Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2016-18

Cyhoeddwyd 08/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

08 Medi 2016 Erthygl gan Stephen Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ffotograff o bentwr o dabledi. Mae Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau newydd Llywodraeth Cymru Gweithio gyda'n gilydd i leihau niwed: Cynllun Cyflawni 2016 - 2018 yn nodi'r cynlluniau diweddaraf i fynd i'r afael ag effaith camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae'r cynllun yn cynnwys y blynyddoedd sy'n weddill o Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru (2008-18) Llywodraeth Cymru er y bydd yn cael ei weithredu yng nghyd-destun deddfwriaeth newydd a wnaed yn y Pedwerydd Cynulliad. Yn unol â hynny, mae canlyniadau'r Cynllun Cyflawni yn cael eu mapio ar y nodau a osodwyd gan Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn ogystal â mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau anghyfreithlon, mae'r Cynllun Cyflawni hwn yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau a achosir gan gamddefnyddio cyffuriau sy'n gwella delwedd a pherfformiad (IPEDs), sylweddau seicoweithredol newydd (NPSs), a meddyginiaethau. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y cynllun rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2016. Mae'r ystadegau diweddaraf o (1.32MB) yn dangos bod cynnydd sylweddol (9.9%) mewn atgyfeiriadau at y gronfa ddata o'r flwyddyn flaenorol, gan wrthdroi'r duedd ar i lawr oedd yn amlwg cyn 2013-14. Alcohol oedd y prif sylwedd problemus ar gyfer y rhan fwyaf o atgyfeiriadau (54%). Roedd atgyfeiriadau heroin yn cyfrif am 19.4%, atgyfeiriadau canabis am 9.5%, amffetaminau 4.4% a chocên yn cyfrif am 3.6% o'r holl atgyfeiriadau. Mae'r Cynllun Cyflawni newydd yn cynnwys mentrau i:
  • Godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau niweidiol posibl sylweddau seicoweithredol newydd (y cyfeirir atynt yn aml fel 'legal highs').
  • Codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau niweidiol posibl cyffuriau gwella delwedd a pherfformiad ac i barhau i gymryd rhan mewn rhaglen wyliadwriaeth ledled y DU ar nifer yr achosion, natur a risgiau defnyddio IPEDs yng Nghymru.
  • Lleihau'r defnydd amhriodol o feddyginiaethau presgripsiwn yn unig a meddyginiaethau dros y cownter.
  • Sicrhau bod atgyfeiriadau priodol yn cael eu gwneud yn gyflym i wasanaethau camddefnyddio sylweddau gan wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill.
  • Atal digartrefedd a helpu pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau i gynnal tenantiaethau.
  • Sicrhau bod camddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael ei reoli'n effeithiol.
  • Cynyddu argaeledd gwasanaethau camddefnyddio sylweddau sy'n seiliedig ar adferiad.
  • Gwella canlyniadau tymor hir ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan gamddefnyddio sylweddau trwy fynediad at gyflogaeth a hyfforddiant.
Mae'r Cynllun Cyflawni yn dilyn gwerthusiad annibynnol o'r tair blynedd gyntaf o weithredu Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru (2008-18) Llywodraeth Cymru, a oedd yn nodi bod diffyg darpariaeth yn y strategaeth ar gyfer mesur canlyniadau. Mae'r cynllun hefyd yn defnyddio gwybodaeth o ddau ymchwiliad a gynhaliwyd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad: Sylweddau Seicoweithredol Newydd (2015/16), a Chamddefnyddio Alcohol a Sylweddau (2015). Rhai themâu cyffredin o'r argymhellion yn nau ymchwiliad y Pwyllgor oedd:
  • yr angen am fwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r niwed cysylltiedig;
  • yr angen i wella hyfforddiant i weithwyr proffesiynol y GIG; ac
  • yr angen i wella rhaglenni addysg a pholisïau mewn ysgolion ar y materion.
Hefyd, nododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiffyg data, yn enwedig o ran maint y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd. Mae'r Cynllun Cyflawni yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn y ffyrdd canlynol: Codi ymwybyddiaeth o niwed. Cam Allweddol 1 yn y cynllun yw Codi ymwybyddiaeth o'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau gyda gweithwyr proffesiynol a'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o effaith camddefnyddio sylweddau ar iechyd a datblygu ymgyrchoedd atal wedi'u targedu sydd wedi'u hanelu at newid ymddygiad mewn perthynas â sylweddau cyfreithlon ac anghyfreithlon, gan gynnwys alcohol, sylweddau seicoweithredol newydd a chyffuriau a meddyginaethau gwella delwedd a pherfformiad. Bydd pobl ifanc (hyd at 24 oed) a grwpiau oedran hŷn (50 oed a hŷn) yn cael eu targedu ar gyfer codi ymwybyddiaeth. Gwella hyfforddiant. Mae camau gweithredu sy'n ymwneud â gwell hyfforddiant camddefnyddio sylweddau i staff y GIG, gan gynnwys staff gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol a'r rhai sy'n gweithio mewn adrannau damwain a brys a'r gwasanaethau brys. Mae yna hefyd gamau gweithredu i ddarparu hyfforddiant i staff gofal cymdeithasol ac i wella ymwybyddiaeth o faterion camddefnyddio sylweddau ymhlith gweithwyr eraill fel fferyllwyr, staff tai, a phobl sy'n gweithio yn yr economi nos.   Gwella rhaglenni a pholisïau addysg mewn ysgolion. Argymhellodd Ymchwiliad Sylweddau Seicoweithredol Newydd Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adolygiad brys o'r rhaglen addysg cyffuriau bresennol mewn ysgolion. Credai'r Pwyllgor fod angen gwella cysondeb ar draws Cymru a sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan bobl sydd wedi'u hyfforddi a'u cymhwyso addas. Mae'r Cynllun Cyflawni yn cynnwys Gweithred Allweddol 4 Sicrhau bod rhaglenni addysgol priodol ar gael ar draws Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithredu'r argymhellion o'r adolygiad o Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (RhGCYCG) sy'n rhaglen addysgu atal troseddu yn canolbwyntio ar gyffuriau a chamddefnyddio sylweddau, ymddygiad cymdeithasol a chymuned, a diogelwch personol.