Trafod Gwaith Comisiynydd y Gymraeg

Cyhoeddwyd 14/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

14 Hydref 2016 Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6306" align="alignnone" width="300"]meri_huws Llun o ComisiynyddyGymraeg.org[/caption] Pedair mlynedd a hanner yn ôl, cychwynnodd Meri Huws yn ei rôl fel Comisiynydd cyntaf y Gymraeg, sy’n gorff annibynnol a grëwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae blog arall yn rhoi rhagor o wybodaeth gefndirol cyffredinol am hyn. Yn ddiweddar, ymddangosodd y Comisiynydd gerbron y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i drafod ei Hadroddiad Sicrwydd 2015-16 – Amser Gosod y Safon: Portread o brofiadau pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg. Dydd Mawrth 18 Hydref, bydd Aelodau Cynulliad yn trafod adroddiad blynyddol y Comisiynydd yn y Cyfarfod Llawn. Safonau’r Gymraeg Roedd 30 Mawrth 2016 yn garreg filltir o ran hawliau i siaradwyr Cymraeg. Mae safonau’r Gymraeg yn gosod dyletswydd cyfreithiol newydd ar awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau parciau cenedlaethol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion drwy gyfrwng y Gymraeg. Nododd y Comisiynydd bod y daith wedi bod yn un hir, ond bod yr hawliau hyn yn "gwireddu statws swyddogol y Gymraeg ac yn galluogi pobl, ym mhob rhan o Gymru, i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.” Dros y misoedd nesaf, bydd dyletswyddau i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael eu gosod ar 54 o gyrff ychwanegol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Estyn, y BBC a Heddluoedd Cymru. Cafodd y rheoliadau sy'n ymwneud â’r 54 o gyrff ychwanegol (Rheoliadau Rhif 2, 4 a 5) eu cymeradwyo gan y Cynulliad ym mis Chwefror a mis Mawrth 2016. Fodd bynnag, ni chafodd rheoliadau rhif 3 sy’n ymwneud â phrifysgolion eu cymeradwyo gan y Cynulliad yn dilyn galwadau i oedi'r broses i ddatrys materion penodol o fewn y sector. Dros amser, bydd rhagor o sefydliadau yn cael eu cynnwys yn y gyfundrefn safonau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rheoliadau sy’n berthnasol i sectorau eraill, megis y sector iechyd, addysg bellach ac uwch a chymdeithasau tai. (Ceir manylion cefndirol ynglŷn y safonau yn y blog yma). Delio â chwynion ac ymchwiliadau statudol Un o brif swyddogaethau’r Comisiynydd yw ymchwilio "amheuon o fethiannau gan sefydliadau cyhoeddus i weithredu eu dyletswyddau statudol" mewn perthynas â'r Gymraeg. Yn ystod y cyfnod adrodd, cyfeiriwyd cyfanswm o 250 o achosion at sylw’r Comisiynydd, er nad oedd pob achos yn cydymffurfio â'r diffiniad statudol o gŵyn o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Gellir datrys nifer o gwynion heb yr angen i gynnal ymchwiliadau statudol, fodd bynnag, mewn rhai achosion, cynhelir ymchwiliad statudol i fethiannau honedig gan gorff. Cynhaliwyd wyth ymchwiliad statudol yn ystod 2015-16. Lle nad yw sefydliadau yn gweithredu o fewn y gyfundrefn safonau neu’n gweithredu cynllun iaith statudol neu wirfoddol, gall y Comisiynydd weithredu ar sail pryderon gan y cyhoedd ynglŷn a’r gwasanaeth neu ddiffyg gwasanaeth Cymraeg. Dan amgylchiadau o’r fath, gellir cynnal adolygiad. Er enghraifft, cynhaliwyd adolygiad gan y Comisiynydd yn Ebrill 2015 i wasanaethau Cymraeg banciau’r stryd fawr yng Nghymru yn dilyn "cynnydd sylweddol yn nifer y pryderon roedd hi’n eu derbyn gan aelodau o'r cyhoedd ynglŷn â diffyg gwasanaethau Cymraeg gan y banciau." Roedd yr adolygiad yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd gan y cyhoedd a chyfweliadau ag uwch swyddogion o fewn banciau sy'n gweithredu yng Nghymru. Arweiniodd yr adolygiad at wyth argymhelliad ar gyfer y sector, o "osod amserlen ar gyfer sefydlu gwasanaethau Cymraeg ar-lein ac apiau bancio symudol" i "[g]ysoni’r defnydd o'r Gymraeg ar draws eu canghennau". Cyllideb y Comisiynydd Mae’r gostyngiad yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn ei chyfanrwydd yn 2016-17 yn 5.9%. Yn ôl Llywodraeth Cymru, cafodd y gostyngiad ei gyfyngu er mwyn diogelu gweithgareddau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru. Roedd gan y Comisiynydd gyllideb o £3.4 miliwn ar gyfer cyfnod 2015-16, gostyngiad o 8.1% ar gyllideb y flwyddyn flaenorol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gostyngiad pellach o 10% yng nghyllideb y Comisiynydd ar gyfer 2016-17, gan ddod â’r cyfanswm lawr i £3.05 miliwn. Dros gyfnod o bedair mlynedd, mae cyllideb y Comisiynydd wedi’i thorri 25% mewn termau ariannol, neu 32% mewn termau real, wedi i chwyddiant gael ei gymryd i ystyriaeth. Yn ôl y Comisiynydd, mae’r toriadau i’w chyllideb dros y blynyddoedd diwethaf yn golygu “nad yw’r adnoddau presennol yn ddigon i ehangu gafael y Mesur dros wahanol sectorau’n fuan”. Mae’r Comisiynydd hefyd wedi pwysleisio’r anghysondeb yn y toriadau i sefydliadau tebyg gyda chyfrifoldebau rheoleiddio a dyletswyddau statudol. Adroddiad Sicrwydd 2015-16 Adroddiad Sicrwydd 2015-16: Amser Gosod y Safon – Portread o brofiadau pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg, yw’r ail adroddiad o’r fath sydd wedi’i gyhoeddi gan y Comisiynydd, gan ganolbwyntio ar faterion sy’n destun pryder i’r Comisiynydd. Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen ar i sefydliadau “newid gêr a darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da fydd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gynyddu eu defnydd o’r iaith yn eu bywydau bob dydd”. Dywedodd wrth y Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu ei bod hi’n credu bod nifer o sefydliadau wedi “cyrraedd rhyw fan fflat o ran twf o ran gwasanaethau”, tra bod eraill wedi cymryd camau sylweddol yn ôl o ran darparu gwasanaethau Cymraeg yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd bod GOV.UK yn enghraifft benodol ble mae gwasanaethau Cymraeg wedi dirywio ers cyflwyno’r wefan newydd, a bod y ddarpariaeth Gymraeg gan rai o asiantaethau’r Llywodraeth, megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, a arferai fod yn gryf, bellach wedi gwanhau. Mae disgwyl bydd y Comisiynydd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn y dyfodol agos i drafod yr Adroddiad Blynyddol.