Siarter Ddrafft y BBC: Beth y mae hyn yn ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 23/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

23 Medi 2016 Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Bwriad yr erthygl hon yw llywio ac ategu'r ddadl sydd wedi’i threfnu ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27 Medi 2016. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU Siarter Ddrafft y BBC. Siarter y BBC yw sail gyfansoddiadol y gorfforaeth: mae'n nodi'n fras sut y dylai'r BBC gael ei threfnu a beth y dylai ei wneud. Ymhelaethir ar y gofynion hyn mewn Cytundeb rhwng y BBC a Llywodraeth y DU, y cyhoeddwyd drafft ohono ochr yn ochr â'r Siarter Ddrafft. Bwriedir i'r Siarter Ddrafft fod yn weithredol o 1 Ionawr 2017 tan 31 Rhagfyr 2027. Busnes blaenorol y Cynulliad: A yw'r BBC yn gwneud digon i Gymru? Tua diwedd y Cynulliad diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (CELG) ymchwiliad i sut y dylai Siarter y BBC adlewyrchu buddiannau Cymru. Dyma rai o'r pryderon allweddol a godwyd gan y Pwyllgor:
  • Roedd gwariant BBC Cymru Wales ar gynnyrch teledu cyfrwng Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru rhwng 2006-7 a 2014-15 wedi gostwng o £24.6 miliwn i £20.8 miliwn, sef gostyngiad o tua 30 y cant mewn termau real.
  • Ers tua 2006, mae gwariant rhwydwaith y BBC yng Nghymru wedi cynyddu i'r graddau fod Cymru wedi ennill 7.8 y cant – neu £59.1 miliwn – o wariant y BBC yn y DU ar y rhwydwaith deledu, sy'n fwy na'i chyfran o'r boblogaeth, sef 4.9 y cant. Er eu bod yn croesawu'r gwariant hwn yng Nghymru, roedd y Pwyllgor o'r un farn â'r rhanddeiliaid nad oedd y rhaglenni rhwydwaith a gynhyrchwyd gyda'r arian hwn yn gwneud llawer i ymdrin â materion sy'n effeithio ar Gymru yn benodol.
Dyma ffeithlun yn dangos gwariant BBC Cymru. Gwnaeth y Pwyllgor nifer o awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella gweithgareddau'r BBC i'w gwneud yn fwy perthnasol i Gymru. Roedd y rhain yn cynnwys:
  • Cymeradwyodd y Pwyllgor alwadau gan Lywodraeth Cymru a'r Sefydliad Materion Cymreig i'r BBC fuddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol yn y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer Cymru.
  • Dylai'r BBC ddatganoli ei drefniadau comisiynu fel bod mwy o benderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud yng Nghymru.
  • Dylai'r BBC osod targedau i'w hun ar gyfer portreadu Cymru yn ei chynyrchiadau rhwydwaith, a chyflwyno adroddiad ar hynny'n flynyddol.
Roedd pryderon y Pwyllgor yn glir: nid yw'r BBC yn gwario digon o arian ar gynyrchiadau Cymreig, nac yn cynhyrchu digon o raglenni sydd â blas unigryw Cymreig. Ers hynny, mae llawer o safbwyntiau'r Pwyllgor wedi cael eu mynegi yn yr adroddiadau a ganlyn: I ba raddau y mae'r Siarter Ddrafft a'r Cytundeb Drafft sy'n cyd-fynd â hi yn rhoi sylw i'r pryderon hyn? Y Siarter Drafft: a yw'n mynd i'r afael â phryderon y Pwyllgor? Mae'r prif bwyntiau i Gymru yn y Siarter a'r Cytundeb Drafft yn cynnwys:
  • Diben cyhoeddus cryfach, sy'n nodi bod yn rhaid i'r BBC: “reflect, represent and serve the diverse communities of all of the UK’s nations and regions and, in doing so, support the creative economy across the UK”.
  • Cafodd trefniadau atebolrwydd rhwng y BBC, Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru eu sefydlu mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gynharach eleni. Cafodd y rhain eu hategu yn y Siarter Ddrafft, sy'n nodi bod yn rhaid i'r BBC gydymffurfio â cheisiadau i roi tystiolaeth neu gyflwyno adroddiadau i bwyllgorau'r Cynulliad fel ag y maent yn ei wneud i bwyllgorau dau Dŷ'r Senedd. Mae'n rhaid ymgynghori â Llywodraeth Cymru os caiff y Siarter ei hadolygu neu ei hadnewyddu.
