Addysg Plant a Phobl Ifanc Y Gymraeg

Pa mor effeithiol yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg?

27 Medi 2016

Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 17 Chwefror 2016  ond fe’i  diweddarwyd yn dilyn cyhoeddi adroddiad Estyn ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol.

Mae hwn yn ddarlun o'r rhai plant ysgol.
Llun gan westerntelegraph.co.uk

Yn Chwefror 2016, bu Aelodau’r Cynulliad yn trafod pa mor effeithiol yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wrth gefnogi uchelgeisiau lleol a chenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Roedd y ddadl yn y cyfarfod llawn yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad (PDF 1.2MB) ym mis Rhagfyr 2015 ac ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 290KB), a gyhoeddwyd ar 17 Chwefror 2016.

Beth yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol greu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cynllun tair blynedd yw Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, sy’n cael ei adolygu bob blwyddyn. Mae Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn gymharol newydd. Maent wedi bod yn weithredol ers mis Ebrill 2012 ac fe’u rhoddwyd ar sail gyfreithiol gan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae’n ofynnol i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg nodi:

  • cynigion yr awdurdod lleol ar sut y bydd yn gwella’r gwaith cynllunio o ran darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, safonau addysg cyfrwng Cymraeg a’r gwaith o addysgu Cymraeg yn yr ardal;
  • targedau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella’r gwaith cynllunio i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac ar gyfer gwella safonau’r addysg honno a’r gwaith o addysgu Cymraeg yn yr ardal;
  • y cynnydd a wnaed i fodloni’r targedau a nodwyd yn y cynllun blaenorol neu’r cynllun diwygiedig blaenorol.

Mae asesiad yr awdurdod lleol o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, a’r camau y bydd yn eu cymryd i ateb y galw, yn rhan hollbwysig o’r cynlluniau.

Mae’r Cynulliad yn chwarae rôl graffu drwy archwilio perfformiad Llywodraeth Cymru, yn hytrach nag awdurdodau lleol. Felly, edrychodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn benodol ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn creu ac yn cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac a yw’r dull gweithredu hwn yn golygu bod uchelgeisiau a thargedau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy tebygol o gael eu cyflawni.

Beth yw targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg?

Ym mis Ebrill 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Nod y Strategaeth yw:

  • gwella’r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob oedran
  • cynllunio ar gyfer gweithlu priodol
  • gwella’r systemau cymorth canolog ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg
  • cyfrannu at ddatblygu ac atgyfnerthu sgiliau Cymraeg teuluoedd a chymunedau.

Mae’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cynnwys nifer o dargedau cenedlaethol, a ddefnyddir i fonitro cynnydd. Yn eu tro, mae’r awdurdodau lleol yn gosod targedau lleol yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Amlinellodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, y cysylltiad rhwng Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, gan ddweud y canlynol i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

“Mae’r Strategaeth yn cynnwys targedau sefydlog pum mlynedd a thargedau mynegol deng mlynedd yn seiliedig ar ganlyniadau. Yn sgil hynny byddai cynnydd gweledol yn erbyn y targedau hyn yn cael eu mesur o fewn system gynllunio mwy effeithiol, atebol a chydlynol. Mae’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) yn greiddiol i’r system gynllunio hon.”

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a gyhoeddwyd yn 2011, yn nodi’r gofyniad bod awdurdodau lleol yn cyflwyno adroddiad ar y targedau canlynol, a geir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg:

  • mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel canran o garfan Blwyddyn 2
  • mwy o ddisgyblion yn parhau i wella eu sgiliau iaith wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
  • mwy o fyfyrwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • mwy o fyfyrwyr 16-19 yn astudio Cymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • mwy o fyfyrwyr â sgiliau uwch yn y Gymraeg.

Roedd y canllawiau yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i awdurdodau lleol adrodd ar gynnydd o ran: safonau cyrhaeddiad o ran y Gymraeg a Chymraeg ail iaith, darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 hefyd yn cynnwys rhestr o faterion y mae’n rhaid ymdrin â hwy mewn Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Beth yn union y bu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymchwilio iddo?

Bu’r Pwyllgor yn ystyried:

  • a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gyffredinol Llywodraeth Cymru;
  • a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newid angenrheidiol ar lefel awdurdod lleol (neu a oes ganddynt y potensial i wneud hynny) (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg);
  • trefniadau o ran gosod targedau, monitro, adolygu, cyflwyno adroddiadau, cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn hyn o beth);
  • a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn dangos tystiolaeth o ryngweithio effeithiol rhwng Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru a pholisïau a deddfwriaeth perthnasol eraill (er enghraifft polisi cludiant ysgol, rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Iaith Fyw: Iaith Byw – datganiad polisi Bwrw Mlaen, Dechrau’n Deg, polisi cynllunio);
  • A yw canlyniadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl (er enghraifft disgyblion cynradd/uwchradd, plant o gartrefi incwm isel).

