Diwrnod canlyniadau TGAU

Cyhoeddwyd 25/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Awst 2016
Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6120" align="alignnone" width="682"]Ffotograff o ganlyniadau arholiadau Llun: o Flickr. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Heddiw mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau TGAU. Yn yr un modd â chanlyniadau Safon Uwch yr wythnos diwethaf, mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys saith darparwr cymwysterau mwyaf y DU) yn cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau [PDF 668KB]. Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda'r cyrff dyfarnu sy'n aelodau. Mae’r canlyniadau hyn ar gyfer y dysgwyr hynny a safodd arholiadau ym mis Mehefin 2016. Mae newidiadau polisi yn Lloegr wedi golygu bod llai o ddysgwyr yn sefyll arholiadau cyn yr Haf. Er i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau blaenorol, Huw Lewis, fynegi pryder am y cynnydd y niferoedd y disgyblion a oedd yn sefyll eu harholiadau’n gynnar, ni fu newid yn y polisi hwn yng Nghymru. Canlyniadau Mae'r data yn y tablau isod yn cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2015 a 2016. Mae'r gymhariaeth hon yn seiliedig ar y data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar ddiwrnod canlyniadau 2015. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu gwirio cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel Cymru, ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ymwneud â nifer y ‘cofrestriadau’ ac nid yr ‘ymgeiswyr’. Felly, er enghraifft, gall y data ddangos bod perfformiad wedi gwella neu waethygu ar lefel TGAU neu o fewn graddau. Ni allant ddangos a oes mwy o fechgyn neu ferched wedi cael pum gradd A-C* neu fwy yn eu harholiadau TGAU. Mae’r data’n ymwneud â chanlyniadau y meysydd pwnc unigol ar gyfer pawb beth bynnag eu hoedran. Cymharu 2015 a 2016
  • Yng Nghymru, mae nifer y bechgyn sy’n cael graddau A*-C wedi gostwng 0.5 pwynt canran tra bod canran y merched sy’n cael graddau A*-C wedi cynyddu 0.3 phwynt canran. Arhosodd canran yr holl ddysgwyr sy’n cael graddau A*-C yr un fath â 2015 ac mae bellach yr un fath â Lloegr .
  • Gwelwyd cynnydd o 0.2 y cant yn y gyfradd lwyddo gyffredinol (A*-G) ymhlith merched. Gwelwyd gostyngiad o 0.1 y cant yn y gyfradd lwyddo gyffredinol ymhlith bechgyn. Mae’r gyfradd yr un fath â’r llynedd ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • Gwelwyd cynnydd o 0.3 phwynt canran yn nifer y bechgyn a gyflawnodd raddau A*, a gostyngiad bach o 0.1 pwynt canran ymhlith y merched. Gwelwyd cynnydd o 0.1 pwynt canran yn y radd hon ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • Eleni gwelwyd cynnydd o 0.1 pwynt canran ymysg y bechgyn a gyflawnodd raddau A*-A, cynnydd o 0.4 pwynt canran ymysg y merched a chynnydd o 0.2 y cant ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • Yn Lloegr, gwelwyd gostyngiadau ar gyfer yr holl raddau. Ar gyfer graddau A*, gwelwyd gostyngiadau o 0.2 pwynt canran ar gyfer bechgyn, 0.1 pwynt canran ar gyfer merched a 0.2 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr;
  • Ar gyfer graddau A*-C, gwelwyd gostyngiadau o 2.4 pwynt canran ar gyfer bechgyn, 2 bwynt canran ar gyfer merched a 2.2 pwynt canran ar gyfer yr holl ddysgwyr.
Bechgyn a merched
  • Mae merched yn parhau i gael canlyniadau gwell na bechgyn ar bob lefel yng Nghymru a Lloegr;
  • Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi lleihau ar gyfer y radd A* ond wedi ehangu ar gyfer pob gradd arall. Yn Lloegr, mae’r Bwlch wedi cynyddu ar gyfer pob gradd.
Cymru a Lloegr Mae tablau 1 a 2 yn dangos y ganran a gofrestrodd ym mhob pwnc fesul gradd ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2015 a 2016. Dylid trin cymariaethau rhwng canlyniadau yng Nghymru a Lloegr yn ofalus iawn gan fod gwyriad cynyddol mewn polisi yn gwneud cymariaethau o’r fath yn anodd. (Gweler nodyn cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.)  Yn ogystal â’r newid mewn polisi yn Lloegr yn annog ysgolion i beidio â chofrestru plant yn gynnar pan nad ydynt yn gwbl barod, bu newidiadau eraill mewn patrymau cofrestru yn Lloegr gan gynnwys ei gwneud yn orfodol i fyfyrwyr ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg pan fyddant wedi cael gradd llai nag C. Dylid nodi hefyd bod canlyniadau’r JCQ ond yn cynnwys cyfres yr haf. Nid ydynt yn cynnwys rhai sydd wedi cofrestru’n gynnar yn y gaeaf neu rai sy’n ailsefyll a gallant wyrdroi’r cymariaethau, yn enwedig mewn sefyllfa lle mae disgyblion mwy abl yn cael eu cofrestru’n gynnar. O ran graddau A* ac A*-A, roedd perfformiad dysgwyr yn Lloegr yn well na pherfformiad dysgwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r bwlch mewn perfformiad wedi lleihau ers 2015. Ar gyfer graddau A*-C, cafodd bechgyn yn Lloegr ganlyniadau gwell na’r rhai yng Nghymru (0.2 pwynt canran yn well) ond cafodd y merched a’r holl ddysgwyr yr un canlyniadau (71 y cant a 66.6 y cant) yng Nghymru a Lloegr.  Ar gyfer graddau A*-G, roedd perfformiad y bechgyn, y merched a’r holl ddysgwyr ychydig yn well yng Nghymru o gymharu â Lloegr (0.4 pwynt canran, 0.2 pwynt canran a 0.3 pwynt canran yn y drefn honno).
GCSE-cy Bagloriaeth Cymru Cafodd canlyniadau Diploma Canolradd a Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd. Ar y Lefel Sylfaen, dyfarnwyd y Dystysgrif Graidd i 92.5 y cant o'r ymgeiswyr, o'i gymharu ag 86.7 y cant yn 2015.  Dyfarnwyd y Diploma i 90.3 y cant o'r ymgeiswyr o'i gymharu ag 85 y cant y llynedd. Ar y Lefel Ganolradd, dyfarnwyd y Dystysgrif Graidd i 93.8 y cant o'r ymgeiswyr o'i gymharu ag 89.4 y cant yn 2015, a dyfarnwyd y Diploma i 82.6 y cant o'r ymgeiswyr o'i gymharu ag 82.2 y cant yn 2015.