Bil Cymru: Ail Ddiwrnod y Broses Graffu

Cyhoeddwyd 12/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Awst 2016 Erthygl gan Mark Norton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6071" align="alignleft" width="640"]Palas San Steffan Llun o Wikimedia Commons gan Alvesgaspar. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Ar 11 Gorffennaf 2016, trafodwyd Bil Cymru am yr eildro ym Mhwyllgor y Tŷ'r Cyffredin cyfan. Hwn oedd yr ail gyfle i Aelodau Seneddol gyflwyno gwelliannau i Fil Cymru. Roedd y ddadl yn canolbwyntio ar y pwerau a gedwir yn ôl a restrir yn yr Atodlen 7A newydd i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Cymalau Cadw Cyflwynodd Paul Flynn AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru, safbwynt Llafur y byddai'r Bil fel y'i drafftiwyd yn cyfyngu'n amhriodol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac yn gwrthdroi'r cymhwysedd a roddwyd i'r Cynulliad o dan Adran 108(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy'n caniatáu i'r Cynulliad wneud darpariaethau ategol. Dywedodd y byddai gallu'r Cynulliad i lunio deddfwriaeth y mae modd ei gorfodi a rhoi grym iddi yn cael ei gyfyngu'n amhriodol, oni chaiff y Bil ei ddiwygio. Anogodd yr Ysgrifennydd Gwladol i roi ystyriaeth ofalus iawn i'r materion hynny ac i gyflwyno gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd sy'n adlewyrchu sefyllfa gytûn. Dywedodd Liz Saville Roberts AS y coleddwyd y syniad o symud tuag at fodel cadw pwerau'n ôl fel symbol o'r newid yn agwedd San Steffan tuag at y Cynulliad, oherwydd y tybiwyd ei fod yn argoeli fod y berthynas rhwng y naill a'r llall yn aeddfedu. Dywedodd y byddai San Steffan, yn hytrach na gorfod cyfiawnhau datganoli maes o gymhwysedd, yn cael ei orfodi i gyfiawnhau cadw maes o gyfraith yn ôl. Dywedodd:
that should have represented a significant attitudinal shift, and a recognition of greater parity. The sheer length of the list of reserved areas in schedule 1 has made a mockery of that notion.
Eglurodd mai diben y rhan fwyaf o welliannau Plaid Cymru oedd hepgor rhai cymalau cadw o Atodlen 7A i'r Bil. Dywedodd Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod rhai o welliannau'r wrthblaid a Phlaid Cymru yn ceisio ehangu cymhwysedd y Cynulliad yn sylweddol drwy ei alluogi i ddeddfu mewn perthynas â materion a gadwyd yn ôl, cyhyd ag y bo'r ddarpariaeth yn ategol i ddarpariaeth ar fater datganoledig. Dywedodd: “These amendments would drive a coach and horses through the key principle underpinning the new model, which is a clear boundary between what is devolved and what is reserved.” Pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud Gorchymyn Mae Cymal 51 o'r Bil yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn er mwyn gwneud darpariaeth ganlyniadol ar ôl i Fil Cymru gael ei wneud yn ddeddf. Mae hynny'n cynnwys pwerau i ddiwygio, diddymu, dirymu neu fel arall addasu deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth. Yn y ddau Dŷ, darperir gweithdrefn gadarnhaol ar gyfer sefyllfa lle rhagwelir y bydd unrhyw orchymyn o'r fath yn diwygio neu'n diddymu deddfwriaeth sylfaenol. Dywedodd Paul Flynn AS nad oedd unrhyw ddarpariaeth i'r Cynulliad gymeradwyo gorchymyn drafft a fyddai'n diddymu neu'n addasu deddfwriaeth y Cynulliad. At hynny, fel y mae’r Bil wedi ei ddrafftio, gallai'r Ysgrifennydd Gwladol gynnig gorchmynion yn addasu Deddfau Seneddol sy'n sail i setliad datganoli Cymru heb fod angen cydsyniad y Cynulliad, er y byddai angen caniatâd Senedd y DU. Dywedodd fod hyn yn anghywir o ran egwyddor. Atebodd Guto Bebb AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, fod Cymal 51 yn ddarpariaeth ganlyniadol eithaf nodweddiadol a'i fod yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gallu tacluso'r llyfr statud lle bo angen hynny mewn cysylltiad â'r Bil hwn. Dywedodd y byddai rhoi rôl i'r Cynulliad i gymeradwyo rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y cymal hwn mor anghyfiawn â rhoi rôl i'r Senedd i gymeradwyo rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddfau'r Cynulliad. Dŵr a Charthffosiaeth Roedd Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid yn awyddus i weld pwerau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ymrryd mewn perthynas â dŵr yn cael eu dileu o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedodd Guto Bebb AS fod datganoli dŵr a charthffosiaeth yn fater cymhleth a bod angen gwneud rhagor o waith i ystyried y goblygiadau ymarferol. Roedd Llywodraeth y DU wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen ar y cyd â Llywodraeth Cymru i drafod y materion hyn. Mae'r gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau ac mae Llywodraeth y DU yn ystyried y dystiolaeth. Arwyddion Traffig a Therfynau Cyflymder Dadleuodd David Davies AS ac aelodau eraill meinciau cefn y Llywodraeth yn erbyn datganoli pŵer i Lywodraeth Cymru newid cyfyngiadau cyflymder ac arwyddion traffig yng Nghymru. Honnodd fod hynny'n ddiangen ac yn wrthgynhyrchiol. Atebodd Guto Bebb AS y cytunwyd yn ystod proses Dydd Gŵyl Dewi y dylid datganoli'r cyfrifoldeb am derfynau cyflymder yng Nghymru. Bydd pwerau dros arwyddion traffig, gan gynnwys croesfannau i gerddwyr, hefyd yn cael eu datganoli. Eglurodd fod y cymal a'r atodlen, gyda'i gilydd, yn cael yr effaith o ddatganoli i'r Cynulliad a Gweinidogion Cymru gymhwysedd deddfwriaethol a gweithredol mewn perthynas â bron pob un o ddarpariaethau Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 sy'n ymwneud â chyfyngiadau cyflymder ac arwyddion traffig. Pwerau Plismona Dywedodd Paul Flynn AS fod yr Wrthblaid yn credu bod angen newid y pwerau plismona oherwydd bod Comisiwn Silk wedi argymell datganoli plismona yng Nghymru. Dywedodd:
Policing is the only major front-line public service that is not at present the responsibility of the devolved institutions in Wales. That anomalous position means that it is significantly more difficult to achieve advantages of collaboration with other blue light services
Fodd bynnag, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol na chafwyd consensws yn ystod proses dydd Gŵyl Dewi i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Dadleuodd fod cysylltiad anorfod rhwng trosedd, trefn gyhoeddus a phlismona a'r system cyfiawnder troseddol. Cyfeiriodd at welliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, a Llafur, y naill am ddileu'r cymalau cadw ar gyfer adloniant yn hwyr yn y nos a'r llall am ddileu'r cymalau cadw ar gyfer trwyddedu alcohol. Dywedodd fod Llywodraeth y DU o'r farn bod gan y ddau fater gysylltiad agos â phlismona a chadw trefn gyhoeddus. Gan gofio bod plismona a chyfiawnder troseddol yn dal i fod yn faterion a gedwir yn ôl, dylai adloniant yn hwyr yn y nos a thrwyddedu alcohol hefyd fod yn faterion a gedwir yn ôl o dan yr egwyddor a sefydlwyd eisoes. Cynhelir cyfnod adrodd Bil Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin ar 12 Medi 2016.