Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) fel y'i cyflwynwyd yn y Pedwerydd Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

20 Hydref 2016 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg chamberoof Cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) ym Mehefin 2015. Mae’r Bil yn nodi cyfres o gynigion penodol mewn meysydd blaenoriaeth yng nghyd-destun polisi iechyd cyhoeddus. Y bwriad yw creu amodau cymdeithasol sy’n hyrwyddo iechyd da, gan geisio atal mathau o niwed y gellir eu hosgoi. Disgwylir i Lywodraeth Cymru ailgyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd ym mis Tachwedd. Mae wedi dweud eisoes y bydd ar ffurf y Bil blaenorol, fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3, ond heb yr adrannau sy’n cyfyngu ar ddefnyddio sigarennau electronig mewn mannau cyhoeddus caeedig. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol: Tybaco a chynhyrchion nicotin
  • Cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin, fel sigaréts electronig, mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd caeedig a sylweddol gaeedig, gan ddod â'r defnydd o'r dyfeisiau hyn yn unol â'r darpariaethau presennol o ran ysmygu.
  • Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin.
  • Ychwanegu at y troseddau sy'n cyfrannu at Orchymyn Mangre o Dan Gyfyngiad. (Mae Gorchymyn Mangre o Dan Gyfyngiad yn gwahardd gwerthu cynhyrchion tybaco o'r safle dan sylw).
  • Gwahardd trosglwyddo cynhyrchion tybaco neu nicotin i bobl o dan 18 oed.
Triniaethau arbennig
  • Creu cynllun trwyddedu gorfodol i reoleiddio ymarferwyr a busnesau sy'n darparu 'triniaethau arbennig', sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio;
  • Cyflwyno gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o'r corff i bobl ifanc o dan 16 oed.
Gwasanaethau fferyllol
  • Newid y modd y mae Byrddau Iechyd yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau fferyllol drwy sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar asesiadau o'r angen fferyllol yn eu hardaloedd.
Darpariaeth toiledau
  • Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi strategaethau toiledau lleol er mwyn darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd, a sicrhau mynediad atynt, yn seiliedig ar anghenion eu cymunedau.
Newidiadau allweddol a wnaed yng Nghyfnod 2 Cynhaliwyd y trafodion Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ionawr a Chwefror 2016. Cafodd nifer o welliannau eu derbyn. Hefyd, nododd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno, neu'n ystyried, gwelliannau pellach mewn nifer o feysydd yng Nghyfnod 3. Rhan 2 Tybaco a chynhyrchion nicotin Trin tybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin yn wahanol Yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, rhoddwyd y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin o dan yr un cyfyngiad mewn mannau cyhoeddus/gweithleoedd ag ysmygu sigaréts tybaco. Mae'r newid mwyaf arwyddocaol i'r rhan hon o'r Bil yng Nghyfnod 2 yn deillio o ddiwygiadau sy'n nodi ffyrdd gwahanol o ymdrin â thybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin o ran cyfyngu ar eu defnydd. Roedd hyn mewn ymateb i bryderon y gallai trin tybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin yn yr un modd anfon neges eu bod yr un mor niweidiol. **Fel y nodwyd yn gynharach, ni fydd y darpariaethau sy'n cyfyngu ar ddefnyddio dyfeisiau anadlu nicotin mewn mannau cyhoeddus caeedig yn cael eu dwyn ymlaen nawr** Ymestyn y cyfyngiad i ardaloedd eraill nad ydynt yn gaeedig Ni dderbyniwyd gwelliannau'r gwrthbleidiau i osod gwaharddiad ar ysmygu tybaco mewn mannau chwarae i blant, tir ysgolion a thir ysbytai nad ydynt yn gaeedig ar y wyneb y Bil yng Ngham 2. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n barod i ystyried cyflwyno gwelliannau gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 3. Rhan 3 Triniaethau arbennig Nid yw'r diffiniad o driniaethau arbennig (aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio) ar wyneb y Bil wedi newid. Ni dderbyniwyd gwelliannau'r gwrthbleidiau i ychwanegu brandio, ysgriffio, mewnblannu is-groenol a hollti tafod at y rhestr hon yng Nghyfnod 2. Dywedodd y Gweinidog fod angen ymchwilio i'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r triniaethau arbennig hyn cyn ystyried eu hychwanegu at y ddeddfwriaeth. Nododd y Gweinidog fwriad i ymgynghori'n gynnar ar yr egwyddor o ychwanegu mwy o driniaethau at y rhestr yn fuan ar ôl deddfu, gan nodi y bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys y triniaethau uchod, yn ogystal â thriniaethau eraill a nodwyd yn ystod hynt y Bil hyd yn hyn, fel rholio'r croen, dyfrhau colonig a chwpanu gwlyb. Meini prawf ac amodau trwyddedu Derbyniwyd gwelliannau i roi meini prawf allweddol o ran trwyddedu ar wyneb y Bil. Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau i reoli heintiau a chynnig cymorth cyntaf yng nghyd-destun y driniaeth arbennig berthnasol. Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos eu bod yn gyfarwydd â'r dyletswyddau a osodir arnynt fel y person sydd wedi'i awdurdodi i gynnig triniaeth arbennig. Hefyd, cafodd yr amodau trwyddedu gorfodol (sy'n rheoli ymddygiad ymarferwyr sydd wedi cael trwydded) eu diwygio i gynnwys amodau ynghylch profi oedran unigolyn sydd am gael triniaeth arbennig, rheoli heintiau a chymorth cyntaf. Mae'r amodau trwyddedu gorfodol, a bennir mewn rheoliadau, hefyd yn berthnasol i feddwdod, er mwyn atal deiliad trwydded rhag cynnig triniaeth arbennig i unigolyn sy'n feddw oherwydd diod, cyffuriau neu unrhyw ddull arall, neu sy'n ymddangos i fod yn feddw. Lefel y ddirwy a osodir Derbyniwyd gwelliannau i gael gwared ar y terfyn ar y ddirwy sy'n gysylltiedig â throseddau o ran triniaethau arbennig, gan newid lefel y ddirwy o lefel 3 i ddirwy ddiderfyn. Rhan 4: Rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff Tyllu'r tafod Cafodd y tafod ei ychwanegu at y rhestr o rannau personol o'r corff a restrir ar y wyneb y Bil ynghylch rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff, oherwydd y risg cysylltiedig o niwed. Mae hyn yn golygu y bydd yn drosedd i dyllu tafod person sydd o dan 16 oed neu wneud trefniadau i dyllu tafod person o dan yr oedran hwn. Lefel y ddirwy a osodir Derbyniwyd gwelliannau i gael gwared ar y terfyn ar y ddirwy sy'n gysylltiedig â throseddau o ran rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn, neu wneud trefniadau i roi twll, o ddirwy lefel 3 i ddirwy ddiderfyn. Rhan 5: Gwasanaethau fferyllol Ni dderbyniwyd unrhyw welliannau i'r rhan hon o'r Bil yng Nghyfnod 2. Rhan 6: Darpariaeth toiledau Cafodd y rhan hon o'r Bil ei diwygio yng Nghyfnod 2 i nodi bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol wrth ddatblygu eu strategaethau toiledau lleol (yn hytrach na'u bod yn gallu cyhoeddi'r canllawiau hyn), ac i nodi'n fanylach yr hyn y mae'n rhaid i'r canllawiau hyn ei gynnwys. Hefyd, diwygiwyd y Bil i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi datganiadau cynnydd interim (fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyfnod 1). Mae hwn yn ofyniad newydd sy'n ychwanegol at y ddyletswydd ar awdurdodau lleol (yn y Bil fel y'i cyflwynwyd) i adolygu eu strategaethau yn llawn heb fod yn hwyrach na blwyddyn ar ôl diwedd tymor etholiadol. Rhan 7: Amrywiol – Troseddau sgôr hylendid bwyd Cafodd y Bil ei ddiwygio yng Nghyfnod 2 i wneud mân ddiwygiad technegol i Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 fel bod yn rhaid i'r derbyniadau o hysbysiadau cosb benodedig am beidio â chydymffurfio â'r cynllun sgorio hylendid bwyd gael eu defnyddio gan awdurdodau bwyd (awdurdodau lleol yn bennaf) i sicrhau cydymffurfiad â'r cynllun. Bydd hyn alinio Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) â darpariaethau Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), sy'n nodi bod yn rhaid i dderbyniadau o hysbysiadau cosb benodedig a wneir o dan Benodau 1 a 2 o Ran 1 gael eu defnyddio gan awdurdodau gorfodi i gefnogi'r dyletswyddau newydd a osodir arnynt gan y penodau hyn yn y Bil. Asesiad o'r Effaith ar Iechyd Yn ystod Cyfnod 2, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i gynnwys asesiad o'r effaith ar iechyd ar wyneb y Bil. Mae asesiad o'r effaith ar iechyd yn broses sy'n ystyried i ba raddau y gall iechyd a llesiant poblogaeth gael eu heffeithio, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, gan bolisi, cynllun neu raglen arfaethedig. Yng ngham 1, clywodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan randdeiliaid  y byddai asesiad gorfodol o'r effaith ar iechyd yn darparu mecanwaith er mwyn osgoi neu leihau'r effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant cymunedau, a gwneud y gorau o fanteision iechyd lle y bo modd. Argymhellodd adroddiad cam 1 y Pwyllgor fod y Bil yn cael ei ddiwygio i gynnwys gofyniad i gynnal asesiad gorfodol o'r effaith ar iechyd wrth ddatblygu polisïau neu gynlluniau penodol. Cafodd gwelliannau yn y maes hwn eu cyflwyno gan y gwrthbleidiau yng Nghyfnod 2, ond ni chynigiwyd y gwelliannau hyn oherwydd yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog. Newidiadau allweddol a wnaed yng Nghyfnod 3 Fel y nodwyd yng nghyfnod 2, diwygiwyd y Bil yng nghyfnod 3 gan welliannau Llywodraeth Cymru gan gyflwyno gofyniad i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau effaith ar iechyd. Byddai'r amgylchiadau lle mae'n rhaid i asesiadau o'r effaith ar iechyd gael eu gwneud yn cael eu nodi mewn rheoliadau. Cytunwyd ar welliannau Llywodraeth Cymru, a oedd yn nodi ardaloedd ychwanegol, nad ydynt yn gaeëdig lle byddai ysmygu a defnyddio dyfeisiau anadlu nicotin yn cael ei gyfyngu, sef tir ysgolion, tir ysbytai, a meysydd chwarae cyhoeddus. Rhagor o wybodaeth Gellir gweld y dogfennau allweddol sy'n ymwneud â'r Bil, yn cynnwys Memoranda Esboniadol, adroddiadau pwyllgor, a thrawsgrifiadau o'r trafodion drwy'r dudalen Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ar y we.