  • Mae'n rhaid i gynllun, adroddiad a chyfrifon blynyddol y BBC gynnwys manylion am y ddarpariaeth ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU.
  • Bydd gan Fwrdd newydd y BBC – a fydd yn llywodraethu'r BBC – gyfarwyddwr anweithredol o Gymru, a bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar ei benodiad.
  • Mae gan Ofcom rôl newydd wrth reoleiddio'r BBC, gan gynnwys sicrhau bod cynulleidfaoedd yn y gwledydd unigol yn cael eu gwasanaethu'n dda. Mae'n rhaid i Ofcom sicrhau y darperir allbwn a gwasanaethau mwy nodweddiadol ar y BBC. Gellid dehongli bod hynny'n golygu creu rhaglenni sy'n ymwneud yn benodol â chenhedloedd neu ranbarthau penodol.
  • Yn ogystal â rheoleiddio'r cynnwys, bydd Ofcom yn gyfrifol am sicrhau bod cyfran addas o raglenni rhwydwaith yn cael eu cynhyrchu y tu allan i Lundain, gan gynnwys ym mhob un o wledydd y DU. Yn 2006, gosododd y BBC darged i fuddsoddi 17 y cant o'i gwariant cyffredinol ar y rhwydwaith yn y gwledydd datganoledig, sy'n cyd-fynd yn fras â maint poblogaeth y gwledydd hynny gyda'i gilydd: rhagorwyd ar y targed hwnnw yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth y DU yn bwriadu lleihau'r targed gofynnol hwn.
Mae'r darpariaethau hyn yn awgrymu y gallai fod rhaglenni ar y BBC sy'n fwy nodweddiadol o safbwynt rhanbarthol a chenedlaethol yng nghyfnod y Siarter nesaf, gan gynnwys rhaglenni i gynulleidfaoedd yng Nghymru: yn dibynnu ar y graddau y bydd cyllid a chamau gweithredu'r gorfforaeth yn cyd-fynd â'r darpariaethau hyn. Fodd bynnag, cyhoeddodd BBC Cymru yn ddiweddar y byddai angen i'r sefydliad arbed £9 miliwn y flwyddyn erbyn 2022 er mwyn ymdopi â'r cytundeb ar gyfer ffi'r drwydded lle nad yw'r pris yn newid. Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, wrth staff ei fod yn gobeithio cyfyngu ar y toriadau mewn meysydd cynnwys i tua £3 miliwn dros 5 mlynedd, a chyfeirio unrhyw fuddsoddiad newydd at wasanaethau teledu Saesneg. Roedd Mr Talfan Davies wedi nodi'n flaenorol bod rheolwyr y BBC yn barod i wrando ar geisiadau gan Lywodraeth Cymru ac eraill am gyllid ychwanegol i BBC Cymru, ond amser a ddengys a fydd y parodrwydd hynny'n arwain at arian ychwanegol. Beth am S4C? Ers 2013, mae'r rhan fwyaf o gyllid S4C wedi dod o ffi drwydded y BBC. Cyn hynny, daeth cyllid y sianel o Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, sy'n parhau i ddarparu grant bach. Yn 2011-12, cafodd S4C £101 miliwn gan yr Adran Diwylliant. Yn 2014-15, lleihawyd ei chyllideb i tua £82 miliwn. Yn ôl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, mae'r gostyngiad o 36 y cant mewn termau real yng nghyllid S4C ers 2010 wedi bod yn ddifrifol ac yn anghymesur. Mae Cytundeb Drafft y BBC yn nodi y bydd S4C yn cael £74.5 miliwn o ffi'r drwydded bob blwyddyn tan 2020-21. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal adolygiad o S4C yn 2017, i ystyried ei threfniadau ariannu, ei chylch gwaith ac atebolrwydd. Barn Llywodraeth Cymru Wrth roi tystiolaeth yr wythnos diwethaf i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad, nododd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC (sy'n gyfrifol am bolisi darlledu Llywodraeth Cymru), fod Llywodraeth Cymru yn cytuno'n gyffredinol â gwaith y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Siarter y BBC. Dywedodd fod cytundeb  rhwng y BBC ac S4C yn 'aeddfed', gan nodi y byddai mwy o gyllid ar gyfer y BBC ac S4C yn cael ei groesawu. Nododd y bydd yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol yr wythnos nesaf i drafod y Siarter Ddrafft. Yn ôl pob tebyg, daw'r manylion am farn Llywodraeth Cymru yn gliriach ddydd Mawrth 27 Medi pan fydd y Cynulliad yn trafod y Siarter Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn.