Cau cwmnïau bysiau: beth yw'r dyfodol i wasanaethau bws lleol yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 13/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

13 Hydref 2016 Erthygl gan Eleanor Warren-Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6270" align="alignnone" width="682"]Graff sy'n dangos y gostyngiad yn nifer y teithwyr bysiau yng Nghymru Ffigur 1 - Teithiau unigol ym Mhrydain ar wasanaethau bws lleol fesul gwlad (Mynegai:2004-05 = 100). Ffynhonnell: Cyfres Ystadegau Bysiau Yr Adran Drafnidiaeth, ceir niferoedd y teithwyr yn BUS0106 (nodiadau a diffiniadau o'r ystadegau hyn)[/caption] Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn rhoi datganiad i'r Cyfarfod Llawn ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru ar 18 Hydref. Gwneir hyn ar ôl i dri chwmni bysiau gau yng Nghymru dros yr haf, sef Silcox Coaches, GHA Coaches a Lewis Coaches. Mae'r blog hwn yn disgrifio cyflwr presennol y diwydiant bysiau yng Nghymru, yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg yn ystod ymchwiliad i wasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol a gynhaliwyd yn y Pedwerydd Cynulliad, ac yn amlinellu Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 15 Medi 2016 ynglŷn â gwasanaethau bysiau lleol. Llai o wasanaeth bws a llai yn eu defnyddio Bysiau yw'r math o drafnidiaeth gyhoeddus a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru, ond mae'r ddarpariaeth a niferoedd y teithwyr (Ffigur 1) yn lleihau. Mae adroddiadau blynyddol y Comisiynydd Traffig yn dangos bod nifer y gwasanaethau bysiau lleol cofrestredig yng Nghymru wedi gostwng 46% rhwng 2005 a 2015. Cyhoeddodd y Pwyllgor Menter a Busnes yn y Pedwerydd Cynulliad adroddiad ar wasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru ym mis Mawrth 2016, gan wneud 12 o argymhellion. Roedd y dystiolaeth a ddaeth i law'r Pwyllgor yn awgrymu amryw o resymau posibl am y gostyngiad, gan gynnwys gweithredwyr yn cyfuno gwasanaethau, cyllid cyhoeddus yn cael ei gwtogi, mwy o bobl yn berchen ar geir, a gweithredwyr masnachol yn cynnal asesiadau mwy llym o hyfywedd llwybrau. Ni waeth beth yw'r rhesymau, clywodd y Pwyllgor y cafwyd effaith fawr, yn sgil colli gwasanaethau, ar y bobl a'r cymunedau sy'n fwyaf dibynnol ar fysiau, yn enwedig cymunedau gwledig, pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl ifanc a phobl ar incwm isel. Proffidioldeb a strwythur y diwydiant bysiau yng Nghymru Mae data a gyhoeddwyd gan y Passenger Transport Intelligence Services yn awgrymu bod elw gweithredwyr bysiau yng Nghymru (7.0% yn 2014) yn debyg i'r rhai ar draws Prydain (6.7%), ardaloedd o Brydain nad ydynt yn fetropolitanaidd (7.2%) a'r Alban (7.3%). Fodd bynnag, nid yw'r data hyn ond yn cwmpasu chwe chwmni bws mwy o faint. Yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd (PDF 405 KB) i'r ymchwiliad gan y Comisiynydd Traffig, mae mwy o weithredwyr bysiau a choetsys bach yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o Brydain. Disgrifiodd effaith hyn, gan ddweud:
The composition of the PSV industry in Wales features a significant portion of small family run businesses. These businesses are often the first to suffer in times of falling patronage or when exposed to an unlevel ‘playing field’ as a result of a lack of enforcement.
