Diwygio'r cwricwlwm: Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Cyhoeddwyd 16/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Medi 2016 Erthygl gan Joe Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6180" align="alignnone" width="682"]bwlb golau ar wely o gerrig mân Llun: o Flickr gan Camera Eye Photography. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith Cymhwysedd Digidol, yr agwedd gyntaf ar ddiwygio'r cwricwlwm yng Nghymru, i'w gyflwyno mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yng Nghymru. Mae'r Fframwaith wedi ei gynllunio i'w ddefnyddio gyda phob dysgwr rhwng 3 a 16 ac hŷn ac mae'n dilyn argymhelliad gan adolygiad yr Athro Graham Donaldson o'r cwricwlwm ac asesu. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio cymhwysedd digidol fel:
set o sgiliau, gwybodaeth ac agweddau i alluogi'r defnydd hyderus, creadigol a beirniadol o dechnolegau a systemau. Dyma'r set sgiliau sy'n galluogi person i fod yn ddinesydd digidol hyderus, i ryngweithio a chydweithio yn ddigidol, i gynhyrchu gwaith yn ddigidol ac i fod yn hyderus wrth drin data a meddwl yn gyfrifiannol (datrys problemau).
Ni fwriedir i'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ddisodli gwersi TGCh neu gyfrifiadureg mewn ysgolion ac mae'r rhaglenni astudio ar gyfer y pynciau hyn yn parhau. Bwriedir i'r Fframwaith fodoli ochr yn ochr â TGCh a chyfrifiadureg ac annog integreiddio sgiliau digidol ar draws yr ystod lawn o wersi. Gelwir hyn yn 'Gyfrifoldeb Traws-gwricwlaidd', gyda chymhwysedd digidol yr un mor bwysig â llythrennedd a rhifedd. Er bod y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn awr ar gael i'r ysgolion hynny sydd am ei fabwysiadu, nid dyma'r fersiwn derfynol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei ryddhau yn awr er mwyn i ysgolion, a sefydliadau addysgol eraill, ymgyfarwyddo ag ef a dechrau datblygu gweledigaeth ar gyfer sut y gellir ei integreiddio'n llawn ar draws eu cwricwlwm yn y dyfodol. Disgwylir y bydd y Fframwaith yn cael ei gwblhau a'i ddefnyddio ledled Cymru o 2021. Pam mae'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn cael ei gyflwyno? Cafodd y cysyniad o fframwaith ar gyfer sgiliau digidol ei nodi gyntaf mewn adroddiad, a gyhoeddwyd yn 2014, gan y Grŵp Llywio TGCh i Lywodraeth Cymru. Argymhellodd yr adroddiad:
Dylai Fframwaith Llythrennedd Digidol Statudol gael ei roi ar waith i weithio ochr yn ochr â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd o'r Cyfnod Sylfaen hyd at addysg ôl-16.
Cafodd yr argymhelliad hwn ei adolygu a'i drafod gan yr Athro Donaldson yn ei adolygiad annibynnol o drefniadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru,  a adroddodd ym mis Mawrth2015. Cyhoeddom gyfres o erthyglau ar y blog hwn ar y pryd yn esbonio casgliadau'r adolygiad. Canfu'r Athro Donaldson fod cymhwysedd digidol yn 'fwyfwy hanfodol i ddysgu a bywyd'. Ailadroddodd y galwadau i roi 'statws tebyg o fewn y cwricwlwm i hynny sydd gan lythrennedd a rhifedd' i sgiliau digidol. Yn hynny o beth, mae'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi'i fodelu ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh). Daeth y FfLlRh yn statudol ym mis Medi 2013, ac mae wedi cael ei ymgorffori'n ffurfiol yn y cwricwlwm presennol. Mae'n debygol o gael ei ddisodli wrth i weddill argymhellion yr Athro Donaldson ddod i rym. Cafodd datblygiad y Fframwaith, a chanfyddiadau ehangach Adolygiad Donaldson eu croesawu yn gyffredinol gan holl bleidiau gwleidyddol y Pedwerydd Cynulliad, yn ogystal ag arweinwyr o'r sector addysg. Yn fwy diweddar, nododd Comisiynydd Plant Cymru ei bod yn cymeradwyo'r Fframwaith, a'i botensial i helpu plant i lywio trwy fyd y cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel, mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Sut cafodd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ei ddatblygu? Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, y byddai fframwaith cymhwysedd digidol ar gael o fis Medi 2016. Hon oedd un o agweddau cyntaf Adolygiad Donaldson i'w gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y gwaith ymarferol o ddatblygu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ei wneud gan athrawon/ymarferwyr o Ysgolion Arloesi Digidol. Cyhoeddwyd yr Ysgolion Arloesi hyn ym mis Gorffennaf 2015, a maent
wedi'u gwasgaru ar draws Cymru ac yn cynrychioli'r goreuon o blith ein sectorau ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Byddant yn gweithio ar draws ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg er mwyn sicrhau ein bod yn creu fframwaith sy'n addas ar gyfer pob dysgwr.
