Tai

Cymdeithasau Tai yng Nghymru: cyrff cyhoeddus neu breifat?

29 Medi 2016

Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun: Flikr gan Part 3. Dan drwydded Creative Commons

Heddiw (29 Medi 2016), cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn cael eu hailddosbarthu fel cyrff sector cyhoeddus yn y cyfrifon cenedlaethol. Gallai’r penderfyniad hwn gael effaith negyddol ar allu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (yr hyn y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei alw’n gymdeithasau tai) i gael mynediad at gyllid preifat, ac o ganlyniad i hynny, eu gallu i ddatblygu tai fforddiadwy.  Cyhoeddwyd penderfyniadau tebyg hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw mewn perthynas â’r Alban a  Gogledd Iwerddon.

Disgwyliwyd y cyhoeddiad heddiw gan lawer yn y sector. Nid yw’n benderfyniad gwleidyddol, ond yn hytrach, y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n dilyn rheolau rhyngwladol ar gyfrifyddu yn y sector cyhoeddus. Yn 2015, ail-ddosbarthodd  y Swyddfa Ystadegau Gwladol Ddarparwyr Cofrestredig Preifat tai cymdeithasol yn Lloegr, a elwir hefyd yn gymdeithasau tai, fel cyrff sector cyhoeddus.  Amlygodd y penderfyniad hwnnw mai’r rheswm  dros eu hailddosbarthu oedd faint o reolaeth oedd gan y llywodraeth dros y cymdeithasau.  Ar ôl hynny cyflwynodd Llywodraeth y DU nifer o fesurau yn Neddf Tai a Chynllunio 2016 i ddadreoleiddio’r sector yn Lloegr. Felly, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gallu dychwelyd Darparwyr Cofrestredig Preifat Lloegr i’r sector preifat ar ryw adeg yn y dyfodol agos.  Ymddengys bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn gorfod gwneud yr un peth, a chyflwyno ei deddfwriaeth ei hun i leihau rheolaethau’r llywodraeth a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Effaith ymarferol yr ailddosbarthu yw rhoi dyled cymdeithasau tai ar y fantolen gyhoeddus at ddibenion cyfrifyddu cenedlaethol, gan gynyddu benthyciadau’r sector cyhoeddus, a hynny er mawr siom i Drysorlys Ei Mawrhydi. Yng Nghymru, gallai hyn ychwanegu dros £2 biliwn o ddyled at fantolen y sector cyhoeddus.  Yn Lloegr, cynyddodd y penderfyniad ddyled net y sector cyhoeddus bron i £60 biliwn.

Gwnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei phenderfyniad i ddosbarthu Darparwyr Cofrestredig Preifat fel cyrff sector cyhoeddus yn Lloegr yn bennaf ar sail newidiadau deddfwriaethol a rheoleiddiol a ddaeth yn sgil Deddf Tai ac Adfywio 2008. Canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod maint y reolaeth sydd gan Lywodraeth y DU dros gymdeithasau tai, a hynny’n bennaf drwy’r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau, yn golygu y dylent gael eu dosbarthu fel rhan o’r sector cyhoeddus.  Er bod rheoleiddio Cymdeithasau Tai Cymru yn cael ei lywodraethu’n bennaf gan Ddeddf Tai 1996, caiff llawer o’r un rheolaethau eu harfer gan Lywodraeth Cymru (yn ei rôl fel rheoleiddiwr cymdeithasau tai) â’r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau.  Adlewyrchir hynny yn y datganiad heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n dweud:

…eu bod wedi dod i’r casgliad fod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSLs) yn ddarostyngedig i reolaeth sector gyhoeddus oherwydd, ymhlith pethau eraill: pwerau Gweinidogion Cymru dros reolaeth o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, pwerau caniatâd Gweinidogion Cymru dros waredu tir a gwaredu asedau tai, a phwerau Gweinidogion Cymru dros newidiadau cyfansoddiadol o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Er y disgwylir i Lywodraeth Cymru gael rhywfaint o amser i ddatrys y mater hwn cyn i’r Trysorlys geisio gosod rheolaethau ar fenthyca, mae penderfyniad ar y ffordd ymlaen yn debygol o gael ei wneud cyn bo hir er mwyn osgoi ansicrwydd, yn enwedig ymhlith benthycwyr. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, sef y corff sy’n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, wedi cyhoeddi datganiad ac am ddarparu cyngor cyfreithiol i’w Aelodau cyn hir.

Efallai y bydd rhai rhanddeiliaid yn gwrthod symudiadau tuag at hyn y gellid ei weld fel dadreoleiddio’r sector, ond efallai nad oes llawer o ddewis. Os bydd cymdeithasau tai Cymru yn parhau i fod yn rhan o’r sector cyhoeddus (at ddibenion cyfrifyddu o leiaf) gallent fod yn destun capiau’r Trysorlys ar fenthyca a gallai’r targed o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd y Pumed Cynulliad fod yn llawer mwy heriol.