A oes angen rhaglen newyddion am chwech o’r gloch ar Gymru?

10 Awst 2016:

Erthygl gan Madelaine Phillips, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

BBCNewsroom

Llun: Wikipedia gan Deskana. Dan drwydded Creative Commons

A oes angen rhaglen newyddion am chwech o’r gloch ar Gymru?

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan yr adroddiad canlynol: “BBC White paper and Related Issues” (PDF, 346KB). Canfu’r adroddiad fod rhaglenni newyddion presennol yr Alban yn anfoddhaol ac argymhellodd sefydlu rhaglen newyddion am chwech o’r gloch yn yr Alban (“Scottish Six”). Ers cyhoeddi’r adroddiad, bu galwadau i gyflwyno model tebyg yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â’r ffaith nad yw materion Cymru yn cael digon o sylw yn y cyfryngau. Mae Damian Collins AS, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, wedi dweud y bydd y Pwyllgor yn ystyried yr achos dros raglen newyddion debyg i Gymru.

Mynegodd y pwyllgor bryderon am y ffordd y mae’r BBC yn darlledu’r newyddion ar hyn o bryd, sef angor yn Llundain sy’n trafod materion y DU a materion rhyngwladol ac yna angor yn Glasgow sy’n ymdrin â materion yr Alban. Barn y pwyllgor oedd:

in the post-devolution era, this can lead to network news programmes transmitted from London leading on several purely English stories—for instance on health, justice or education—which have no bearing on Scotland.

Scottish Six

Gwyntyllwyd syniad y Scottish Six gan y bapur polisi Llywodraeth yr Alban ar yr Ymchwiliad i Siarter y BBC (PDF, 888KB) fel ffordd bosibl o wella’r modd y caiff safbwynt yr Alban ei fynegi yn newyddion yr Alban. Fodd bynnag, cydnabu’r adroddiad na fyddai hyn yn ddigonol i fynd i’r afael â’r lefel isel o foddhad â’r ddarpariaeth newyddion yn yr Alban, sydd drwch blewyn o dan 50%.

Dywedodd y BBC wrth Bwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan eu bod yn cydnabod yr anfodlonrwydd â’r fformat presennol a’u bod yn arbrofi â thri opsiwn:

  • Fersiwn o’r rhaglen bresennol gyda mân newidiadau;
  • Rhaglen a gaiff ei hangori yn yr Alban, “with a running order of Scottish, UK and international stories based on news merit, drawing on all the BBC’s facilities and broadcast from Scotland”;
  • Hybrid sy’n mynd yn ôl ac ymlaen rhwng dwy stiwdio, sy’n cynnwys stiwdio a chyflwynydd yn yr Alban yn cyflwyno eitemau o’r Alban a stiwdio yn Llundain i gael newyddion y DU a rhyngwladol.

Argymhellodd adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon mai’r ail opsiwn oedd y mwyaf hyfyw ac y gallai trefn reolaidd o straeon o’r Alban gael ei hymgorffori’n hawdd yn nhrefniant newyddion y BBC. Mae cynlluniau peilot ar y gweill a’r bwriad yw bod y rhaglen yn awr o hyd ac yn disodli’r ‘Six O’Clock News’.

Dywedodd cynrychiolwyr y BBC wrth y pwyllgor fod cynlluniau peilot pellach i gael eu recordio ar ôl yr haf, ac y byddai penderfyniad yn cael ei wneud erbyn diwedd y flwyddyn.

Y Newyddion yng Nghymru

Ers yr adroddiad bu galw am syniad tebyg ar gyfer Cymru hefyd, o ystyried fod Cymru’n wynebu problemau digon tebyg o ran y ffaith nad oes digon o sylw’n cael ei roi i straeon o Gymru yn y cyfryngau.

Yn ystod ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Diwylliant y Pedwerydd Cynulliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC, soniwyd am y gwendidau yn narpariaeth newyddion y BBC yng Nghymru, er na thrafodwyd yn benodol y posibilrwydd o sefydlu rhaglen newyddion am chwech o’r gloch.

Yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor, roedd y Fonesig Rosemary Butler, cyn Lywydd y Cynulliad, yn feirniadol o’r sylw yr oedd y BBC yn ei roi i fywyd gwleidyddol Cymru, gan ddweud:

BBC often ignore Wales all together or mislead viewers by reporting policy developments in devolved areas such as health and education in England as though it applies to Wales when the government here pursues a very different direction.

Roedd adroddiad y Pwyllgor hefyd yn amlygu’r diffyg lluosogrwydd o fewn y cyfryngau yng Nghymru, sy’n golygu bod y cyhoedd yng Nghymru yn fwy dibynnol ar ddarpariaeth newyddion y BBC na rhannau eraill y DU.

Hefyd, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth y DU ar yr Adolygiad o Siarter y BBC, a oedd yn mynegi pryderon tebyg.

Ychydig o gyfryngau newyddion sydd yng Nghymru ac nid oes digon o leisiau ganddi. Mae’r rhan fwyaf o bobl, felly, yn dibynnu ar gyfryngau newyddion y DU nad ydynt yn rhoi llawer o sylw i Gymru. Er bod yna dystiolaeth bod mwy o sôn am faterion gwleidyddol datganoledig yng Nghymru ers Adroddiad King, mae yna le i wella o hyd. Nid yw’r cyfryngau newyddion yn rhoi digon o sylw i faterion Cymreig a digwyddiadau yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, a gafodd ei ffurfio ar ddechrau’r Pumed Cynulliad, yn ystyried pynciau ar gyfer ei raglen waith yn y dyfodol. Efallai y bydd sefydlu rhaglen newyddion am chwech o’r gloch yn rhywbeth y byddai’r Pwyllgor yn awyddus i’w ystyried, fel rhan o’i waith yn trafod y cyfryngau yng Nghymru.