Cafodd yr Ysgolion Arloesi eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, y consortia rhanbarthol, Estyn ac arbenigwyr allanol. Pa gymorth sydd ar gael ar gyfer y rhai sy'n dymuno gweithredu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol? Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld unrhyw ymrwymiadau adnoddau sylweddol ar gyfer y rhai sy'n mabwysiadu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn gynnar. Mae'r ffocws yn fwy ar ddatblygu hyder a chymhwysedd digidol ymarferwyr, yn hytrach nag ar galedwedd neu feddalwedd. Mae yna (a bydd yna) nifer o ffynonellau cymorth ac arweiniad am ddim ac am gost isel i ymarferwyr sy'n dymuno gweithredu'r Fframwaith cyn 2021. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • arweiniad cychwynnol gan Lywodraeth Cymru
  • adnoddau digidol a byrddau trafod ar Hwb. Ychwanegir at y rhain o 2017;
  • cymorth gan y Rhwydwaith Arloeswyr Digidol, sydd ar hyn o bryd yn gweithio i ganfod y deunyddiau a fydd yn ddefnyddiol wrth gefnogi ysgolion ac athrawon/ymarferwyr i ddefnyddio'r Fframwaith;
  • bydd hyfforddiant a chymorth ar sut i roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn cael ei ddarparu gan y Rhwydwaith Arloesi a'r consortia rhanbarthol. Er bod rhywfaint o gefnogaeth ar gael o fis Medi 2016, bydd y rhaglen hyfforddi lawn yn cael ei datblygu ar sail adborth a chanfyddiadau'r rhai sy'n mabwysiadu'r Fframwaith yn gynnar; a
  • bydd consortia rhanbarthol yn cynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Fframwaith.
Pa newidiadau eraill fydd yna i'r Cwricwlwm yng Nghymru? Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yw cam cyntaf diwygio'r Cwricwlwm ysgolion yng Nghymru yn ehangach. Yn y dyfodol, bydd dysgu yn yr ysgol yn cael ei seilio ar chwe 'Maes Dysgu a Phrofiad'. Y meysydd hyn yw:
  • Celfyddydau mynegiannol;
  • Iechyd a llesiant;
  • Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol, a ddylai barhau'n orfodol hyd at 16 oed);
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys Cymraeg, a ddylai barhau'n orfodol hyd at 16 oed, ac ieithoedd tramor modern);
  • Mathemateg a rhifedd; a
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Bydd hefyd tri chyfrifoldeb traws-gwricwlaidd, y mae cymhwysedd digidol yn un ohonynt. Y ddau arall yw llythrennedd a rhifedd, sydd wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru ers 2010 pan osododd fwy o bwyslais ar wella ysgolion ac alinio llawer o'i pholisïau â Rhaglen Asesu Myfyrwyr (PISA) yr OECD. Bydd y tri chymhwysedd hyn yn cael eu hintegreiddio ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Mae'r cwricwlwm newydd hwn yn cael ei ddatblygu a'i gynllunio ar hyn o bryd gan ysgolion arloesi'r cwricwlwm. Disgwylir y bydd y cwricwlwm newydd ar gael erbyn mis Medi 2018, gyda phob ysgol yn ei ddefnyddio o fis Medi 2021 ymlaen.