Cyhoeddi setliad dros dro llywodraeth leol ar gyfer 2017-18

Cyhoeddwyd 19/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Hydref 2016 Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Yn dilyn Cyllideb Ddrafft 2017-18 Llywodraeth Cymru (a rhyddhawyd ddydd Mawrth 18 Hydref 2016), mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol 2017-18 heddiw. Mae'r Setliad yn amlinellu'r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer pob un o 22 awdurdod lleol Cymru. Mae'r Setliad yn gyfwerth â chyfanswm o £4.107 biliwn, sy'n gynnydd o £3.8 miliwn (0.1 y cant) o gymharu â Setliad Terfynol 2016-17. Dyma'r cynnydd cyntaf yn y setliad llywodraeth leol ers 2013-14. Mae'r setliad dros dro yn cynnwys cynnydd a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol. Y cynnydd mwyaf yw 0.9 y cant yng Ngwynedd a'r gostyngiad mwyaf yw -0.5 y cant ar gyfer pum awdurdod lleol (Wrecsam, Powys, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Thorfaen). Mae'r ffeithlun isod yn rhoi dadansoddiad llawn o'r newid canrannol mewn cyllid yn ôl awdurdod lleol. draft-budget-2017-18-local-government-settlement-welsh-01 Eleni, ni fydd unrhyw awdurdod yn wynebu gostyngiad o fwy na -0.5 y cant. O'r pum awdurdod lle gwelir newid cyllid sy'n gyfwerth â -0.5 y cant, mae pedwar ohonynt wedi cael cyllid ychwanegol sy'n werth cyfanswm o £2.3 miliwn i sicrhau na fyddant yn wynebu gostyngiad sy'n fwy na -0.5 y cant. Nodir isod sut y dyrannwyd yr arian ychwanegol hwn:
  • Wrecsam - £181,000
  • Powys - £1,374,000
  • Merthyr Tudful - £585,000
  • Blaenau Gwent - £147,000
Y swm Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yn 2017-18 yw £143 miliwn. Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at awdurdodau lleol, Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2017-18 a Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol 2017-18 (Dros Dro): Cymru gyfan - Tablau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.