Rhoddodd yr Athro Cole dystiolaeth (PDF 1.64 MB) yn awgrymu bod elw cwmnïau bysiau yng Nghymru ar hyn o bryd yn is na'r lefelau cyn y 1990au, sef hyd at 15%. Daeth i'r casgliad a ganlyn:
profit levels of [Welsh] bus companies are below those required by most companies to prosper and grow
Arian cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwasanaethau bysiau, trwy'r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau. Mae'r grant hwn a'i ragflaenydd, y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol, wedi'u rhewi ar £25 miliwn ers 2013-14, sy'n doriad mewn termau real. Hefyd, mae awdurdodau lleol yn gallu cefnogi gwasanaethau bysiau sy'n "angenrheidiol yn gymdeithasol" drwy eu cyllid refeniw craidd. Fodd bynnag, cyhoeddodd yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well adroddiad Buses in Crisis 2010-16 (PDF, 5.4 MB) ym mis Tachwedd 2015, a ganfu fod cyllid awdurdodau lleol wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl yr adroddiad, roedd cyllid gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng 11.4% yn 2015/16, sef yr ail ostyngiad mwyaf ledled Cymru a Lloegr, a'r mwyaf y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr. Canfu hefyd fod nifer o awdurdodau lleol Cymru, fel Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam, bellach wedi rhoi'r gorau i ddarparu unrhyw gyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau o'u cyllid refeniw eu hunain. Mae'r Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well wedi cyhoeddi map sy'n dangos y gostyngiadau yn y cyllid i wasanaethau bysiau gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr dros y cyfnod 2010 – 2016. Pobl anabl a hŷn sy'n cyfrif am tua hanner yr holl deithiau bws yng Nghymru, fel rhan o Gynllun Teithio Rhatach Cymru Gyfan. Canfu'r Pwyllgor Menter a Busnes fod refeniw o'r cynllun yn cyfrif am 46% o incwm gweithredwyr bysiau yng Nghymru. Y flwyddyn ariannol bresennol, 2016-17, yw'r flwyddyn olaf mewn cytundeb ariannu tair blynedd ar gyfer y cynllun tocynnau teithio rhatach.  Dylai lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer y cynllun o fis Ebrill 2017 gael ei chadarnhau ôl cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar 18 Hydref 2016. Polisi bysiau yn y dyfodol a datganoli pwerau Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen 2016-2021, yn cynnwys ymrwymiad i "[d]darparu rhwydwaith mwy effeithiol o wasanaethau bws unwaith y bydd y pwerau wedi'u datganoli". Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates AC, ar 15 Medi ei fod yn awyddus i ddarparu rhwydwaith bysiau yng Nghymru sy'n sefydlog neu cynyddu, gan nodi cynllun pum pwynt i gynorthwyo'r diwydiant bysiau i fod yn fwy cynaliadwy. Mae ei gynllun yn cynnwys:
  • cynnig cymorth proffesiynol i gwmnïau bysiau;
  • gofyn i awdurdodau lleol ddiogelu cymorth ariannol i wasanaethau bysiau;
  • rhoi strategaethau ar waith i ymateb i gynlluniau i dynnu gwasanaethau bysiau yn ôl;
  • dysgu gwersi o rwydweithiau bysiau cynaliadwy; a
  • darparu cyllid "i sefydlu swydd cydgysylltydd bysiau newydd o fewn un o awdurdodau lleol Gogledd a De Cymru".
Hefyd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai Uwchgynhadledd Gwasanaethau Bysiau yn cael ei chynnal yn gynnar yn 2017, er mwyn dwyn ynghyd awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau, Defnyddwyr Bysiau Cymru, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol, grwpiau sy'n cynrychioli pobl anabl, a rhanddeiliaid eraill. Cyhoeddwyd ym mis Awst 2016 y byddai Comisiynydd Traffig amser llawn, penodol i Gymru yn cael ei benodi. Dechreuodd y Comisiynydd yn ei swydd ar 1 Hydref. Yn y gorffennol, roedd y Comisiynydd Traffig â chyfrifoldeb am Gymru wedi ei leoli yn Birmingham ac roedd hefyd yn gyfrifol am Orllewin Canolbarth Lloegr. Comisiynwyr traffig sy'n rheoleiddio'r diwydiant bysiau ac yn gyfrifol am gofrestru'r holl wasanaethau bws lleol yn eu hardaloedd traffig. Mae ganddynt bwerau i gymryd camau yn erbyn gweithredwyr sy'n methu â rhedeg eu gwasanaethau yn unol â safonau penodol. Rhagwelir y bydd safonau'n gwella yn sgil penodi Comisiynydd Traffig i Gymru, o ran dibynadwyedd a diogelwch bysiau. Mae Bil Cymru yn cynnwys darpariaethau a fydd, ar ôl ei ddeddfu, yn datganoli pwerau cofrestru bysiau i Gymru. Y DVSA yn Leeds sy'n prosesu dogfennau cofrestru bysiau ar hyn o bryd. Rhagwelir y bydd safonau gwasanaethau bysiau, ac ansawdd y wybodaeth a ddarperir i gwsmeriaid am y rhwydwaith bysiau, yn gwella yn sgil datganoli pwerau cofrestru bysiau.