y datganiad o barhauster yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Awdurdodaeth Gyfreithiol ar Wahân Hefyd, cyflwynodd Liz Saville Roberts AS welliannau a fyddai, i bob pwrpas, yn creu awdurdodaeth ar wahân i Gymru. Dywedodd fod hyn yn cael ei argymell gan adroddiad Silk a'r Ymchwiliad a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad  i'r Bil Cymru drafft, a ddaeth i'r casgliad bod angen awdurdodaeth o'r fath. Dadleuodd fel a ganlyn: “Many, if not most, of the criticisms of the Bill made by politicians, lawyers, civil society and academics alike have been of clauses or sections that have been justified as necessary by the Secretary of State in order to maintain the single unified legal system of England and Wales.” Dywedodd hefyd na fyddai'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn sicrhau setliad cadarn. Cyflwynodd y Blaid Lafur welliant a fyddai'n mewnosod is-adrannau newydd ar ôl y ddarpariaeth sy'n ymwneud â chyfraith Cymru. Byddai'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adolygu'r system gyfiawnder i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru gyda golwg ar ei datblygu a'i diwygio, gan roi sylw penodol i ymwahaniad cyfreithiau Cymru a Lloegr. Mynegodd Paul Flynn AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid, gydymdeimlad at y cysyniad o greu awdurdodaeth ar wahân, ond eglurodd na fyddai'n ei gefnogi'r tro hwn am nad oedd digon o gefnogaeth i'w basio ac nad oedd, felly, yn ddim mwy na “gesture politics.” Eglurodd y byddai gwelliannau Llafur yn cyflawni tri pheth.
  • Yn gyntaf, byddai dyletswydd ar yr Arglwydd Ganghellor a Gweinidogion Cymru i barhau i adolygu gweithrediad y system gyfiawnder, gan gynnwys y cwestiwn ynghylch awdurdodaeth.
  • Yn ail, byddent yn gallu penodi panel arbenigol i'w cynghori, a allai fod yn ffynhonnell amhrisiadwy o arbenigedd gyfreithiol i ganolbwyntio ar y materion ymarferol.
  • Yn drydydd, byddai'n rhaid i'r gwaith fod yn dryloyw ac yn gyson, gydag adroddiad blynyddol yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a'r Senedd.
Daeth i'r casgliad canlynol: The Secretary of State, like his predecessor, wants the Bill to offer a lasting settlement, and so do we, but that will not happen unless they put forward a credible and serious process for reforming the joint jurisdiction. Gwrthodwyd gwelliannau Plaid Cymru a Llafur fel ei gilydd. Yn ôl Guto Bebb “the Government is fully committed to maintaining the single legal jurisdiction of England and Wales. It has served Wales well” Aeth ymlaen i gyhoeddi bod gweithgor yn cael ei gynnull gan Lywodraeth y DU i ystyried y newidiadau gweinyddol wrth ddeddfwriaeth Cymru ymwahanu. Treth incwm Dywedodd David Jones AS, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, na fyddai ef na rhai o aelodau eraill meinciau cefn y Llywodraeth yn cefnogi Cymal 16 sy'n cael gwared ar y gofyniad i gynnal refferendwm cyn i dreth incwm gael ei datganoli i'r Cynulliad. Dywedodd Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod y ddadl wedi symud ymlaen yn sylweddol ers Deddf Cymru 2014. Dywedodd fod consensws cryf fod datganoli wedi symud ymlaen yng Nghymru ac na ddylai Llywodraeth Cymru orfod galw refferendwm cyn cael y pŵer i godi, amrywio neu hyd yn oed leihau cyfran o'r dreth incwm. Cyflwynodd Llafur welliant yn darparu ar gyfer fframwaith cyllidol i'w baratoi gan yr Ysgrifennydd Gwladol, y byddai'n rhaid i’r Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd ei gymeradwyo cyn y caiff y darpariaethau treth incwm eu cychwyn drwy orchymyn a wneir gan y Trysorlys. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol mai dim ond ar ôl cytuno ar y fframwaith cyllidol y daeth y cynnig cydsyniad deddfwriaethol o dan y model a fabwysiadwyd yn yr Alban. Roedd yn rhagweld proses debyg yng Nghymru ac nid oedd o'r farn fod y gwelliant yn angenrheidiol. Asesiadau o'r Effaith ar Gyfiawnder Siaradodd Liz Saville Roberts AS yn erbyn gosod rhwymedigaeth ar y Cynulliad i gynnal a chyhoeddi asesiadau o'r effaith ar gyfiawnder ar gyfer Biliau'r Cynulliad, yn enwedig y bwriad i'w gosod ar y Cynulliad drwy ei Reolau Sefydlog ei hun. Ymyrrodd Mark Williams AS, Democratiaid Rhyddfrydol, a gofynnodd: “In many ways the Bill includes a welcome approach for the Assembly to regulate its own affairs, so does she agree that this measure is inconsistent with the rest of the Bill?” Atebodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod Llywodraeth y DU, drwy'r Trysorlys ac amryw Adrannau eraill, yn cyhoeddi canllawiau a gofynion sy'n ymwneud â'r disgwyliadau ynghylch y modd o weinyddu gwariant cyhoeddus ac o ddiogelu buddiannau cyhoeddus. Dyna'r egwyddor ar gyfer ystyried yr asesiadau o'r effaith ar gyfiawnder, yn hytrach na'r modd y mae llawer wedi'u dehongli. Ychwanegodd bod Llywodraeth y DU yn cydnabod “the need for Assembly legislation to make effective enforcement provision, and we are putting that beyond doubt in the Bill.” Bydd blogpost am ail ddiwrnod y drafodaeth ar Fil Cymru yn cael ei gyhoeddi yn fuan.