Y Ddadl ar Fil Cymru

Cyhoeddwyd 03/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

03 Tachwedd 2016 Erthygl gan Kim Obergfall, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg front-view Ddydd Mercher, 19 Hydref 2016 cafodd Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru 2016/17 ei drafod yn y Cynulliad. Barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor, Huw Irranca-Davies AC, fod y Pwyllgor yn croesawu elfennau o'r Bil, megis symud i egwyddor model cadw pwerau, dileu'r prawf angenrheidrwydd o ran cyfraith breifat a throsedd, a rhestru prif awdurdodau cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag, eglurodd Mr Irranca-Davies fod y Pwyllgor o’r farn fod y Bil yn rhy gymhleth ac anhygyrch a bod yr holl gymalau cadw a chyfyngiadau sydd ynddo yn ei wneud yn llawer rhy gyfyng. Nodwyd y byddai angen addasu'r Bil yn sylweddol yn Nhŷ'r Arglwyddi rhag i'r Cynulliad golli pwerau deddfu sylweddol mewn rhai meysydd. O ganlyniad mae o'r farn na fydd yn 'darparu’r setliad parhaol cadarn y mae pobl Cymru wedi ei ddisgwyl. Mae hynny’n siomedig ac mae’n anffodus.' Aeth rhagddo i ddweud bod 'setliad cadarn ac ymarferol yn hanfodol i gywirdeb cyfansoddiadol y DU yn ogystal ag i Gymru' a bod y Pwyllgor yn credu y bydd yn rhaid i wleidyddion yn Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru “ddychwelyd at setliad datganoli Cymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach”. Y rheswm am y diffyg gwydnwch hirdymor yw cymhlethdod y Bil a'r methiant i gyflwyno awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Ategwyd y teimladau hyn gan lawer o'r Aelodau yn ystod y ddadl, gan gynnwys y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, ac Aelodau eraill y Pwyllgor: yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Nathan Gill AC a David Melding AC. Er hyn, mae'r Arglwydd Bourne, sy'n gyfrifol am lywio'r Bil drwy Dŷ'r Arglwyddi, wedi dweud yn ddiweddar ei fod yn credu mai hwn fydd y darn mawr olaf o ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru am amser maith. Roedd Mr Irranca-Davies o blaid cyflwyno proses gytûn o gydweithredu rhwng y Cynulliad Cenedlaethol, ei bwyllgorau a Dau Dŷ'r Senedd a'u pwyllgorau wrth drafod Biliau cyfansoddiadol ac anogodd y dylai'r broses hon, yn ddelfrydol, fod ar waith cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Oherwydd y byddai'n rhy gymhleth i ailddrafftio'r Bil yn llwyr, mae adroddiad y Pwyllgor yn awgrymu gwelliannau a fyddai'n gwneud y Bil yn fwy hygyrch a theg. Barn yr Aelodau Cynulliad eraill Mae Simon Thomas AC (Plaid Cymru) o blaid y syniad o gadw pwerau a chydnabod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliad parhaol. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, mae hefyd yn croesawu'r cyfle i ddatblygu prosesau ariannol newydd. Honnodd fod y Bil yn mynd yn groes i ewyllys y Cymry, fel y'i mynegwyd yn refferendwm 2011, a oedd yn dymuno i'r Cynulliad gael pwerau deddfu llawn. Canmolodd David Melding AC (Ceidwadwyr Cymreig) y Bil am y pwerau arfaethedig dros etholiadau'r Cynulliad yn y dyfodol. Cyfeiriodd hefyd at broblem y profion angenrheidrwydd, gan groesawu'r rhannau hynny lle cawsant eu dileu a galw am newidiadau lle maent yn dal i fod ar gael yn y Bil. Beirniadodd Michelle Brown AC (UKIP) y modd y mae Bil Cymru wedi cael ei greu, gan honni nad oedd Llywodraeth y DU wedi 'ymgynghori'n iawn' â'r Cynulliad. Ychwanegodd fod y ffaith fod pŵer deddfwriaethol yn dychwelyd o Frwsel i’r DU “yn rhoi cyfle euraidd i Gymru gael trafodaeth aeddfed â Llywodraeth y DU ynglŷn â rhannu cymhwysedd deddfwriaethol yn briodol rhwng deddfwrfa’r DU a’r Cynulliad”. Pwysleisiodd Nathan Gill AC (Annibynnol) y byddai'n rhaid ailedrych ar drefniadau cyfansoddiadol Cymru yng ngoleuni penderfyniad y DU i adael yr UE. Tynnodd sylw nad oes cydnabyddiaeth yn y Bil o gwbl “ein bod yn mynd i gael rhai o’r meysydd a ddatganolwyd i Gymru yn dod yn ôl i ni, gobeithio...” oherwydd bod y DU yn gadael yr UE. Cymharodd yr Arglwydd Elis-Thomas AC (Annibynnol) y rhestr fyrrach o lawer o gymalau cadw yn setliadau datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda setliad Cymru, gan ofyn pam y byddai angen trin Cymru'n wahanol. Cwestiynodd hefyd a oedd gan Lywodraeth y DU “wirioneddol ddiddordeb mewn ymateb i’r hyn rydym ni’n ei wneud, sydd yn codi cwestiwn difrifol iawn ynglŷn â’r rhagfarnu yn erbyn y tŷ hwn yng ngweddill y Deyrnas Unedig.” Barn Prif Weinidog Cymru Atgoffodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, Aelodau'r Cynulliad bod yn rhaid cymharu'r Bil hwn â'r Bil drafft. “Mae’r Bil hwn yn well; byddai’n anodd iddo fod yn waeth” meddai. Yna cyfeiriodd at y rhannau hynny o'r Bil a gafodd eu croesawu, a oedd yn cynnwys y pwerau dros faint y Cynulliad a sut y mae'n cynnal ei etholiadau. Dywedodd hefyd ei bod yn “gwbl anochel y bydd yn rhaid mynd i’r afael â Bil arall” ac adleisiodd y pryderon am faterion awdurdodaeth a phlismona: “Eisoes, dywedwyd wrthyf—yr Arglwydd Brif Ustus a ddywedodd hyn wrthyf—fod cyfreithwyr wedi dod i lysoedd yng Nghymru a dadlau’r gyfraith anghywir am eu bod yn credu bod un awdurdodaeth yn golygu un gyfres o ddeddfau. Mae’r dryswch hwn yn sicr o barhau yn y dyfodol.” Cyfeiriodd y Prif Weinidog at rai o'r meysydd dadleuol penodol yn y Bil. Roedd y rheini'n cynnwys materion trwyddedu, y doll teithwyr awyr, porthladdoedd a'r pŵer i ymyrryd yn achos dŵr.  Cadarnhaodd bod cam yn ôl o ran pwerau mewn sawl maes. Cadarnhaodd hefyd ei gred y bydd y pwerau datganoledig hynny sy'n dod yn ôl o Frwsel yn mynd heibio San Steffan ac yn dod i Gymru. Yn ei sylwadau i gloi, diolchodd Huw Irranca-Davies i'r cyfranwyr a dywedodd fod y ddadl yn dangos consensws clir y bydd Bil Cyfansoddiadol arall yn anochel yn y dyfodol agos. Ailbwysleisiodd hefyd fod rhai elfennau da yn y Bil ac y gellid ei wella. I gloi, dyfynnodd y Dr Diana Stirbu, tyst i'r Pwyllgor, a ddywedodd “y dylai setliad cyfansoddiadol fod yn uchelgeisiol hefyd.”