Masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau: ar y trywydd iawn

Cyhoeddwyd 19/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Hydref 2016 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg train-station Ar 12 Hydref, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, fod pedwar o ymgeiswyr wedi’u dewis i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses o ddethol Partner Gweithredu a Datblygu (ODP) ar gyfer Masnachfraint Cymru a’r Gororau. Ym mis Tachwedd 2014, daethpwyd i gytundeb â Llywodraeth y DU i drosglwyddo’r pwerau i ddyfarnu masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau i Weinidogion Cymru. Llywodraeth Cymru fydd yr awdurdod masnachfreinio swyddogol yng nghyswllt masnachfraint rheilffyrdd Cymru o ddechrau’r flwyddyn nesaf ymlaen ac mae paratoadau ar y gweill ar gyfer dyfarnu'r fasnachfraint nesaf, ac mae’r broses i fod i ddechrau ym mis Hydref 2018. Ar hyn o bryd, caiff y rhan fwyaf o’r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru eu darparu o dan fasnachfraint Cymru a'r Gororau a gaiff ei gweithredu gan Drenau Arriva Cymru. Dyfarnwyd y contract yn 2003 a disgwylir iddo ddod i ben yn 2018. Mae cytundeb masnachfraint (PDF 3.7 MB) yn nodi rhwymedigaethau Trenau Arriva Cymru a’r Llywodraeth. Mae cytundeb  (PDF 4.89 MB) rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn esbonio sut y cafodd y cyfrifoldeb dros y fasnachfraint ei rannu pan drosglwyddwyd y rhan fwyaf o’r rhwymedigaethau i reoli’r fasnachfraint i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2006. Eleni, i baratoi ar gyfer trosglwyddo pwerau i Gymru, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch y safonau ansawdd roedd y cyhoeddus yn awyddus iddynt gael eu pennu ar gyfer y fasnachfraint nesaf. Daeth 190 o ymatebion i law a oedd yn cynnwys sylwadau ar agweddau fel lleihau amseroedd teithio’n gyffredinol, cynyddu nifer y teithwyr, lleihau costau, gwella capasiti, gwella hygyrchedd, gwella cysylltiadau, prydlondeb, dibynadwyedd ac ansawdd. Y cam nesaf yw caffael Partner Gweithredu a Datblygu ar gyfer y fasnachfraint nesaf a fydd hefyd yn bwrw ymlaen ag agweddau allweddol ar gam nesaf y system metro. Mae’r broses o ddethol Partner Gweithredu a Datblygu wedi dechrau ac mae o dan ofal Trafnidiaeth Cymru, cwmni dielw, mewn perchnogaeth lwyr a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru (manylion isod). Ar 12 Hydref, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, fod pedwar o ymgeiswyr wedi’u dewis i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses ddethol. Dyma’r pedwar cwmni a sydd ar y rhestr fer (yn nhrefn yr wyddor):
  • Abellio Rail Cymru
  • Arriva Rail Wales/Rheilffyrdd Arriva Cymru Limited
  • KeolisAmey
  • MTR Corporation (Cymru) Ltd
Bydd yr ymgeiswyr yn awr yn symud ymlaen i’r cam cystadleuol nesaf wedi iddynt ddangos i Lywodraeth Cymru eu bod wedi llwyddo i ddarparu gwasanaethau o safon yn y gorffennol a’u bod yn awyddus i barhau i wneud hynny, a bod ganddynt hefyd yr adnoddau ariannol a’r arbenigedd i sicrhau llwyddiant. Yn ei gyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Bydd blaenoriaethau’r fasnachfraint nesaf yn cynnwys adnewyddu’r stoc gerbydau, gostwng amseroedd teithio a defnyddio technolegau a dulliau modern i wella gwasanaethau i gwsmeriaid ledled Cymru.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymgynghori’n gyhoeddus ynghylch y cynigion ddechrau 2017 ac, yn amodol ar y broses ymgynghori honno, rhagwelir y caiff y cytundeb ODP terfynol ei ddyfarnu i’r cwmni llwyddiannus ym mis Ionawr 2018. Mae'r broses hon yn rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparu model rheilffyrdd dielw newydd sy’n ymdebygu i’r modd y mae Transport London yn rheoli gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, o ystyried y rhestr o ymgeiswyr, mae’n amlwg, fel yn Llundain, na fydd y cwmnïau a fydd yn darparu’r gwasanaethau a seilwaith y Metro yn gwmnïau dielw. Trafnidiaeth Cymru Mae’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn cael ei rheoli gan y dogfennau allweddol a ganlyn fel yr amlinellir mewn adroddiad a gyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddar, sef Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau trên a seilwaith y rheilffyrdd:
  • Mae llythyr dirprwyo a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Parhaol yn rhoi cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu ychwanegol i’r Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol dros yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol.
  • Mae cytundeb rheoli rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni’n amlinellu diben y cwmni, ei atebolrwydd a’i gyfrifoldebau.
  • Mae llythyr cylch gwaith (a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf) gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu’r prif amcanion a’r canlyniadau y disgwylir i’r cwmni eu cyflawni.
  • Mae cynllun busnes (a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf) gan y cwmni, yn nodi cwmpas, strwythur y sefydliad, yr hyn y gellir ei gyflawni, amserlenni, costau a rhaglen gaffael ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru.
Mae wyth cyfarwyddwr ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd, (gan gynnwys y Cadeirydd): pum cyfarwyddwr anweithredol sy'n gyfrifol am feysydd fel adnoddau dynol, cyllid, darparu seilwaith a llywodraethu, ac mae pob un o’r rhain yn weithwyr cyflogedig i Lywodraeth Cymru; a thri chyfarwyddwr gweithredol sydd ag arbenigedd penodol yn eu meysydd cyfrifoldeb. Dyma brif amcanion y cynllun:
  • Cynllunio a chynnig y cyfuniad priodol o sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth sy’n ofynnol yn y sefydliad er mwyn cyflwyno cystadleuaeth am fasnachfraint, ac yn y dyfodol er mwyn rheoli’r fasnachfraint.
  • Datblygu cynigion a fydd yn ein galluogi i ddarparu system drafnidiaeth lawer gwell ar gyfer De Cymru (y Metro).
  • Rhoi cyngor ynglŷn â threfniadau addas ac effeithiol er mwyn cynyddu effeithlonrwydd hirdymor buddsoddiad mewn rheilffyrdd yng Nghymru.
  • Rhoi cyngor ynglŷn â’r dewisiadau ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau, fel bod y gwaith o gynllunio gwasanaethau rheilffyrdd yn cefnogi uchelgeisiau economaidd a chymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Rhoi cyngor ynglŷn â dewisiadau buddsoddi yng nghyswllt integreiddio trafnidiaeth yn ehangach.
  • Asesu ymarferoldeb nifer o wahanol ddewisiadau buddsoddi tymor canolig a hirdymor yng nghyswllt peirianneg rheilffyrdd.
  • Sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei hysbysu’n llawn am gynnydd mewn cysylltiad â phob un o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol bob chwarter.