Beth oedd canfyddiadau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg?

Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2015, ac roedd yn dweud:

“Mae gan Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESPs) y potensial i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg ac sy’n astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd llawer o randdeiliaid yn cydnabod y potensial hwn ac yn croesawu’r Cynlluniau pan gawsant eu cyflwyno. Fodd bynnag, mae llawer o’r rhanddeiliaid hynny wedi’u siomi gan ddiffyg effaith y Cynlluniau wrth iddynt gael eu gweithredu. Iddynt hwy, mae hanes y Cynlluniau hyd yn hyn wedi bod yn un o golli cyfle. Yn fwy pryderus, mae pryderon cynyddol nad ydynt yn addas i’r diben.”

Roedd y Gweinidog ar y pryd wedi cydnabod na chaiff holl dargedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru eu cyflawni, gan ddweud wrth y Pwyllgor:

“We have already acknowledged in the last two Annual Reports on the Welsh-medium Education Strategy that we would be unlikely to meet all the 2015 targets. Against that background, it seems unlikely that those targets which will not be met in 2015 will also be met in 2020 without improved planning and action at local authority level.”

Nodir enghraifft o un o’r targedau hynny yn y ffeithlun isod o adroddiad y Pwyllgor, sy’n nodi’r targedau ar gyfer addysgu plant saith oed drwy gyfrwng y Gymraeg ochr yn ochr â data ar y newid yn y ganran yn ôl awdurdod lleol rhwng 2010 a 2014.

Dyma ffeithlun sy’n dangos data ynghylch y targed ar gyfer addysgu plant saith oed drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ffynhonnell: Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Adroddiad Blynyddol 2014-15, Llywodraeth Cymru

Cyflwynodd y Pwyllgor 17 o argymhellion, gan gynnwys bod yn “rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod targedau’r Strategaeth yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynlluniau Strategol a bod yn fwy cadarn wrth gymeradwyo’r Cynlluniau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu uchelgais Llywodraeth Cymru.”

Roedd yr adroddiad yn sôn hefyd am “y rôl ddeuol sydd gan awdurdodau lleol wrth asesu’r galw [ac ateb y galw] am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â hyrwyddo ei thwf”, a nodwyd bod y dystiolaeth yn awgrymu bod “barn gref bod awdurdodau lleol wedi cael trafferth deall y rôl ddeuol hon yn llawn.” Aeth y Pwyllgor ymlaen i argymell y “dylai Llywodraeth Cymru fod yn gliriach gydag awdurdodau lleol ynghylch ei disgwyliadau mewn perthynas â hyrwyddo twf addysg cyfrwng Cymraeg fel bod pob awdurdod lleol yn ymrwymo i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru.”

Beth oedd ymateb Llywodraeth flaenorol Cymru i 17 argymhelliad y Pwyllgor?

Yn ei hymateb (PDF 290KB), dywedodd Llywodraeth Cymru:

“Mae awdurdodau lleol wedi cael 3 blynedd i ddatblygu a mireinio eu CSGA’u ond mae’r graddau y bu’n rhaid cyflwyno addasiadau cyn gallu rhoi cymeradwyaeth Gweinidogol yn awgrymu bod peth ffordd i fynd cyn iddynt fod wedi gwreiddio’n ddigonol o fewn prosesau awdurdodau lleol er mwyn cyfrannu’n effeithiol tuag at dargedau a chanlyniadau’r Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.”

“Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dyfodiad y CSGA’u fel elfen bwysig o greu’r system sy’n angenrheidiol i wella’r cynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal â safonau addysg cyfrwng Cymraeg. Tra bod y mecanwaith hwn wedi ei dderbyn gan awdurdodau lleol, mae’n rhy gynnar i farnu effaith y Cynlluniau, yn enwedig gan fod y gwaith o gymeradwyo’r Cynlluniau yn gychwynnol ac yn dilyn hynny y Cynlluniau diwygiedig, wedi cynnwys addasiadau sylweddol.”

Roedd y Llywodraeth yn derbyn chwe argymhelliad, ac yn derbyn chwech arall ‘mewn egwyddor’. Gwrthodwyd pum argymhelliad.

Gallwch wylio’r ddadl ar Senedd TV.