Mynd i'r afael â llygredd nitradau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 21/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Hydref 2016 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ffotograff o wartheg Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar fesurau i leihau llygredd dŵr a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Rheoliadau newydd yn 2017. Cefndir Mae llygredd dŵr gwasgaredig yn broblem sylweddol mewn rhai rhannau o Gymru. Caiff ei achosi gan nifer o ffynonellau bach neu wasgaredig lle caiff llygryddion eu cludo i grynofeydd dŵr gan ddŵr glaw ffo o dir trefol a gwledig. Mae hyn yn effeithio ar ecoleg llynnoedd, afonydd a dyfroedd arfordirol, ansawdd dŵr daear a chostau cyflenwadau dŵr. Nod Cyfarwyddeb Nitradau (91/676/EC) yr UE yw lleihau ac atal llygru dŵr gan nitradau o fyd amaeth. Mae cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb hon hefyd yn effeithio’n uniongyrchol ar gydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a’r Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi. Mae’n ofynnol i aelod wladwriaethau nodi crynofeydd dŵr wyneb a dŵr daear sy’n cynnwys llawer o nitradau o ffynonellau amaethyddol, neu a allai fod yn eu cynnwys. Pan fydd crynofa ddŵr o’r fath wedi’i nodi, caiff yr holl dir sydd â dŵr yn draenio i’r grynofa honno ei ddynodi’n Barth Perygl Nitradau a bydd Rhaglen Weithredu ‘Arfer Amaethyddol Da’ yn gymwys i’r ardal honno. Er y pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin, rhaid i’r DU barhau i gydymffurfio â deddfwriaeth yr UE nes y bydd yn gadael yn ffurfiol, a allai fod rywbryd yn 2019 ar hyn o bryd. Mae Rhaglen Weithredu’r Parthau Perygl Nitradau yn cynnwys:
  • rheoli’r dyddiadau (cyfnodau caeedig) a’r amodau y mae gwrtaith nitrogen a deunyddiau organig yn cael eu gwasgaru;
  • cael cyfleusterau digonol i storio tail a slyri;
  • cyfyngu ar faint o wrtaith nitrogen sy’n cael ei wasgaru i angen y cnwd yn unig;
  • cyfyngu ar faint o ddeunydd organig sy’n cael ei wasgaru fesul hectar y flwyddyn;
  • cyfyngu ar gyfanswm y deunydd organig sy’n cael ei wasgaru ar lefel fferm;
  • rheoli’r ardaloedd lle gellir gwasgaru gwrteithiau nitrogen;
  • rheolaethau ar ddulliau gwasgaru; a
  • paratoi cynlluniau a chadw cofnodion fferm digonol.
Rhaid i grynofeydd dŵr mewn Parthau Perygl Nitradau wedyn gael eu monitro bob pedair blynedd am lefelau nitradau ac ewtroffigedd. Ewtroffigedd yw’r cynnydd mewn nitradau neu ffosffad yn y dŵr sy’n annog twf algâu ac sy’n ffurfio blodau dros wyneb y dŵr. Mae hyn yn rhwystro golau'r haul rhag cyrraedd planhigion dŵr eraill, sydd wedyn yn marw. Mae bacteria yn torri’r planhigion marw i lawr ac yn defnyddio’r ocsigen yn y dŵr felly gall y grynofa ddŵr ddod yn ddifywyd. Defnyddir canlyniad yr adolygiad Parthau Perygl Nitradau i lywio'r penderfyniad naill ai i barhau â dynodiadau Parthau Perygl Nitradau ar wahân neu i roi'r Rhaglen Weithredu ar waith ledled yr Aelod-wladwriaeth neu Ranbarth (Cymru yn yr achos hwn) a hefyd i lywio gwelliannau i’r mesurau yn y Rhaglen Weithredu. Ar ôl dynodi ardaloedd penodol o dir yn Barthau Perygl Nitradau, dim ond tirfeddianwyr yn yr ardal honno sy’n gorfod rhoi mesurau’r Rhaglen Weithredu ar waith (gyda thirfeddianwyr mewn ardaloedd eraill yn ddarostyngedig i safonau sylfaenol cenedlaethol eraill yn unig). Os rhoddir y Rhaglen Weithredu ar waith ledled Cymru, bydd rhaid i bob tirfeddiannwr yng Nghymru gydymffurfio. Ar y llaw arall, os na rhoddir y Rhaglen Weithredu ar waith ledled Cymru, bydd rhaid i Barthau Perygl Nitradau gael eu dynodi gan ddefnyddio profion penodol a'u hadolygu bob pedair blynedd. Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu a gorfodi'r Gyfarwyddeb Nitradau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dynodi Parthau Perygl Nitradau a nodi’r hyn y mae angen i ffermwyr sydd â thir yn y Parthau hynny ei wneud i leihau llygredd nitradau. Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) sy'n gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau, gan gynnwys mesurau’r Rhaglenni Gweithredu. Arweiniodd yr adolygiad Parthau Perygl Nitradau diwethaf yn 2012, sy’n cael ei gynnal bob pedair blynedd gan Lywodraeth Cymru, at ddynodi 2.4% o arwynebedd tir Cymru yn Barthau Perygl Nitradau. Hefyd, yn y Rhaglen Weithredu, cyflwynwyd mesurau gwell y mae’n rhaid i ffermydd sydd wedi'u lleoli o fewn Parthau Perygl Nitradau gydymffurfio â hwy. Ar hyn o bryd mae tua 750 o ddaliadau fferm yn destun rheolaethau llygredd o dan y Rhaglen Weithredu ar Nitradau yng Nghymru. Y Rhaglen Datblygu Gwledig Gall cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Nitradau greu costau i ffermwyr mewn Parthau Perygl Nitradau, er enghraifft buddsoddi mewn cyfleusterau storio slyri. Fodd bynnag, mae cymorth ar gael i ffermwyr ar hyn o bryd. O dan y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru (2014-2020), gall ffermwyr cymwys gael cyllid o 80 y cant tuag at gynllunio i reoli nitradau a chyngor o ran y Rheoliadau Parthau Perygl Nitradau drwy Gyswllt Ffermio. Mae cymorth ariannol ar gael hefyd drwy Gynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy’r Cynllun Datblygu Gwledig, i wella adnoddau ac effeithlonrwydd busnes. Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Barthau Perygl Nitradau Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 23 Rhagfyr 2016 ac mae’n gofyn am farn ar:
  • y dewisiadau ar gyfer dynodi Parthau Perygl Nitradau yn y dyfodol – dull wedi'i dargedu i ddynodi Parthau Perygl Nitradau ar wahân neu roi'r rhaglen weithredu ar waith drwy Gymru gyfan.
  • cynigion i addasu mesurau’r Rhaglen Weithredu a roddir ar waith yn y Parthau Perygl Nitradau.
Mae'r ymgynghoriad yn dweud y byddai mabwysiadu'r dull wedi'i dargedu yn golygu cynnydd yng nghyfanswm yr ardal a ddynodir o 2.4% i tua 8%, sy'n cynnwys yr ardaloedd hynny sydd newydd eu nodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r mapiau ar wefan Llywodraeth Cymru yn dangos y Parthau Perygl Nitradau arfaethedig yng Nghymru ac yn dangos y manylion i lawr i lefel y cae. Ymatebion rhanddeiliaid Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi annog ei aelodau i ymateb i’r ymgynghoriad ar Barthau Perygl Nitradau gan rybuddio y bydd nifer o'r cynigion a gyflwynwyd ‘yn effeithio’n ddifrifol ar ffermwyr yng Nghymru':
The FUW remains resolutely against the option to apply the action programme throughout the whole of Wales as this would require all landowners to comply with the NVZ action programme measures. There is a distinct lack of evidence for a whole territory approach and the difficulties and costs associated with regulatory compliance for farms whose land does not drain into nitrate polluted waters, makes this option both unwarranted and unreasonably excessive.
Mae NFU Cymru hefyd yn 'wrthwynebus iawn i’r dynodiadau arfaethedig' a bydd yn cyflwyno 'ymateb cadarn a phendant i'r ymgynghoriad yn seiliedig ar waith craffu manwl ar y dystiolaeth sy'n sail i’r dynodiad'. Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi dadlau bod y Rhaglen Weithredu yn bwysig i atal cyrsiau dŵr rhag cael eu llygru ymhellach. Mae RSPB Cymru wedi datgan (PDF:594 KB) eu bod yn awyddus i annog mwy o reoli tir yn gynaliadwy sy'n cyfrannu at gyflawni amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, gan gynnwys systemau ffermio mwy helaeth.