Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb – Y Cynnydd a’r Her

Cyhoeddwyd 07/10/2016   |   Amser darllen munudau

07 Hydref 2016 Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Dyma lun o'r Siambr Dydd Mawrth (11 Hydref 2016), bydd Aelodau Cynulliad yn trafod y cynnydd sydd wedi’i wneud, a’r her sy’n parhau, wrth geisio mynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru. Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref (gweler y tabl isod) yn Hydref 2015 yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2014-15, i’w gymharu â 2013-14 (tabl 1.02 yn yr atodiad). Cafodd 2,259 o droseddau casineb eu cofnodi ar draws Cymru yn 2014-15, i’w gymharu â 1,877 yn 2013-14. Mae adroddiad Llywodraeth CymruMynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu Adroddiad Cynnydd 2015-16 - yn awgrymu bod agwedd bositif i’r cynnydd yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd, a hynny oherwydd bod y cynnydd yn arwydd o godi ymwybyddiaeth a chynnydd yng nghywirdeb y cofnodi. Ond, mae unrhyw gynnydd yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yn destun pryder, yn enwedig gan ystyried adroddiad diweddaraf y Comisiwn Ewropeaidd yn erbyn Hiliaeth ac Anoddefgarwch ynglyn â’r DU. Mae’r adroddiad yn pwysleisio nifer o bryderon, gan nodi ‘bod trafodaethau gwleidyddol anoddefgar sylweddol yn parhau, gan ganolbwyntio ar fewnfudo, a chyfrannu tuag at y cynnydd mewn teimladau senoffobig’. Yn ôl Llywodraeth Cymru (tudalen 2), mae tystiolaeth yn parhau i awgrymu nad yw tua 50% o droseddau casineb yn cael eu cofnodi. [caption id="attachment_6259" align="alignnone" width="1518"]megtable-cy2 Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref[/caption] Diffinio troseddau casineb Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cytuno ar ddiffiniad cyffredin o droseddau casineb (tudalen 6):
  • Trosedd casineb yw: ‘Unrhyw drosedd a ddehonglir gan y dioddefydd neu unrhyw unigolyn arall i fod wedi ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil tybiedig rhywun; crefydd neu grefydd tybiedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sy’n drawsrywiol neu y tybir ei fod yn drawsrywiol.’
  • Digwyddiad casineb yw: ‘Unrhyw ddigwyddiad, nad yw’n drosedd, a ddehonglir gan y dioddefydd neu unrhyw unigolyn arall i fod wedi ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil tybiedig rhywun; crefydd neu grefydd tybiedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sy’n drawsrywiol neu y tybir ei fod yn drawsrywiol.’
Ar hyn o bryd, caiff troseddau casineb eu cofnodi a’u monitro gan yr heddlu ar gyfer y nodweddion gwarchodedig canlynol – anabledd, hil, crefydd/credo, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, er gall pobl ddioddef troseddau casineb oherwydd nodweddion eraill. Gall rhai pobl ddioddef troseddau neu ddigwyddiadau casineb oherwydd cyfuniad o fwy nag un ffactor nodedig, megis eu hil a’u hanabledd. Nid yw dioddefwr trosedd neu ddigwyddiad casineb yn gorfod perthyn i unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig uchod, o reidrwydd, ond mae’r sawl sy’n cyflawni’r drosedd yn credu hynny. Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu Ym Mai 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu. Mae llwyddiant y fframwaith yn cael ei fesur yn erbyn un canlyniad lefel-uchel, sef: Galluogi unigolion a chymunedau i fod yn gadarn, yn gydlynol ac yn ddiogel er mwyn mynd i’r afael â digwyddiadau a throseddau casineb. Ategir y canlyniad lefel-uchel gan dri amcan strategol:
  • Atal – drwy herio’r agweddau sy’n sail iddo, codi ymwybyddiaeth, ymyrraeth gynnar er mwyn ei atal rhag gwaethygu, hyfforddi sefydliadau a defnyddio amcanion cydraddoldeb penodol i weithio gyda Sefydliadau Sector Cyhoeddus;
  • Cynorthwyo dioddefwyr – drwy gynyddu lefelau adrodd, annog datblygiad pellach canolfannau adrodd trydydd parti, gwella diogelwch a lles, ac ymchwilio i gymorth o safon ar gyfer dioddefwyr; a
  • Gwella’r ymateb aml-asiantaethol – drwy ymchwilio i ddata perthnasol a rhwystrau i rannu gwybodaeth, cynyddu gwaith aml-asiantaethol a mynd i’r afael â chymhellion troseddwyr.
Cynllun Cyflawni Blynyddol Yn dilyn cyhoeddi’r fframwaith, dechreuodd Llywodraeth Cymru gynhyrchu Cynllun Cyflawni Blynyddol sy’n cynnwys camau gweithredu penodol er mwyn cyflawni amcanion strategol y fframwaith. Mae’r camau gweithredu wedi cael eu rhannu i wyth maes cyflawni:
  • Mynd i’r afael â bwlio sy’n gysylltiedig â chasineb a hybu parch;
  • Hybu cynhwysiant a chadernid;
  • Hybu cydraddoldeb a chysylltiadau da;
  • Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth wrth gyflawni gwasanaethau;
  • Cynyddu nifer y troseddau a’r digwyddiadau sy’n cael eu hadrodd;
  • Cynyddu’r cymorth i ddioddefwyr;
  • Gwella gweithio mewn partneriaeth; a
  • Mynd i’r afael â throseddwyr.
Adroddiad Cynnydd Mae Adroddiad Cynnydd blynyddol Llywodraeth Cymru yn dangos y cynnydd sydd wedi’i wneud tuag at gyflawni amcanion strategol y fframwaith. Mae’r camau sydd wedi eu cymryd tuag at gyflawni’r amcanion hefyd yn cael eu rhannu i’r wyth maes cyflawni uchod. Mae Adroddiad Cynnydd 2015-16 yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â’r camau sydd wedi eu cymryd i fynd i’r afael â throseddau casineb, gan gynnwys y gwaith a wnaed mewn ysgolion a gyda theuluoedd, trefnu sesiynau Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, ymgyrchoedd ar y cyd gyda mudiadau, megis Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a chymryd rhan mewn digwyddiadau, megis Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb.